Darparwyr Hyfforddiant Cymru yn Canolbwyntio ar Lunio Gweithlu’r Dyfodol

Postiwyd ar gan karen.smith

Cynyddu’r galw am brentisiaethau, annog mwy o gyflogwyr i fuddsoddi mewn hyfforddiant a chyflwyno gweledigaeth glir am y ffordd y bydd darparwyr hyfforddiant yn cyflenwi sgiliau angenrheidiol ar gyfer economi Cymru – dyna oedd prif themâu cynhadledd bwysig a gynhaliwyd yng ngogledd Cymru’n ddiweddar.

Rhwydwaith o 116 o ddarparwyr dysgu yn y gweithle yw Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Yn ei gynhadledd flynyddol, ‘Llunio Gweithlu’r Dyfodol’ a gynhaliwyd dros ddau ddiwrnod yn Venue Cymru, Llandudno, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, y byddai £5 miliwn o gyllid ychwanegol ar gael ar gyfer prentisiaethau.

NTFW Conference Speakers

Cyflwynwyd sawl her i ddarparwyr hyfforddiant gan Mr Cuthbert; prif weithredwr NTfW, Arwyn Watkins; Comisiynydd Cymru i Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau, Scott Waddington; Hyrwyddwr Sgiliau Cymru; a Huw Evans, Cadeirydd y Bwrdd Prosiect sy’n goruchwylio’r Adolygiad o Gymwysterau 14-19 yng Nghymru.

Trafodwyd yr angen am newid yn y diwylliant fel bod prentisiaethau’n cael mwy o barch ac yn cael eu cyfrif yn fuddsoddiad yn hytrach nag yn gost, a sut i fynd ati i ddatrys problemau llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion. Fodd bynnag, y prif bwnc trafod dros y ddau ddiwrnod oedd yr angen i gydweithio er mwyn sicrhau sicrhau bod y sgiliau sydd ar gael yn cyfateb i anghenion cyflogwyr.

“Gyda chynifer o newidiadau ar y gorwel mewn addysg a hyfforddiant, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn cyflwyno gweledigaeth glir iawn ar gyfer y Ffederasiwn a’n bod yn cyhoeddi ein nod o sicrhau sgiliau perthnasol a phriodol ar gyfer economi Cymru yn awr ac i’r dyfodol,” meddai Mr Watkins, gan annog aelodau NTfW i ymateb i’r her.

Galwodd ar Fwrdd NTfW i ymgynghori â’r aelodau a’r rhanddeiliaid cyn cyhoeddi ei amcanion i sicrhau system addysg a hyfforddiant gadarn ar gyfer Cymru.

“Mae digonedd o dystiolaeth ynghylch y sgiliau y bydd arnom eu hangen, beth sy’n gweithio’n dda ac, yn bwysicaf oll, pa gamau y mae’n rhaid eu cymryd i wella’r sefyllfa,” meddai. “Dyma’r amser i sicrhau system addysg a hyfforddiant hyderus ac uchelgeisiol a fydd yn cyflenwi’r sgiliau y mae ar economi Cymru eu hangen er mwyn llwyddo.”

Wrth gyhoeddi y byddai’r arian ychwanegol ar gael ar gyfer rhagor o brentisiaethau i bobl ifanc 16-24 oed, heriodd Mr Cuthbert y rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith i gysylltu â chyflogwyr nad ydynt eisoes yn cynnig prentisiaethau.

“Rwy’n ymrwymo’r £5 miliwn ychwanegol hyn i helpu pobl ifanc sy’n cael trafferth i ddod o hyd i waith,” meddai.

“Hoffwn herio’r Rhwydwaith Dysgu Seiliedig ar Waith i gysylltu â chyflogwyr nad ydynt eisoes yn darparu prentisiaethau. Rwy am iddyn nhw gael gwybod am fanteision prentisiaethau, gwybod eu bod yn rhan ganolog o effeithlonrwydd busnesau, eu bod yn cynyddu sgiliau’r genedl ac yn gwneud Cymru’n lle mwy deniadol i wneud busnes.

“Yn y farchnad heddiw, mae prentisiaeth mor werthfawr â lle yn un o’r prifysgolion gorau, ond mae’n rhaid i ni gynyddu gwerth prentisiaethau a thynnu sylw atynt er mwyn iddynt gael yr un parch â llwybrau academaidd mwy traddodiadol.”

Mae Comisiynydd Cymru, Mr Waddington, sydd hefyd yn brif weithredwr SA Brain and Co Ltd o Gaerdydd, yn benderfynol o gael rhagor o gyflogwyr i fuddsoddi yn sgiliau eu pobl er mwyn hybu menter, swyddi a thwf.

Yn ôl Arolwg Sgiliau Cyflogwyr y DU, a gyhoeddwyd ym mis Mai, nid oedd dros 40% o fusnesau’r Deyrnas Unedig wedi buddsoddi mewn hyfforddiant dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Ceir tystiolaeth gref bod busnesau nad ydynt yn hyfforddi eu staff ddwywaith yn fwy tebygol o fethu â busnesau sydd yn buddsoddi mewn hyfforddiant,” meddai Mr Waddington. “Yn ogystal â chynyddu eu helw, mae busnesau sy’n buddsoddi mewn sgiliau yn gwella iechyd y genedl.”

Roedd Comisiwn y DU yn holi pam nad oes gan bobl y sgiliau y mae ar gyflogwyr eu hangen.

“Yn Lloegr, ceir cynlluniau radical i roi grantiau a benthyciadau yn uniongyrchol i gyflogwyr, yn hytrach na thrwy’r darparwyr, ar gyfer Prentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol arall,” meddai Mr Waddington. “Byddai’r cyflogwyr yn buddsoddi symiau cyfatebol i’r grantiau neu’r benthyciadau hyn.

“Er bod pwysau ar Gymru a gwledydd eraill i ddilyn arweiniad Lloegr, rydym yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa ar hyn o bryd i weld sut mae pethau’n mynd.”

Dywedodd Huw Evans, cadeirydd Bwrdd Prosiect yr Adolygiad o Gymwysterau 14-19 yng Nghymru, y byddai adroddiad pwysig, gydag argymhellion, yn cael ei gyhoeddi ar 28 Tachwedd. Y nod oedd cael cymwysterau dealladwy oedd yn diwallu anghenion pobl ifanc a’r economi.

“Rydym yn adolygu’r holl gymwysterau yn y grŵp oedran 14-19, ac mae hynny’n rhoi cyfle i ni wneud pethau ychydig yn wahanol yng Nghymru,” meddai. “Mae angen i golegau, prifysgolion ac arbenigwyr yn y maes gael llawer mwy o lais wrth ddatblygu cymwysterau.

“Yn ein barn ni, mae angen newid y cydbwysedd rhwng cymwysterau galwedigaethol a rhai academaidd. Os na fyddwn yn sicrhau cydbwysedd, byddwn yn gwneud cam â llawer o bobl ifanc Cymru.

“Mae angen rhwydwaith cydweithredol hefyd fel y gall yr holl sefydliadau gydweithio, gan fanteisio ar gryfderau’r naill a’r llall, er mwyn sicrhau’r hyn sy’n angenrheidiol.”

Soniodd Mr Liles am werth cystadlaethau sgiliau o safon fyd-eang er mwyn codi safonau pobl ifanc a darparwyr hyfforddiant yng Nghymru. Roedd am annog darparwyr hyfforddiant i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau ar bob lefel.

More News Articles

  —