Gwobrau newydd cwmni hyfforddi’n cydnabod cyflogwyr a dysgwyr o Gymru

Postiwyd ar gan karen.smith

Award winners pictured with Cambrian Training Company’s managing director (standing far right).

Enillwyr y gwobrau â rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian (yn sefyll ar y dde bellaf).

Cafodd unigolion a chyflogwyr sydd wedi rhagori mewn rhaglenni dysgu a hyfforddi galwedigaethol y mae un o ddarparwyr hyfforddiant arweiniol Cymru wedi’u darparu eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo neithiwr (nos Iau).

Cafodd pedwar ar hugain o unigolion o ledled Cymru sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau 2017 newydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian eu cynnwys ar y rhestr fer, a chyflwynwyd y gwobrau ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, i gyd-ddigwydd ag Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol.

Mae gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Bae Colwyn a Llanelli, ac maent wedi lansio’r gwobrau i ddathlu popeth sy’n wych ynglŷn â hyfforddiant, prentisiaethau a sgiliau yng Nghymru. Mae’r cwmni’n darparu prentisiaethau i 1,200 o ddysgwyr ac yn gweithio â mwy na 400 o gyflogwyr ledled Cymru.

Roedd gan un busnes o Ogledd Cymru reswm dwbl i ddathlu yn y seremoni, wrth i Clive a Gail Swan o Siop Fferm Swans, yr Wyddgrug, gasglu’r wobr am Ficro Gyflogwr y Flwyddyn wrth i’w gweithiwr, Peter Rushforth, 21 oed, ennill Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn i goroni 12 mis anhygoel. Enillodd Rushforth wobr aur WorldSkills a Chigydd Ifanc y Flwyddyn Meat Trades Journal yn 2016 ac mae newydd ddychwelyd o ymweliad Ysgoloriaeth Hybu Cig Cymru ag America.

Enillydd gwobr Unigolyn Rhagorol y Flwyddyn Twf Swyddi Cymru oedd Thomas Owen, gweithredwr cynhyrchu ym Mainetti, Wrecsam, ac enillydd Prentis Sylfaen y Flwyddyn oedd Cigydd Ifanc y Flwyddyn Cymru Sam Hughes, cigydd yn Siop Gigydd Brian Crane, Caerffili, a ddaeth yn ail ar gyfer gwobr Micro Gyflogwr y Flwyddyn.

Enillydd Gwobr Prentis y Flwyddyn oedd Danny Foulkes, rheolwr prosiect dan hyfforddiant yng nghwmni adeiladu a pheirianneg sifil EvaBuild, y Drenewydd, a ddaeth yn ail ar gyfer gwobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn, a’r enillwyr oedd Gwynedd Skip and Plant Hire, Caernarfon.

Enillydd Gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn oedd Celtica Foods Cyf, Cross Hands, Llanelli a Chyflogwr Mawr y Flwyddyn oedd Gwesty’r Celtic Manor, Casnewydd.

Llongyfarchodd rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Arwyn Watkins, y rheiny a gyrhaeddodd y rownd derfynol a dywedodd fod pob un yn enillydd. “Rydym yn gweithio â chyflogwyr a dysgwyr gwych ledled Cymru wrth i ni ddarparu amrywiaeth o raglenni prentisiaeth, sgiliau a hyfforddiant cyflogaeth ar ran Llywodraeth Cymru,” ychwanegodd
“Mae’r gwobrau hyn yn dathlu cyflawniadau’r rheiny sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau yn ystod eu hymgysylltiad ac ymrwymiad â rhaglenni hyfforddiant a sgiliau ac sydd wedi dangos dull unigryw o ymdrin â hyfforddiant a datblygiad ac wedi dangos menter, arloesedd a chreadigrwydd.”

Dywedodd y cafodd y gwobrau eu hamseru i gyd-ddigwydd ag Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol a digwyddiad Llwybrau Positif Powys a gynhaliwyd ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn ddiweddarach ar yr un diwrnod, a ddenodd 2,000 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd a mwy na 130 o gyflogwyr ledled Powys.

Pwysleisiodd pa mor bwysig oedd bod gan ddisgyblion y wybodaeth i wneud y dewisiadau gyrfa cywir pan fyddant yn 16 oed. “Nid oes gan y rhan fwyaf unrhyw syniad beth y maent eisiau ei wneud, ar wahân i fynd i’r brifysgol a gwario arian eu rhieni,” meddai. “Cost cynnal digwyddiad Llwybrau Positif Powys oedd £30,000, sy’n cyfateb i un penderfyniad gwael gan fyfyriwr a’i fenthyciad myfyriwr.”

Aeth rhagddo i ddweud bod Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol wedi cael ei ddylunio i ddathlu prentisiaethau a’u heffaith bositif ar unigolion, busnesau a’r economi ehangach. “Mae prentisiaethau’n cynnig pecyn unigryw o gymorth a phrofiad, gan leihau diweithdra tymor hir a dyma un o’r ffyrdd mwyaf ymarfer a chost effeithiol o adeiladu gweithlu medrus,” ychwanegodd.

Hefyd siaradodd am yr Ardoll Brentisiaethau, a gyflwynir ym mis Ebrill a fydd yn cael ei thalu gan 770 o gyflogwyr yng Nghymru sydd â bil cyflogau mwy na £3 miliwn.

Yr unigolion eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd: Unigolyn Rhagorol y Flwyddyn Twf Swyddi Cymru: Joseph Lewis, technegydd gwerthiant yn Siop Dacl Lionel, Bwcle ac Amy Davies, rheolwr swyddfa yn Pembrokeshire Falconry, Hwlffordd. Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Ioan Lewis, cogydd cynorthwyol yn SA Brains, Rose and Crown, Porthcawl; Codi Wiltshire, gweinyddwr yn Jewsons, Llanfair ym Muallt; Rhiannon Wilson, cynorthwy-ydd cyfrifon yn Links Energy Supplies, y Drenewydd ac Adam Seel, llwythwr yng Nghyngor Sir Ddinbych. Prentis y Flwyddyn: Ashley Frampton, cogydd de parti a Phoebe Swaddling, gwesteiwraig, y ddau yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd ac Amanda Helsby, swyddog gweinyddol ar gyfer Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych. Uwch Brentis y Flwyddyn: Julie Mundy, arweinydd tîm yn Seren Cyf, Blaenau Ffestiniog. Micro Gyflogwr y Flwyddyn: Siop Gigydd Brian Crane, Caerffili. Cyflogwr Canolig y Flwyddyn: TLC, Llanidloes. Cyflogwr Mawr: CDT Sidoli (y Trallwng Cyf), y Trallwng a Mainetti, Wrecsam.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Rhaglen Brentisiaeth gyda chymorth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

More News Articles

  —