Goreuon Cymru’n Dathlu Mewn Seremoni Wobrwyo

Postiwyd ar gan karen.smith

Cafwyd cyfle i ddathlu’r dechnoleg ddiweddaraf mewn busnesau blaengar, rhaglenni Prentisiaeth pwrpasol sydd wedi’u cynllunio i ateb anghenion gwahanol ddiwydiannau a llwyddiant ysbrydoledig unigolion mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn Venue Cymru, Llandudno neithiwr (Tachwedd 24).

Roedd seremoni Gwobrau Cenedlaethol Hyfforddiant a Phrentisiaethau Cymru yn dwyn ynghyd y goreuon ymhlith dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant sydd wedi dangos ymroddiad llwyr i ddatblygu sgiliau a gwella busnesau ledled Cymru.

Trefnwyd y gwobrau, sy’n dathlu rhagoriaeth ym maes datblygu sgiliau yng Nghymru, gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Noddwyd Gwobrau’r Prentisiaethau gan Pearson a’r Gwobrau Cenedlaethol Hyfforddiant gan City & Guilds.

Mae’r Gwobrau Cenedlaethol Hyfforddiant yn cydnabod llwyddiant eithriadol cyflogwyr sydd wedi sicrhau achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl ac wedi llwyddo i wella’u busnesau trwy ragori ym maes hyfforddiant a datblygu sgiliau. Cyflwynwyd gwobrau i gwmnïau bach, canolig a mawr.

Wales Deputy Minister for Skills, Jeff Cuthbert (centre), celebrates with winners at the National Training and Apprenticeship Awards 2012

Wales Deputy Minister for Skills, Jeff Cuthbert (centre), celebrates with winners at the National Training and Apprenticeship Awards 2012


Dyma enillwyr y Gwobrau Cenedlaethol Hyfforddiant:

Cyflogwr Bach: Anthony A. Davies Group, y Fenni.
Cyflogwr Canolig: Utility Partnership Ltd, Caerdydd.
Cyflogwr mawr: Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Caerfyrddin.

Cafwyd canmoliaeth uchel i brosiect COASTAL E3, Abertawe; TRB Limited, Llanelwy, Grŵp Tai Pennaf, Llanelwy a Chartrefi RCT, Pontypridd.

Mae’r Gwobrau Prentisiaethau yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr rhaglenni Prentisiaethau ac Hyfforddeiaethau o safon ledled Cymru, a ariannir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Enillwyr y Gwobrau Prentisiaethau oedd:

Prentis y Flwyddyn: Steven Owen, 19, prif gogydd yn The Bull and Heifer, Betws Cedewain, y Drenewydd.
Prentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn: Gavin Zembrzuski, perchennog TAG-Z, Llandrindod.
Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Nik Petrakis, cydberchennog nickymichaels, Cyncoed, Caerdydd.
Cyflogwr Bychan y Flwyddyn: Canolfan Hamdden y Dwyrain, Caerdydd
Cyflogwr Canolig y Flwyddyn: Tritech Precision Products, Wrecsam.
Cyflogwr Mawr y Flwyddyn: SA Brain and Co Ltd, Caerdydd
Macro-gyflogwr y Flwyddyn: BT, Caerdydd.
Darparwr Prentisiaethau y Flwyddyn: Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y Trallwng.
Dysgwr y Flwyddyn – Camau at Waith: Katrina Kind, The New Cranford, Bae Colwyn.
Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Cymryd Rhan): Natasha Fenton, Tint Wizard, Castell-nedd.
Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaeth (Lefel 1): Alex Dawe, West Coast Labs, Caerdydd.

Yn ogystal, rhoddodd y beirniaid ‘Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig’ i Rhian Perrin, Airbus UK, Brychdyn, am ei hymroddiad yn mynd i ysgolion yr ardal i sôn wrth ferched ifanc eraill am fanteision gyrfa mewn peirianneg.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert bod pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn enillwyr hyd yn oed os nad oeddent wedi cael gwobr ar y noson. Roedd gan bob un ohonynt stori ysbrydoledig a oedd yn eu gwneud yn llysgenhadon gwerthfawr dros Buddsoddwyr mewn Pobl, Prentisiaethau a rhaglenni eraill i ddatblygu sgiliau yng Nghymru.

“Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod rhagoriaeth ym maes hyfforddiant gan unigolion, cyflogwyr a darparwyr dysgu,” meddai. “Roeddwn wrth fy modd â safon y rhai oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni, a’r amrywiaeth ym mhob oedran a sector. Mae hyn yn dangos cryfder y sgiliau sy’n cael eu dysgu yng Nghymru.”

A dywedodd Wynne Roberts, Cadeirydd NTfW: “Mae’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn enghreifftiau ardderchog o’r cydweithio sydd rhwng Llywodraeth Cymru, cyflogwyr, prentisiaid, hyfforddeion a darparwyr er mwyn meithrin sgiliau a datblygu gweithlu da ac effeithiol yng Nghymru. Maent yn llysgenhadon ac rwy’n siwr y byddant yn hyrwyddo rhaglenni sgiliau fel un o’r atebion ar gyfer arbed yr economi.”

Yn y Gwobrau Cenedlaethol Hyfforddiant, yr Anthony A. Davies Group o’r Fenni a enillodd wobr y Busnes Bach. Pan ddechreuodd Anthony a’i wraig, Dawn, baratoi i ymddeol, aethant ati i greu tîm rheoli mewnol trwy hyfforddi staff i gymryd drosodd i wneud y gwaith allweddol. Bu uwch reolwyr yn cael eu hyfforddi’n fentoriaid trwy raglenni Datblygu’r Gweithlu a Gwella Sgiliau Arwain a Rheoli.

Utility Partnership Ltd o Gaerdydd a enillodd wobr y Cyflogwr Canolig. Maen nhw’n darparu datrysiadau ynni ar gyfer cwmnïau fel Asda. Roedd y cwmni’n awyddus i dyfu ond doedd gan y staff ddim digon o brofiad rheoli. Gyda chyllid gan gronfa Sgiliau Twf Cymru, mae rhaglen hyfforddi ddwy-flynedd wedi helpu’r cwmni i gyrraedd y nod o dyfu 20 y cant, gan greu 28 o swyddi newydd a dyrchafu 21 o’r gweithwyr.

Trwy addasu hyfforddiant ar gyfer rheolwyr criwiau sydd newydd eu dyrchafu, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a enillod wobr y Cyflogwr Mawr, wedi helpu i wella amserau ymateb mewn argyfwng ac wedi arbed bron £20,000 mewn ffioedd hyfforddi.

Roedd y gwasanaeth yn cael trafferth recriwtio staff rhan amser ac roedd hynny’n amharu ar ei allu i ymateb yn effeithiol i alwadau brys. Dangosodd adolygiad bod angen hyfforddi rhagor o reolwyr criwiau a diweddaru eu rhaglen ddatblygu. O’r 78 a gofrestrwyd, mae 22 wedi cwblhau’r cwrs gan arbed tua £900 yr un.

Yng Ngwobrau’r Prentisiaethau, mae Prentis y Flwyddyn, Steven Owen, 19, yn gwneud enw iddo’i hunan fel prif gogydd y Bull and Heifer, Betws Cedewain, y Drenewydd. Mae’r bwyty mor boblogaidd nes bod cwsmeriaid yn ffonio ymhell ymlaen llaw i drefnu i ddod i brofi ei brydau.

Mae Prentis Entrepreneuraidd y Flwyddyn, Gavin Zembrzuski, 23, perchennog TAG-Z, Llandrindod wedi goresgyn dyslecsia i gwblhau Prentisiaeth mewn Ffabrigo a Weldio gan sefydlu busnes llwyddiannus sy’n gwerthu eitemau ledled Prydain ac yn allforio i Ewrop.

Nik Petrakis, 26, yw Prentis Sylfaen y Flwyddyn. Gadawodd yr ysgol heb gymwysterau yn ddim ond 13 oed. Erbyn hyn, ar ôl cwblhau ei Brentisiaeth yn llwyddiannus a threulio blwyddyn yn gweithio yn Florida, mae wedi agor salon trin gwallt o’r enw ‘nickymichaels’ yng Nghyncoed, Caerdydd.

Un rheswm dros lwyddiant Cyflogwr Bach y Flwyddyn, sef Canolfan Hamdden y Dwyrain, Caerdydd, yw eu hymdrech i hyfforddi staff yn drwyadl a chynnig gwasanaethau amrywiol. Bydd y ganolfan, sy’n eiddo i’r cyngor, yn cael ei ehangu ddechrau’r flwyddyn nesaf. Mae’n cyflogi chwe phrentis ac mae wedi cymryd 17 ohonynt dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae denu a chadw ffrwd gyson o dalent yn hanfodol i lwyddiant Cyflogwr Canolig y Flwyddyn, Tritech Precision Products, Wrecsam, sy’n cyflogi 160 o bobl yn gwneud castinau patrwm aberthol (investment castings). Mae’r cwmni’n buddsoddi’n sylweddol mewn Prentisiaethau a hyfforddiant gan fod y gwaith mor arbenigol a bod angen sgiliau neilltuol ar y gweithwyr.

Mae Cyflogwr Mawr y Flwyddyn, SA Brain & Co Ltd, Caerdydd, yn gwmni bragu a manwerthu sy’n cyflogi dros 2,200 o bobl ledled Cymru a de-orllewin Lloegr. Mae’n cyflogi pobl mewn tafarndai, gwestai, bwytai ac mae newydd brynu cadwyn Coffee#1, ac felly mae cyfleoedd ar gyfer Prentisiaethau mewn nifer o wahanol feysydd.

BT, Caerdydd, yw Macro-gyflogwr y Flwyddyn. Mae’n un o’r prif fusnesau telathrebu yn y byd ac mae ganddo bresenoldeb sylweddol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae ganddo 136 o brentisiaid yng Nghymru ac mae wedi cymryd 699 dros y pum mlynedd diwethaf sy’n dangos bod BT yn rhoi lle canolog i Brentisiaethau yn ei fframwaith recriwtio a hyfforddi.

Nod Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Darparwr Prentisiaethau y Flwyddyn, yw rhagori ym maes darparu dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Mae gan y cwmni 36 o weithwyr a swyddfeydd yn y Trallwng, Caergybi, Aberaeron ac Aberhonddu. Llwyddodd i feithrin perthynas gadarn gyda chyflogwyr a phrentisiaid trwy gynnig cynlluniau hyfforddi hyblyg, da, i fusnesau bach a mawr.

Katrina Kind, 21, yw Dysgwr y Flwyddyn (Camau at Waith). Gadawodd yr ysgol heb gymwyserau ond mae wrth ei bodd yn gwneud gwaith gofalwr yng nghartref preswyl The New Cranford ym Mae Colwyn lle mae’n gweithio gyda phobl hŷn sydd ag Alzheimer’s a dementia.

Llwyddodd Natasha Fenton, 17, Dysgwr y Flwyddyn, Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu), i droi lleoliad gwaith yn swydd ei breuddwydion gyda chwmni Tint Wizard, Castell-nedd, sy’n argraffu arwyddion.

Mae Alex Dawe, 18, Dysgwr y Flwyddyn, Hyfforddeiaethau (Lefel 1), yn brentis hyfforddai peiriannydd profion ar ôl lleoliad gwaith llwyddiannus gyda West Coast Labs, Caerdydd.

Y lleill a lwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol oedd:

Gwobrau Cenedlaethol Hyfforddiant – Cyflogwr Bach: Staedtler (UK) Ltd, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr. Dyma’r rhai oedd yn rownd derfynol y Gwobrau Prentisiaethau: Prentis y Flwyddyn: Bryn Arfon Jones, Magnox, Atomfa Wylfa, Ynys Môn. Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Ben Williams, Clwb Golff Gogledd Cymru, Conwy a Ryan McAnerney, Airbus UK, Brychdyn.

Dysgwr y Flwyddyn – Camau at Waith: Robert Owen Jones, ITeC Wrecsam. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu): Kirsty Bird ac Owen Edwards, ACT Training, Caerdydd. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1): Dale Price, Hyfforddiant Powys, Llandrindod and Katie Roberts, ITeC Wrecsam.

Cyflogwr Bychan y Flwyddyn: Head Office, y Barri; Phoenix Hair and Make Up, Abergele. Cyflogwr Canolig y Flwyddyn: DRB Group, Glannau Dyfrdwy; Gofal Iechyd Cefndy, y Rhyl. Cyflogwr Mawr y Flwyddyn: GE Aviation Wales, Nantgarw a Cartrefi Dinas Casnewydd, Casnewydd. Darparwr Prentisiaethau y Flwyddyn: ISA Training, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr a Babcock, Caerdydd.

More News Articles

  —