Datblygiad parhaus yn allweddol i’r cyflawnwr ifanc Paul, sy’n arwain drwy esiampl
Cred Paul Wiggins yn gadarn mewn arwain drwy esiampl. Dechreuodd y gŵr sy’n gweithio i BPW Insurance yng Nghasnewydd, ei Brentisiaeth mewn Yswiriant Cyffredinol ym mis Tachwedd 2011, a’i gwblhau ymhen 12 mis, gan basio pob arholiad angenrheidiol y tro cyntaf.
Ond nid dyna oedd diwedd y stori. Nid oedd y ffaith ei fod wedi cyflawni ei brentisiaeth yn golygu ei fod eisiau dod â’i ddatblygiad proffesiynol i ben.
Dim o gwbl. Ei nod nesaf oedd Diploma Uwch mewn Yswiriant a dod yn Frocer Yswiriant Siartredig, a gyflawnodd mewn dwy flynedd yn hytrach na’r pum mlynedd arferol.
“Mae’n hynod bwysig i mi gyflawni hyd eithaf fy ngallu ac arwain drwy esiampl. Mae datblygiad parhaus yn bwysig ni waeth pa lefel rydych chi arni mewn busnes. Fy marn i yw bod rhaid cadw hogi’r gyllell a chadw mynd ati i wella,” meddai.
Mae Paul yn cymryd rhan yn helaeth yn ochr reoleiddiol y busnes. “Teimlaf fod cael y cymwysterau a’r profiad perthnasol yn rhoi’r awdurdod i mi ddelio â’r rheoleiddiwr, gan ddangos fy mod i’n gwybod beth rwy’n ei wneud a beth rwy’n siarad amdano” meddai.
Mae ei daith addysgol wedi ennill lle iddo yn rownd derfynol Gwobrau VQ mawreddog eleni. Mae’n un o chwech yn y rownd derfynol sy’n cystadlu am y teitl Dysgwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo ar 9 Mehefin, y noson cyn Diwrnod VQ, yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.
Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru a’u nod yw helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.
Mae’r gwobrau, a ariennir yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bellach yn eu hwythfed flwyddyn ac yn cyd-fynd â Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol – dathliad DU-eang o gymwysterau galwedigaethol ar gyfer myfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr – a gynhelir ar 10 Mehefin.
Mae Acorn Learning Solutions Ltd yn darparu cymorth hyfforddiant i BPW Insurance ac enwebon nhw Paul am Wobr Dysgwr VQ Ifanc y Flwyddyn.
Yn 2014/15, roedd Paul yn llywydd ar gangen Caerdydd ‘Grŵp Proffesiynolion Ifanc’ y Sefydliad Yswiriant Siartredig. Yn ei rôl fel llywydd, roedd Paul yn awyddus i hyrwyddo’r angen am ddatblygiad parhaus a chymwysterau galwedigaethol. Mae’n parhau i roi cymorth hefyd i aelodau ifanc eraill yn y grŵp.
Enwyd Paul yn ‘Gyflawnwr Ifanc y Flwyddyn’ y Sefydliad Yswiriant Siartredig ar gyfer 2014/15 ac enillodd hefyd un o 10 lle cenedlaethol ar ‘Raglen Cenhedlaeth Newydd’ y Sefydliad.
Y dysgwyr eraill sydd yn rownd derfynol Dysgwr VQ y Flwyddyn yw: Casey Coleman, 28, cyfarwyddwr artistig salon Ocean Hairdressing, Caerdydd; James Pepper, 39, cyfarwyddwr gwasanaethau technegol ar Vista Retail Support Ltd, Pentwyn, Caerdydd; cyn-ddysgwyr Coleg Penybont Michael Whippey, 23, prif hyfforddwr yng Nghanolfan Farchogaeth Fferm Shardeloes, Amersham; Serena Torrance, cyn ddysgwyr Ngholeg Penybont, 23, o Faesteg sy’n cymryd gradd troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a’r cyn ddysgwyr Coleg Sir Gâr Simon McCall, 21, o Capel Dewi, saer hunangyflogedig ac aelod o Sgwad WorldSkills UK.
Mae Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy’n dangos yn glir dilyniant a rhagoriaeth mewn astudiaethau galwedigaethol ac wedi llwyddo’n sylweddol yn eu maes.
Gan longyfarch Paul a’r pump arall sydd yn rownd derfynol Gwobrau VQ, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James:
“Mae Gwobrau VQ yn fwy na dim ond dyfarniad; mae’n symbol o ymroddiad tuag at eich dewis broffesiwn,” meddai. “Mae rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol yn cael eu defnyddio ar gyfer staff i’w galluogi i ddilyn llwybr o ddysgu i gwrdd ac anghenion unigolion, cwmnïoedd, a chwsmeriaid.
“Mae Gwobrau VQ yn ein helpu i ddathlu cyflogwyr Cymru a’r dysgwyr sydd eisoes yn mynd filltir ychwanegol hynny pan ddaw i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.
“Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i fuddsoddi yn y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant er mwyn arfogi Cymru gyda gweithlu o’r radd flaenaf.”
More News Articles
« Michael yn cymryd yr awenau wrth weithio gyda cheffylau yng ngyrfa ei freuddwydion — Serena am ad-dalu’r coleg am achub ei bywyd »