Gobaith am wobr i gwmni sy’n meithrin peirianwyr medrus

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Yr arweinydd dysgu, Alex Laurie (ail o’r dde) a’r prentisiaid Rhydian Price, Charlotte Clissold a James Parr o Dow Silicones UK Limited yn y Barri, sydd yn rownd derfynol categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Bu’n anodd i Dow Silicones UK Limited recriwtio staff profiadol â’r sgiliau angenrheidiol i wneud gwaith arbenigol ond erbyn hyn mae’n llwyddo i feithrin llawer o’i weithwyr ei hunan gan ddefnyddio prentisiaethau.

Ac yntau’n un o’r cwmnïau mwyaf yn y byd ym maes gwyddoniaeth mater, bu Dow yn cynhyrchu nwyddau rhyngol silicon yn y Barri ers 1952, ac mae’n meithrin y genhedlaeth nesaf o beirianwyr trwy raglenni cynhwysol ym maes dysgu seiliedig ar waith a ddatblygwyd dros 40 mlynedd.

Mae’r cwmni’n cydweithio’n agos â llawer o ddarparwyr dysgu, yn cynnwys Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC), gan gynnig pum llwybr dysgu ar Lefelau 2 a 3, a thri llwybr arall ar ffurf Prentisiaethau Uwch. Mae ganddo 40 o brentisiad ar y safle ar hyn o bryd.

Yn awr, mae Dow wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

“Mae meithrin ein gweithwyr ein hunain trwy brentisiaethau yn ein helpu i ddatblygu a thyfu, gan wybod y bydd y sgiliau cywir gan y gweithlu,” meddai Alex Laurie, Arweinydd Dysgu ar y Safle.

Trwy gydweithio’n agos â CAVC a rhannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad, mae’r cwmni wedi datblygu rhaglen arloesol Gweithredwyr Cemegol ac mae’n darparu tiwtoriaid ar gyfer y coleg.

Ar hyn o bryd, mae tîm prentisiaid cynnal a chadw Dow yn cynllunio, yn adeiladu ac yn darparu proses ar gyfer offer gweithiol y gall CAVC ei defnyddio wrth ddysgu ar y campws.

“Rŷn ni wrthi’n darparu cwrs pwrpasol a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Dow,” meddai Stuart Woodward, rheolwr cyflenwi gyda CAVC.

“Mae’n hanfodol bod hyn yn cael ei rannu trwy’r coleg cyfan achos mae’n sicrhau bod yr hyn yr ydyn ni’n ei ddarparu yn ateb gofynion Dow fel cwmni ac, wrth gwrs, eu gofynion o ran hyfforddiant y tu hwnt i’r ddarpariaeth graidd.”

Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae 95% o brentisiaid cwmni Dow wedi aros gyda’r cwmni a llawer wedi datblygu i fod yn oruchwylwyr a rheolwyr. Yn ogystal, mae’r cwmni’n cynnig Prentisiaethau Gradd mewn partneriaeth â Phrifysgol y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru i bobl sy’n awyddus i ganfod cyfleoedd newydd ar gyfer eu gyrfa.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.
 
“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.
 
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.
 
“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —