Cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol yn dewis gyrfa’n gofalu

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Peter Rogers sy’n datblygu gyrfa newydd diolch i brentisiaethau.

Mae Peter Rogers a fu’n brop yn nhîm rygbi Cymru yn un o brentisiaid hynaf ei wlad erbyn hyn gan ddefnyddio sgiliau oedd yn werthfawr iddo wrth wynebu rhai o dimau rygbi gorau’r byd yn ei yrfa newydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Enillodd Peter, sy’n 51 oed, 18 cap i Gymru a bu’n chwarae i dimau Gwyddelod Llundain, Casnewydd, Caerdydd a Roma. Yn ei farn ef, mae gyrfa ym maes gofal yn ddelfrydol i ddynion a menywod a fu’n broffesiynol ym maes chwaraeon.

“Efallai nad yw’n ymddangos yn waith cyffrous iawn ond, yn fy marn i, mae gofal iechyd yn y cartref yn ddelfrydol i bobl a fu’n chwaraewyr proffesiynol ac sydd heb yrfa’n disgwyl amdanyn nhw ar ôl ymddeol,” meddai.

“Mae angen sgiliau tebyg mewn chwaraeon proffesiynol a gofal iechyd yn y cartref – disgyblaeth, gwaith tîm, cyfathrebu’n dda, cryfder meddyliol, a’r gallu i ddelio â sefyllfaoedd cymhleth sy’n gofyn am gefnogaeth. Mae’r ddwy yrfa’n rhoi boddhad mawr.”

Dywed Peter, sy’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig, Stephanie, ei fod yn falch o ddilyn yn ôl traed ei dad, Phillip, a oedd yn weithiwr cymdeithasol yn Abertawe.

Roedd Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a drefnwyd gan y darparwr dysgu grŵp t2, yn ddigon i agor y drws iddo i yrfa newydd gyda Right at Home, Caerdydd a Chasnewydd. Erbyn hyn mae wedi symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) i ddatblygu ei sgiliau rheoli, gan gynnwys helpu i asesu cleientiaid.

“Pan ddechreuais i gyda Right at Home ym mis Mehefin 2019, dim ond am ryw flwyddyn ro’n i’n bwriadu aros,” esboniodd. “Nawr, ddwy flynedd yn ddiweddarach, dydw i ddim yn credu y gwna i adael y diwydiant gofal; byddai gormod o hiraeth arna i am ddefnyddwyr rheolaidd y gwasanaeth.

“Fe gefais i hyfforddiant ardderchog. Rwy’n mwynhau mynd i dai pobl i ddarparu gofal ac rwy’n cael teimlad braf bob dydd, rhywbeth nad ydych yn ei gael mewn llawer o swyddi.

“Mae’r prentisiaethau wedi rhoi’r wybodaeth ymarferol a’r sgiliau bywyd i mi i wneud y gwaith, ynghyd â’r hyder i drafod pethau pwysig gyda defnyddwyr y gwasanaeth. Wrth ddod i wybod mwy, rwy’n mwynhau’r gwaith yn fwy hefyd.

“A minnau’n 50 pan ddechreuais ar y brentisiaeth, mae’n rhaid fy mod i’n un o brentisiaid hynaf Cymru. Mae’n dangos nad ydych byth yn rhy hen i ddysgu.”

Nid Peter yw’r unig aelod o’i deulu sy’n elwa ar brentisiaeth – mae ei fab, Jack, yn brentis trydanwr.

Dywedodd Abbey Folland, rheolwr hyfforddi a gweinyddu gyda Right at Home, Caerdydd a Chasnewydd: “Mae prentisiaethau a dysgu pellach yn werthfawr iawn, yn enwedig yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol gan eu bod yn galluogi ac yn cefnogi pobl i newid cyfeiriad yn llwyr a dechrau gyrfa newydd.
 
“Doedd gan Peter ddim cefndir na phrofiad ym maes iechyd a gofal cymdeithasol pan gychwynnodd ei daith gyda ni ond fe roddodd gynnig arni am ei fod yn awyddus i dalu yn ôl. Hwyliodd yn ddiffwdan trwy ei gymhwyster a’i brentisiaeth ac mae hynny wedi’i helpu i ddod yn ofalwr gwych.
 
“Erbyn hyn mae Peter wedi cychwyn ar Brentisiaeth Uwch i’w helpu i ddeall a dysgu mwy am y sector iechyd a gofal cymdeithasol a gwneud gwaith swyddfa yn y maes.
 
“Mae prentisiaethau’n addas i bobl o bob cefndir a phob oed ac maen nhw’n bwysig iawn er mwyn sicrhau bod ein gofalwyr yn cyrraedd y safon uchaf.”

Meddai Emma Pridmore, rheolwr marchnata t2: “Mae Peter yn enghraifft wych sy’n dangos nad yw hi byth yn rhy hwyr i newid gyrfa a bod prentisiaeth yn gallu helpu’r broses honno.

“Rydym yn gweithio’n galed i dynnu sylw at y ffaith fod prentisiaethau’n addas i bawb sydd dros 16, nid dim ond pobl ifanc. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cymelliadau ardderchog i gyflogwyr i recriwtio rhagor o brentisiaid er mwyn helpu Cymru i ailgodi ar ôl dioddef effaith pandemig COVID-19.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, Ken Skates: “Mae’n wych gweld Peter yn ffynnu yn y gwaith ac yn cynnig cymorth hollbwysig i’r bobl sydd â’r angen mwyaf.
 
“Mae taith Peter yn dangos bod prentisiaethau’n addas i bobl o bob oed ac rwy wrth fy modd ei fod yn cael cymaint o foddhad.
 
“Mae prentisiaethau’n chwarae rhan hanfodol yn economi Cymru ac yn helpu pobl i ennill cyflog wrth ddatblygu sgiliau a galluoedd newydd.
 
“Rydym ni, yn y llywodraeth, eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon ac rwy’n eithriadol o falch o hynny.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

More News Articles

  —