Dechrau chwilio am sêr Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2018

Postiwyd ar gan karen.smith

Training delivery manager Huw Mathias with apprentices at Tata Steel in Port Talbot.

Y rheolwr cyflenwi hyfforddiant, Huw Mathias, gyda phrentisiaid ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot.

English | Cymraeg

Mae cyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu llwyddiannus ledled Cymru’n cael eu hannog i ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau Cymru 2018 sy’n cael eu lansio heddiw (dydd Llun).

Bwriad y gwobrau blynyddol pwysig hyn yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Mae ffurflenni cais ar gael i’w lawrlwytho o llyw.cymru/gwobrauprentisiaethaucymru a’r dyddiad cau yw hanner dydd ar 4 Mai.

Ar ôl derbyn y ceisiadau, bydd rhestrau byrion yn cael eu paratoi mewn 11 dosbarth am y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd 2018.

Yn y dosbarth cyflogadwyedd, mae gwobrau ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn (Hyfforddeiaethau), Ymgysylltu a Lefel 1. Mae gwobrau hefyd ar gyfer Prentis Sylfaen, Prentis a Phrentis Uwch y flwyddyn.

Mae dosbarth y busnesau’n cynnwys gwobrau i gyflogwyr bach (1 i 49 o weithwyr), canolig (50 i 249), mawr (250 to 4,999) a macro-gyflogwyr (5,000+), a bydd ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn cystadlu am wobrau asesydd a thiwtor y flwyddyn.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae cwmni sy’n datblygu ei ffrwd ei hunan o brentisiaid dawnus ers hanner canrif yn annog cyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu yng Nghymru i ymgeisio am y gwobrau eleni.

Ar ôl i gwmni Tata Steel ennill Gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn y llynedd aeth Huw Mathias, rheolwr cyflenwi hyfforddiant y cwmni ym Mhort Talbot, ati i danlinellu pwysigrwydd prentisiaethau.

Dros gyfnod o 50 mlynedd, mae’r cwmni wedi hyfforddi tua 5,000 o brentisiaid ac mae ganddynt ran ganolog i’w chwarae yn y busnes. “Nhw yw’n dyfodol ni a hebddyn nhw fyddai gennym ni ddim diwydiant dur cynaliadwy,” meddai Huw.

“Mae prentisiaethau’n sicrhau bod gan y cwmni ffrwd barod o ddoniau. Roedd Tata Steel wrth eu bodd yn ennill y wobr. Mae wedi tynnu sylw rhai o brif arweinwyr y busnes, llawer ohonynt yn gyn-brentisiaid, at ein rhaglen brentisiaethau.

“Rwy’n cynghori busnesau a dysgwyr i ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau Cymru. Hyd yn oed pe na baem wedi ennill gwobr, byddai wedi bod yn brofiad braf a gwerth chweil cymryd cam yn ôl ac ystyried y gwaith rydyn ni wedi’i wneud. Weithiau, rydych yn anghofio cymaint y mae’ch busnes wedi’i gyflawni.”

Ers iddynt ennill y wobr, mae Tata Steel wedi croesawu cwmnïau eraill o Gymru i ymweld â nhw er mwyn rhannu eu profiadau o brentisiaethau. Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n cyflogi 301 o brentisiaid ac mae wedi recriwtio 122 dros y flwyddyn ddiwethaf. Y flwyddyn nesaf, mae’n disgwyl y bydd ganddynt 339 o brentisiaid, yn cynnwys rhai rhwng 16 ac 19 oed a gweithwyr hŷn.

Y drafferth i recriwtio gweithwyr medrus mewn gweithle byd-eang sy’n mynd yn fwyfwy cystadleuol oedd un o’r prif resymau pam y datblygodd Tata Steel ei Raglen Brentisiaethau. Gan fod y gweithlu’n heneiddio, mae angen i’r cwmni sicrhau ei fod yn hyfforddi ac yn datblygu gweithwyr medrus a fydd yn gallu parhau â’r gwaith dros y blynyddoedd nesaf.

Wrth lansio’r gwobrau, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru trwy ddangos yr hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.”

More News Articles

  —