Cymwysterau Galwedigaethol Lawn Cystal, Meddai Llefarydd Businesau Bach

Postiwyd ar gan karen.smith

Mae’n bryd claddu’r syniad bod cymwysterau academaidd yn well na rhai galwedigaethol, yn ôl un o arweinwyr busnes Cymru.

Ac mae Janet Jones, cadeirydd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, am weld Llywodraeth Cynulliad Cymru’n rhoi rhagor o bwyslais ar sicrhau bod pobl ifanc yn datblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

“Mae’n drychineb bod cymwysterau galwedigaethol yn cael eu cyfrif yn ail orau.” Dyna fydd ei neges yn nghynhadledd flynyddol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru yn The Vale Resort ar ddydd Iau, Tachwedd 11.

“Mae’n drychineb i bobl ifanc sy’n teimlo ei bod yn rhaid iddyn nhw ddilyn y llwybr academaidd er mwyn cael bywyd hapus a bodlon; ac yn drychineb i ddiwydiant ym Mhrydain, yn enwedig i fusneau bach, lle gallai gweithwyr â hyfforddiant perthnasol wneud byd o wahaniaeth.

“Dylai pob busnes gael cyfuniad o sgiliau academaidd a galwedigaethol. Dyna’r neges y mae angen i ni ei chyfleu er mwyn perswadio pobl o bob cefndir i ystyried cymryd cymwysterau galwedigaethol o ddifrif.

“Mae’n bryd i ni gladdu’r syniad nad yw pynciau galwedigaethol cystal â rhai academaidd ac mae’n rhaid i ni roi’r gorau i feddwl mai dim ond pobl sy’n methu mynd i brifysgol sy’n mynd i Addysg Bellach. Nid peth ail orau yw hyfforddiant galwedigaethol.”

Roedd yn croesawu newidiadau yn y dirwedd addysgol, sy’n golygu bod prifysgolion yn cynnal cyrsiau galwedigaethol a cholegau’n cynnal Graddau Sylfaen a phrentisiaethau.

“Yn hytrach na phennu targedau, dylen ni ganolbwyntio ar annog rhagor o gwmnïau i gynnig pecyn deniadol i ddenu pobl ifanc i ddechrau gweithio yn hytrach na mynd i’r brifysgol,” meddai.

“Ychydig sy’n sylweddoli y gall pobl ifanc sy’n mynd trwy’r cynllun prentisiaeth fynd ymlaen i astudio ar gyfer gradd.

“Mae’r neges i’r Llywodraeth yn glir: cadwch bethau’n syml a dilyn y galw. Wedi’r cyfan, syniad pwy oedd y dylai hanner ein pobl ifanc fynd i brifysgol yn y lle cyntaf?

“Hefyd, os cyfrifir mai cwrs addysg uwch yw’r llwybr gorau, dylai’r holl fyfyrwyr hynny gael lleoliad gwaith mewn busnes fel rhan o’u cwrs.

“Byddai hyn yn gwneud graddedigion yn fwy cyflogadwy ac yn sicrhau bod gan weithwyr well sgiliau. Byddai hynny, yn ddi-os yn golygu bod ein buddsoddiad enfawr mewn addysg yn dwyn mwy o ffrwyth a, gobeithio, yn gwneud pethau’n fwy teg unwaith eto.”

Bydd Mrs Jones yn galw am fwy o fapio rhanbarthol a chenedlaethol i weld pa sgiliau sydd ar goll ac yn galw am ganolbwyntio mwy ar sicrhau bod pobl ifanc yn meithrin sgiliau meddwl yn greadigol, datrys problemau a chydymdeimlo a fydd o werth iddynt mewn swyddi go iawn.

Yn ogystal, bydd yn amlinellu cynlluniau’r Ffederasiwn Busnesau Bach i ymwneud ag ysgolion a cholegau er mwyn gwneud eu myfyrwyr yn fwy cyflogadwy ac yn fwy parod i fentro i fyd busnes.

Thema’r gynhadledd, sy’n denu darparwyr dysgu seiliedig ar waith o bob rhan o Gymru, yw trawsnewid gwaith cyflenwi sgiliau yng Nghymru.

Ymhlith y siaradwyr eraill fydd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes yn Llywodraeth y Cynulliad, Leighton Andrews; Llywydd NTfW, yr Arglwydd Ted Rowlands; Philip Lay, cyfarwyddwr manwerthu S. A. Brain and Co Ltd; a Dr Geoff Hayward, cyfarwyddwr ymchwil, cyfarwyddwr cyswllt SKOPE a darllenydd mewn addysg yn Adran Addysg Prifysgol Rhydychen.

I gadw lle yn y gynhadledd, gallwch e-bostio ntfwevent@cazbah.biz neu ffonio 0844 736 2651.

More News Articles

  —