Serena am ad-dalu’r coleg am achub ei bywyd

Postiwyd ar gan karen.smith

Serena Torrance.

Serena Torrance.

Yn ei geiriau ei hun, roedd Serena Torrance unwaith ‘ar goll’. Dioddefai o iselder difrifol yn dilyn marwolaeth ffrind agos mewn damwain car. Prin y gallai godi o’r gwely rai diwrnodau, aeth ei gwaith ysgol ar gyfeiliorn, roedd hi wedi ymddieithrio’n llwyr ac ni welai unrhyw bwrpas i’w bywyd.

Ond er gwaethaf peidio â chyflawni ei harholiadau UG, mewn cyfweliad am gwrs BTEC, cydnabyddodd Goleg Penybont fod Serena’n ddynes ifanc oedd angen cyfle.

Dywed arweinydd isadran y Coleg, Sara Davies, “Dyma un o’r penderfyniadau gorau wnes i erioed!”

Mae twf a datblygiad Serena wedi bod yn eithriadol. Cwblhaodd ei BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol (Fforensig) a Diploma Cenedlaethol a Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda graddau eithriadol yn 2011 ac enillodd le chwenychedig ym Mhrifysgol Caerdydd lle disgwylir iddi ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Troseddeg yn yr haf cyn dechrau ar radd Meistr ym mis Medi.

Ond yn fwy na hynny, mae Serena, sydd bellach yn 23 oed, wedi bod yn gefnogaeth fawr i’w chyd-fyfyrwyr. Mae hi wedi gallu tynnu ar ei chefndir ei hun o oresgyn heriau seicolegol i ddylanwadu ar berson ifanc a chanddo ddiffyg hyder a chymhelliant.

Mae ei thaith addysgol wedi ennill lle iddi yn rownd derfynol Gwobrau VQ mawreddog eleni. Mae’n un o chwech yn y rownd derfynol sy’n cystadlu am y teitl Dysgwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo ar 9 Mehefin, y noson cyn Diwrnod VQ, yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru a’u nod yw helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Mae’r gwobrau, a ariennir yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bellach yn eu hwythfed flwyddyn ac yn cyd-fynd â Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol – dathliad DU-eang o gymwysterau galwedigaethol ar gyfer myfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr – a gynhelir ar 10 Mehefin.

Dywedodd Sara: “Dywedodd Serena bod dod i’r coleg wedi achub ei bywyd: ar ôl blynyddoedd o fod ar feddyginiaeth ac i sesiynau cynghori, cafodd ei rhyddhau gan ei thimau meddygol. Rhoddodd y cwrs bwrpas iddi ac rydym mor falch ohoni.”

Mae Serena’n parhau i gefnogi’r coleg fel llysgennad i fyfyrwyr. “Mae hi’n cefnogi ein dysgwyr yn aeddfed iawn ac yn wybodus ym maes gwyddoniaeth fforensig,” meddai Sara, “Mae rhywbeth arbennig amdani. Rwy’n siŵr y bydd hi’n llwyddiant ysgubol.”

Dywedodd Serena: “Heb Goleg Penybont, dydw i ddim yn gwybod ble fyddwn i. Costiodd iselder difrifol bron i ddwy flynedd o addysg i mi a hoffwn i nawr ad-dalu’r coleg trwy ddarlithio mewn gwyddoniaeth fforensig yno un diwrnod.”

Y dysgwyr eraill sydd yn rownd derfynol Dysgwr VQ y Flwyddyn yw: Casey Coleman, 28, cyfarwyddwr artistig salon Ocean Hairdressing, Caerdydd; James Pepper, 39, cyfarwyddwr gwasanaethau technegol ar Vista Retail Support Ltd, Pentwyn, Caerdydd; cyn-ddysgwyr Coleg Penybont Michael Whippey, 23, prif hyfforddwr yng Nghanolfan Farchogaeth Fferm Shardeloes, Amersham; Paul Wiggins, 35, o Gaerdydd, brocer yswiriant siartredig yn Insurance Services BPW, Casnewydd, a’r cyn ddysgwyr Coleg Sir Gâr Simon McCall, 21, o Capel Dewi, saer hunangyflogedig ac aelod o Sgwad WorldSkills UK.

Mae Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy’n dangos yn glir dilyniant a rhagoriaeth mewn astudiaethau galwedigaethol ac wedi llwyddo’n sylweddol yn eu maes.

Gan longyfarch Serena a’r pump arall sydd yn rownd derfynol Gwobrau VQ, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James:

“Mae Gwobrau VQ yn fwy na dim ond dyfarniad; mae’n symbol o ymroddiad tuag at eich dewis broffesiwn,” meddai. “Mae rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol yn cael eu defnyddio ar gyfer staff i’w galluogi i ddilyn llwybr o ddysgu i gwrdd ac anghenion unigolion, cwmnïoedd, a chwsmeriaid.

“Mae Gwobrau VQ yn ein helpu i ddathlu cyflogwyr Cymru a’r dysgwyr sydd eisoes yn mynd filltir ychwanegol hynny pan ddaw i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

“Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i fuddsoddi yn y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant er mwyn arfogi Cymru gyda gweithlu o’r radd flaenaf.”

More News Articles

  —