Michael yn cymryd yr awenau wrth weithio gyda cheffylau yng ngyrfa ei freuddwydion

Postiwyd ar gan karen.smith

Michael Whippey at work with horses.

Michael Whippey wrth ei waith gyda cheffylau.

Mae cariad Michael Whippey at geffylau wedi mynd ag ef o’i gartref yn Aberdâr trwy ysgol farchogaeth fyd-enwog i ganolfan geffylau yn Swydd Buckingham lle mae newydd gael ei ddyrchafu’n brif hyfforddwr.

Mae’r cyn ddysgwr yng Ngholeg Penybont wedi casglu llu o gymwysterau galwedigaethol ar hyd y ffordd, a’i obaith un diwrnod y byddant yn ei helpu i sefydlu ei ysgol hyfforddiant ceffylau ei hun.

Mae ei daith addysgol wedi ennill lle iddo yn rownd derfynol Gwobrau VQ mawreddog eleni. Mae’n un o chwech yn y rownd derfynol sy’n cystadlu am y teitl Dysgwr VQ y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo ar 9 Mehefin, y noson cyn Diwrnod VQ, yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.

Trefnir y Gwobrau VQ gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a CholegauCymru a’u nod yw helpu rhoi llwyfan i unigolion a sefydliadau sydd wedi codi safon y gwasanaethau a gynigiant o ganlyniad i gymwysterau galwedigaethol.

Mae’r gwobrau, a ariennir yn rhannol gan y Gronfa Gymdeithasol Ewrop, bellach yn eu hwythfed flwyddyn ac yn cyd-fynd â Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol – dathliad DU-eang o gymwysterau galwedigaethol ar gyfer myfyrwyr, athrawon, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr – a gynhelir ar 10 Mehefin.

Dechreuodd cariad Michael at geffylau pan ddechreuodd farchogaeth yn bum mlwydd oed a phenderfynodd ddilyn llwybr gyrfa gyda cheffylau wedi iddo “beidio â gwneud cystal â hynny” yn ei arholiadau safon UG yn Ysgol Gyfun i Fechgyn Aberdâr. Roedd ei ffocws i gyd ar weithio gyda cheffylau.

Cafodd BTEC Diploma Cenedlaethol mewn rheoli ceffylau gydag anrhydedd triphlyg a thystysgrif hyfforddwr cynorthwyol Cymdeithas Geffylau Prydain ar Gampws Pencoed Coleg Penybont. Helpodd y cymwysterau iddo sicrhau swydd yn y Talland School of Equitation fyd-enwog, lle cyflawnodd dystysgrif hyfforddwr canolradd BHS a daeth yn rheolwr iard.

Ar ôl ennill mwy o brofiad mewn iardiau cystadlu yn Suffolk, ymunodd â Chanolfan Geffylau Shardeloes Farm, Amersham lle rhedodd yr iard hydrotherapi cyn iddo gael ei ddyrchafu’n brif hyfforddwr ym mis Chwefror.

Bu rhaid iddo aros nes iddo droi’n 22 llynedd i wneud arholiad Marchogaeth Uwch BHS y llwyddodd ynddo am y tro cyntaf a bydd yn dod yn un o’r hyfforddwyr cymwys ieuengaf yn y wlad os bydd yn pasio arholiadau Hyfforddi terfynol BHS fis hwn.

“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n gadael yr ysgol ac sy’n dewis gyrfa yw eu bod yn gwneud rhywbeth maen nhw’n caru ei wneud,” meddai Michael, 23 oed. “Dydw i byth yn teimlo fy mod i’n mynd i’r gwaith. Mae’n fwy o ffordd o fyw ac yn angerdd.”

Dywedodd Sarah Allen, rheolwraig y cwricwlwm yng Ngholeg Penybont, a’i henwebodd am y wobr: “Yr hyn sy’n gwbl eithriadol am Michael yw’r lefel y mae wedi’i gyflawni yn ddim ond 23 oed.

Y dysgwyr eraill sydd yn rownd derfynol Dysgwr VQ y Flwyddyn yw: Casey Coleman, 28, cyfarwyddwr artistig salon Ocean Hairdressing, Caerdydd; James Pepper, 39, cyfarwyddwr gwasanaethau technegol ar Vista Retail Support Ltd, Pentwyn, Caerdydd; Paul Wiggins, 35, o Gaerdydd, brocer yswiriant siartredig yn Insurance Services BPW, Casnewydd; Serena Torrance, cyn ddysgwyr Ngholeg Penybont, 23, o Faesteg sy’n cymryd gradd troseddeg ym Mhrifysgol Caerdydd, a’r cyn ddysgwyr Coleg Sir Gâr Simon McCall, 21, o Capel Dewi, saer hunangyflogedig ac aelod o Sgwad WorldSkills UK.

Mae Gwobr Dysgwr VQ y Flwyddyn yn cydnabod dysgwyr sy’n dangos yn glir dilyniant a rhagoriaeth mewn astudiaethau galwedigaethol ac wedi llwyddo’n sylweddol yn eu maes.

Gan longyfarch Michael a’r pump arall sydd yn rownd derfynol Gwobrau VQ, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg, Julie James:

“Mae Gwobrau VQ yn fwy na dim ond dyfarniad; mae’n symbol o ymroddiad tuag at eich dewis broffesiwn,” meddai. “Mae rhaglenni datblygiad proffesiynol a phersonol yn cael eu defnyddio ar gyfer staff i’w galluogi i ddilyn llwybr o ddysgu i gwrdd ac anghenion unigolion, cwmnïoedd, a chwsmeriaid.

“Mae Gwobrau VQ yn ein helpu i ddathlu cyflogwyr Cymru a’r dysgwyr sydd eisoes yn mynd filltir ychwanegol hynny pan ddaw i ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

“Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyflogwyr, unigolion a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i fuddsoddi yn y sgiliau cywir ar gyfer llwyddiant er mwyn arfogi Cymru gyda gweithlu o’r radd flaenaf.”

More News Articles

  —