Cynhadledd i hybu hyfforddiant sgiliau yng Nghymru
TRAWSNEWID gwaith cyflenwi sgiliau yng Nghymru fydd ar frig yr agenda pan ddaw darparwyr dysgu seiliedig ar waith ynghyd mewn cynhadledd o bwys fis nesaf.
Cynhelir cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru mewn cyfnod pryd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n awyddus i drawsnewid gwaith cyflenwi addysg a hyfforddiant mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid.
Mae NTfW wedi llwyddo i gael cyllid gan Lywodraeth y Cynulliad i annog cyd-fentrau a fydd yn rhoi mwy o ddewis i ddysgwyr a hynny yn y ffordd fwyaf priodol, effeithlon a chost-effeithiol.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn awyddus i weld ysgolion, colegau, prifysgolion a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn cydweithio mewn ffyrdd creadigol i sicrhau mwy o amrywiaeth a chwmpas ehangach wrth gyflenwi sgiliau i ddysgwyr.
Bydd y Gweinidog dros Addysg, Leighton Andrews, yn un o’r prif siaradwyr yn y gynhadledd yn The Vale Resort, ger Caerdydd, ar 11 Tachwedd.
Ymhlith y siaradwyr eraill fydd Llywydd NTfW, yr Arglwydd Ted Rowlands; Philip Lay, cyfarwyddwr adwerthu SA Brain & Co; Janet Jones, Cadeirydd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a Dr Geoff Hayward, cyfarwyddwr ymchwil a darllenydd mewn addysg yn Adran Addysg Prifysgol Rhydychen.
Bydd Dr Hayward yn trafod y mater “Beth yw pwrpas addysg a hyfforddiant galwedigaethol?” a bydd Mrs Jones yn trafod sgiliau llwyddo o safbwynt busnesau bach.
Yn ogystal, bydd y gynhadledd yn cynnwys wyth gweithdy ar themâu sy’n allweddol i ddyfodol dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.
Bydd Bethan Webb, pennaeth polisi cyllid yn Llywodraeth y Cynulliad, yn trafod cyllid ar ôl Awst 2011 a bydd arweinydd prosiect NTfW, Brian Dunlop a’i dîm o swyddogion trawsnewid yn canolbwyntio ar ddod yn hyrwyddwyr llwybrau galwedigaethol
Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) fydd pwnc Jeff Protheroe o NTfW, Trevor Clark, pennaeth FfCChC a Mandy James, rheolwr hyfforddi cenedlaethol City & Guilds.
Dywedodd rheolwr cyffredinol NTfW, Alun Davies, na ddylai’r un darparwr dysgu sy’n ymwneud â thrawsnewid gwaith cyflenwi sgiliau yng Nghymru golli’r gynhadledd.
“Eleni, bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd a golwg y cyflogwr ar yr agenda drawsnewid, gyda chyfraniadau gan Philip Lay, Janet Jones a Dr Geoff Hayward,” meddai.
“Mae cyflogwyr yn gweld gwerth dysgu seiliedig ar waith ac yn dweud beth yr hoffent ei weld yn y dyfodol. Maen nhw’n awyddus i glywed sut y gallwn ni eu helpu i sicrhau’r trawsnewid hwnnw.”
Mae’r NTfW yn rhwydwaith o 97 o ddarparwyr hyfforddiant gyda sicrwydd ansawdd ledled Cymru sy’n gweithio o dan gontract i Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflenwi gwerth £121 miliwn o raglenni dysgu seiliedig ar waith.
Os hoffech gadw lle yn y gynhadledd flynyddol, gallwch e-bostio ntfwevent@cazbah.biz neu ffonio 0844 736 2651.
More News Articles
« Cynhadleddd Yn Trafod Trawsnewid Gwaith Cyflenwi Sgiliau Yng Nghymru — Cymwysterau Galwedigaethol Lawn Cystal, Meddai Llefarydd Businesau Bach »