Gobaith y bydd cynhadledd yn grymuso dysgwyr i sicrhau ffyniant yn y dyfodol
Arfogi ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith â’r sgiliau angenrheidiol i ymateb i heriau cymdeithasol ac economaidd cymhleth yr 21ain ganrif fydd nod cynhadledd a gynhelir yng Nghaerdydd yn y gwanwyn.
Disgwylir i ryw 250 o ymarferwyr o bob rhan o Gymru ddod i’r ail Gynhadledd Addysgu, Dysgu ac Asesu a gynhelir gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd ar 15 Mawrth.
Mae’r gynhadledd, ‘Grymuso dysgwyr i sicrhau ffyniant yn y dyfodol’, yn gysylltiedig â Phrosiect Gwella Ansawdd NTfW a chaiff ei chefnogi a’i rhan-ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r achlysur yn agored i’r holl ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.
“Mae globaleiddio, newidiadau technolegol cyflym, y cynnydd yn y defnydd o robotiaid, bygythiad eithafiaeth ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn golygu bod angen i weithleoedd heddiw fod yn wydn iawn,” meddai Kelly Edwards, pennaeth ansawdd dysgu seiliedig ar waith gydag NTfW.
“Ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru’n uchelgeisiol, gyda chynlluniau i hybu dyfeisgarwch a thwf digidol, ac i sicrhau bod miliwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050.
Bydd y gynhadledd yn mynd ati i drafod yr heriau a’r cyfleoedd hyn a’r goblygiadau i ddysgu seiliedig ar waith wrth geisio sicrhau ffyniant mewn byd sy’n newid.”
Rhoddir y prif anerchiad gan Eluned Morgan, Gweinidog yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a’r siaradwyr eraill fydd Jeroen Kraan, ymgynghorydd addysg gyda CINOP Advies, yr Iseldiroedd, a fydd yn sôn am sgiliau’r unfed ganrif ar hugain ym maes addysg alwedigaethol yn yr Iseldiroedd, Sarah John, cadeirydd NTfW, a chynrychiolydd o Gymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid.
Yn sesiwn y prynhawn, gofynnir y cwestiwn: Gan fod robotiaid yn dwyn ein swyddi, ble byddwn ni ymhen deng mlynedd? Cynigir yr atebion gan Dr Esther Barrett, arbenigwr mewn addysgu, dysgu ac asesu gyda Jisc, sefydliad nid-er-elw’r sectorau addysg uwch, addysg bellach a sgiliau yn y Deyrnas Unedig ym maes gwasanaethau a datrysiadau digidol.
Bydd Hayden Llewellyn, prif weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg yn sôn am ddatblygiad proffesiynol ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ar ôl iddynt gofrestru gyda’r Cyngor.
Bydd gweithdai ar gyfer y cynadleddwyr yn y bore a’r prynhawn hefyd.
“Mae’n gynhadledd bwysig gan ei bod yn cyflwyno sgiliau ymarferol i bobl sy’n aml yn gweithio ar eu pen eu hunain gyda dysgwyr yn y gweithle,” meddai Mrs Edwards. “Bydd y gynhadledd yn ceisio cefnogi datblygiad personol a phroffesiynol ymarferwyr er mwyn iddynt feithrin sgiliau ehangach ym maes addysgu a dysgu.
“Mae angen i ymarferwyr gynnwys themâu trawsbynciol yn eu gwaith, fel yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, bygythiad eithafiaeth a radicaleiddio, a iechyd meddwl yn y gweithle – pob un ohonynt yn dipyn o her.
“Bydd y gynhadledd yn gyfle i gwrdd â chydweithwyr o sefydliadau eraill yng Nghymru, rhwydweithio gyda nhw a rhannu profiadau.”
Gallwch archebu tocynnau i’r gyhadledd trwy fynd i https://www.ntfw.org/wel/digwyddiadau/ a’r dyddiad cau i gadw lle yw dydd Gwener, 2 Mawrth.
More News Articles
« Dafydd yn agor y drws i brentisiaid Cymraeg eu hiaith y dyfodol — Dechrau chwilio am sêr Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2018 »