Cynhadleddd Yn Trafod Trawsnewid Gwaith Cyflenwi Sgiliau Yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Trawsnewid y ffordd o gyflenwi sgiliau yng Nghymru bydd y pwnc trafod pan ddaw darparwyr dysgu seiliedig ar waith ynghyd yn y Vale Resort yn Hensol, ger Caerdydd ar gyfer cynhadledd fawr ar 11 Tachwedd.

Cynhelir cynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) eleni ar adeg pan y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n dymuno trawsnewid y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru mewn cydweithrediad â’r holl randdeiliaid.

Mae NTfW wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth y Cynulliad o dan y gyllideb drawsnewid i annog cynlluniau cydweithio sy’n rhoi mwy o ddewis i ddysgwyr yn y ffordd fwyaf priodol, effeithlon a chost-effeithiol.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn awyddus i weld ysgolion, colegau, prifysgolion a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn cydweithio mewn ffyrdd creadigol i sicrhau mwy o amrywiaeth a chwmpas ehangach wrth gyflenwi sgiliau i ddysgwyr.

Ymhlith y siaradwyr yn y gynhadledd fydd Gweinidog Cymru dros Blant, Dysgu ac Addysg Gydol Oes, Leighton Andrews, AC; Llywydd NTfW, yr Arglwydd Ted Rowlands; Philip Lay, cyfarwyddwr adwerthu S.A. Brain & Co Ltd; Janet Jones, Cadeirydd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a Dr Geoff Hayward, cyfarwyddwr ymchwil, cyfarwyddwr cyswllt SKOPE, a darllenydd mewn addysg, Adran Addysg Prifysgol Rhydychen.

Bydd Dr Hayward yn trafod y mater “Beth yw pwrpas addysg a hyfforddiant galwedigaethol?” a bydd Mrs Jones yn trafod sgiliau llwyddo o safbwynt busnesau bach.

Yn ogystal, bydd y gynhadledd yn cynnwys wyth gweithdy ar themâu sy’n allweddol i ddyfodol dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Bydd Bethan Webb, pennaeth polisi cyllid yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn trafod cyllid ar ôl Awst 2011 a bydd arweinydd prosiect NTfW, Brian Dunlop a’i dîm o swyddogion trawsnewid yn canolbwyntio ar ddod yn hyrwyddwyr llwybrau galwedigaethol.

Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) fydd pwnc Jeff Protheroe o NTfW, Trevor Clark, pennaeth FfCChC a Mandy James, rheolwr hyfforddi cenedlaethol City & Guilds.

Bydd Bernard O’Reilly, arolygydd arweiniol Estyn ym maes dysgu seiliedig ar waith a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn sôn am ei waith. Bydd Nick Lee, pennaeth datblygiad Adeiladu Sgiliau gyda Llywodraeth y Cynulliad, yn arwain gweithdy ar raglenni cyflogadwyedd at y dyfodol. Dull newydd o gyflenwi prentisiaethau fydd pwnc John Dick, rheolwr gwerthiant cenedlaethol gyda Pearson Work Based Learning.

Trafod sgiliau at y dyfodol mewn dysgu seiliedig ar waith fydd Michelle Creed a Mark Isherwood, cyfarwyddwr a rheolwr sector LLUK yng Nghymru, a bydd Russell Symmons ac Alyson Dacey, cynghorwyr e-ddysgu gydag RSC Cymru, yn dangos sut y gall technoleg hybu cydweithio ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Dywedodd rheolwr cyffredinol NTfW na ddylai’r un darparwr dysgu sy’n ymwneud â thrawsnewid y ffordd o gyflenwi sgiliau yng Nghymru golli’r gynhadledd.

“Eleni, bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd a golwg y cyflogwr ar yr agenda drawsnewid, gyda chyfraniadau gan Philip Lay, Janet Jones a Dr Geoff Hayward,” meddai.

“Mae cyflogwyr yn gweld gwerth dysgu seiliedig ar waith ac yn dweud yr hoffent gymryd rhan yn y dyfodol. Maen nhw’n awyddus i glywed sut y gallwn ni eu helpu i sicrhau’r trawsnewid hwnnw.”

Os hoffech gadw lle yn y gynhadledd, gallwch e-bostio ntfwevent@cazbah.biz neu ffonio 0844 736 2651.

Mae NTfW yn rhwydwaith o 97 o ddarparwyr hyfforddiant gyda sicrwydd ansawdd ledled Cymru sy’n gweithio o dan gontract i Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflenwi gwerth £121 miliwn o raglenni dysgu seiliedig ar waith o ddyraniad cyfan o £127 miliwn.

Mae gan y rhwydwaith gysylltiadau â 35,000 o gyflogwyr ledled Cymru ac mae’n cynnwys darparwyr dysg yn y sector annibynnol, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach, a’r sector gwirfoddol.

More News Articles

  —