Cynnydd o 40% yn y galw am brentisiaethau gan gyflogwyr yng Nghymru ers mis Medi

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae busnesau ym mhob sector ledled Cymru yn dal i gyflogi prentisiaid ac i gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy brentisiaethau er gwaethaf yr heriau economaidd a achoswyd gan bandemig COVID-19, yn ôl ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi.

Rhwng 1 Medi a 22 Tachwedd, dywed Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) bod 373 o gyflogwyr wedi cysylltu â’i Dîm Prentisiaethau trwy Borth Sgiliau Busnes Cymru o’i gymharu â 234 yn yr un cyfnod y llynedd. Yn ystod yr un cyfnod, cadarnhawyd bod 162 o bobl wedi cychwyn prentisiaethau.

Ledled Cymru, gwelwyd cynnydd o 40% ar gyfartaledd yn nifer y busnesau sy’n dymuno defnyddio prentisiaethau. Y diwydiant adeiladau a gwasanaethau adeiladu sydd ar y blaen yn hyn o beth.

Hyd yma eleni, mae 1,330 o gyflogwyr wedi cysylltu â’r Tîm Prentisiaethau trwy Borth Sgiliau Busnes Cymru o’i gymharu â 1,172 yn 2019.

Ariannir y tîm gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) ac mae’n cydweithio’n agos â chyflogwyr a rhanddeiliaid ledled Cymru i ymdrin ag ymholiadau am Brentisiaethau.

Mae’r NTfW yn cynrychioli dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel ac mae ganddo gysylltiadau â miloedd o gyflogwyr ledled Cymru.

Mae cyflogwr yn cychwyn y broses brentisiaethau trwy lenwi ffurflen mynegi diddordeb ar wefan Porth Sgiliau Busnes Cymru. Yna, mae Tîm Prentisiaethau NTfW yn cysylltu â’r cyflogwr ac yn penderfynu pa fframwaith a llwybr prentisiaethau sy’n addas cyn trosglwyddo’r mater i’r darparwyr dysgu sydd yn y sefyllfa orau i allu helpu’r sector penodol hwnnw. Yna, mae’r cyflogwr yn dewis gyda pha ddarparwr mae am weithio.

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cymelldaliad o hyd at £3,000 i fusnesau, tan 28 Chwefror y flwyddyn nesaf, am bob aelod newydd o’r staff y maent yn eu recriwtio ac yn eu cofrestru ar y rhaglen brentisiaethau – hyd at 10 i bob cwmni.

Yn ogystal, lansiwyd ymgyrch farchnata i hyrwyddo prentisiaethau sy’n cael eu cyfrif yn arf allweddol er mwyn sicrhau adferiad economaidd Cymru ar ôl y pandemig.

Ym marn Catherine Morris-Roberts, rheolwr datblygu rhaglen brentisiaethau NTfW, mae’r cymelldaliad, a lansiwyd ddiwedd Hydref, a’r ymgyrch farchnata yn annog rhagor o gyflogwyr i ystyried cyflogi prentisiaid.

Roedd ganddi ganmoliaeth i ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru am fod yn hyblyg ac addasu’r ffordd o ymdrin â phrentisiaethau i ateb anghenion cyflogwyr yn ystod y pandemig.

“Mae llawer o fanteision i gyflogi prentis,” meddai. “Does dim ots pa mor fawr yw busnes nac ym ma sector y mae. Os yw busnes yn awyddus i ddatblygu gweithlu medrus, mae prentisiaethau’n ddull fforddiadwy o ddenu pobl newydd ddawnus, sy’n awyddus i ddysgu ac a fydd yn deyrngar i’r busnes, neu i gynyddu sgiliau’r gweithlu presennol.

“Mae’n dda bod cyflogwyr ym mhob un o’r 23 sector yng Nghymru yn cyflogi prentisiaid, nid dim ond y diwydiannau lle bu prentisiaethau’n boblogaidd yn y gorffennol, sef adeiladu, peirianneg, gweithgynhyrchu a thrin gwallt.

“Mae llawer o fusnesau’n manteisio ar gymelldaliadau newydd Llywodraeth Cymru i gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol, yn enwedig mewn fframweithiau rheoli.

“Mae busnesau eraill yn tyfu er gwaetha’r pandemig ac yn cyflogi prentisiaid. Rydym yn gweld cynnydd yn fframweithiau prentisiaethau TG a marchnata digidol.”

Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/prentisiaethau neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod mwy.

Gall unigolion sy’n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy’n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

More News Articles

  —