Partneriaeth Sgiliau’n cyfrannu at lwybr adferiad Llywodraeth Cymru ar ôl COVID-19

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Partneriaeth Sgiliau Prifddinas Ranbarth Caerdydd (PSPRC) yw’r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol yn ne-ddwyrain Cymru ac mae’n cynnwys ardaloedd 10 awdurdod lleol. Mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i’r Bartneriaeth baratoi a dadansoddi gwybodaeth am y farchnad lafur, cynghori sut y dylid blaenoriaethu cyllid ar gyfer sgiliau yn y dyfodol, a chynrychioli buddiannau ei rhanbarth wrth baratoi system sgiliau a seilir ar alw.

Mewn rhaglen waith y cytunwyd arni, yn gysylltiedig â phandemig y coronafeirws (COVID-19), bu Bartneriaeth yn cysylltu â chyflogwyr a rhanddeiliaid yn ddiweddar er mwyn ceisio cael gwell dealltwriaeth o effaith y feirws ar sgiliau yn y de-ddwyrain. Casglwyd profiadau a theimladau pobl i’w cynnwys mewn adroddiadau deufisol a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ac fe gaiff y rhain eu defnyddio i gyfrannu at lwybr adferiad.

Yn ôl y gwaith, mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar yr economi a gwaith ym maes sgiliau ers iddo ymddangos tua mis Ionawr 2020, ond cafodd rhai sectorau eu taro’n waeth nag eraill. I fanylu, mae sector eang Deunyddiau Uwch a Gweithgynhyrchu yn wynebu heriau mawr, yn enwedig yn is-sectorau Awyrofod a Moduron a’r busnesau bach a chanolig cysylltiedig. Gan fod cynyrchiadau wedi’u hatal, mae’r sector Creadigol wedi dioddef yn sylweddol hefyd ac roddwyd llawer o sylw i’r heriau sy’n wynebu’r sectorau sy’n cynnal yr economi sylfaenol, yn cynnwys lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth. Ym meysydd Adeiladu a Thechnolegau Galluogi Digidol, ymddengys bod y sefyllfa’n amrywio: mae rhai busnesau’n wynebu heriau mawr ond am gyfnod byrrach yr amharwyd ar waith busnesau eraill.

Adroddir am dwf yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac mae’n drawiadol mai ychydig o effaith a gafodd y pandemig yn sector y Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Yma, gwelodd rhai busnesau ostyngiad mewn cynhyrchiant ar y dechrau ond yna bu cynnydd yn y galw gan gwsmeriaid ac ymddengys felly na fu diffygion ariannol. Gallai hyn, ynghyd â’r angen am gysylltedd cyflym a thechnoleg feddygol fod yn hwb ar gyfer twf yn y dyfodol. Ym maes Technoleg Ddigidol, tyfodd yr angen am Seiberddiogelwch wrth i fusnesau sylweddoli bod cael staff yn gweithio gartref yn golygu bod angen cryfhau eu systemau.

Bu llai o waith dysgu a datblygu mewn llawer o fusnesau am gyfnod a dechreuwyd defnyddio dysgu cyfunol ar gyfer hyfforddiant hanfodol. O ran Prentisiaethau, ymddengys bod cyflogwyr yn benderfynol o gwblhau’r elfen ddysgu yn llwyddiannus ond cydnabyddir bod anawsterau wedi codi ar gyfer yr elfennau cymhwysedd. Gallai fod yn anodd recriwtio prentisiaid yn y dyfodol, yn enwedig ar y llwybrau traddodiadol.

Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Adroddiad LMI Covid-19

Yn ogystal, ar 18 Tachwedd, cyfrannodd PSPRC at ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, yn Senedd Cymru i ymateb y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i bandemig COVID a’u rôl yn yr adferiad.

Os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’r datblygiadau hyn, cysylltwch â: RegionalSkillsPartnership@newport.gov.uk.

Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

More News Articles

  —