Cynhadledd newydd yn anelu at gryfhau sgiliau er mwyn llwyddo

Postiwyd ar gan karen.smith

Kelly Edwards, the NTfW’s head of work-based learning quality

Kelly Edwards, pennaeth ansawdd dysgu seiliedig ar waith gydag NTfW

Bydd dros 200 o bobl o bob rhan o Gymru’n dod i gynhadledd gyntaf addysgu, dysgu ac asesu ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf.

Bydd y gynhadledd, ‘Cryfhau Sgiliau er mwyn Llwyddo’, yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol ac yn ystyried sut y bydd y sefyllfa’n datblygu ar gyfer addysgu, dysgu ac asesu yn y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

Cynhelir y gynhadledd yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd ar 30 Mawrth a bydd yn tynnu sylw at ran addysgeg alwedigaethol er mwyn gwella’r profiad o ddysgu seiliedig ar waith trwy adfywio strategaethau addysgu, dysgu ac asesu.

Bydd gweithdai ymarferol a chyfleoedd i drafod yn helpu’r cynadleddwyr i ddysgu ac arloesi. Mae’r digwyddiad yn gysylltiedig â Phrosiect Gwella Ansawdd NTfW sy’n cael ei gefnogi a’i ran-ariannu gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, fydd yn traddodi’r prif anerchiad a bydd Mark Evans, Arolygydd Ei Mawrhydi, o Estyn, yn ystyried strategaethau effeithiol ar gyfer addysgu, dysgu ac asesu.

Y siaradwyr eraill fydd Linda Chorley o City & Guilds, a fydd yn mynd i’r afael â manteision adfywio addysgeg yn y maes galwedigaethol, ac Angela Jardine, cadeirydd Cyngor y Gweithlu Addysg, a fydd yn trafod beth fydd cofrestru a chydnabyddiaeth broffesiynol yn ei olygu i’r ymarferwr dysgu seiliedig ar waith.

Bydd y gynhadledd yn cynnig profiadau ymarferol ac awgrymiadau sut i wella arferion gweithio o ddydd i ddydd. Bydd yn cynnwys naw gweithdy, wedi’u seilio ar themâu ymarferol, er mwyn cefnogi ymarferwyr yn y gwaith.

Dywedodd Kelly Edwards, pennaeth ansawdd dysgu seiliedig ar waith gydag NTfW, bod y gynhadledd newydd yn cydnabod pwysigrwydd ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ac addysg alwedigaethol.

“Daw cyfleoedd allweddol i’r sector dysgu seiliedig ar waith yn 2017. Bydd cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar 1 Ebrill yn cynnig cydnabyddiaeth broffesiynol i ymarferwyr y sector dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.

“Bydd datblygu’r safonau proffesiynol newydd ar gyfer ymarferwyr Addysg Bellach a dysgu seiliedig ar waith yn sicrhau rhagor o gyfleoedd.

“Mae’r gynhadledd yn benllanw nifer o ddigwyddiadau gwella ansawdd a gynhaliwyd dros y misoedd diwethaf ac mae’n ffordd o’u dwyn i gyd ynghyd a chynllunio ar gyfer y cam nesaf.

“Mae adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Estyn yn tanlinellu pwysigrwydd dysgu proffesiynol er mwyn gwella’r canlyniadau ar gyfer dysgwyr a mynd i’r afael â pherfformiad anwadal. Mae NTfW wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr y sector dysgu seiliedig ar waith er mwyn ysbrydoli arferion arloesol a meithrin gallu yn unol â’r blaenoriaethau a amlinellir yng Nghynllun Polisi Sgiliau Prentisiaethau newydd Llywodraeth Cymru.”

More News Articles

  —