Cyllideb ddrafft yn siomi darparwyr prentisiaethau Cymru
Mae’r corff sy’n cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi’i siomi nad yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn addo rhagor o arian i brentisiaethau, yn wahanol i feysydd eraill ym maes addysg a hyfforddiant.
Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) wedi galw eto am fuddsoddi mwy mewn prentisiaethau ac mae wedi addunedu i gydweithio â Llywodraeth Cymru i gyrraedd nodau sydd ganddynt yn gyffredin, wrth i drafodaethau ar y gyllideb barhau.
Yn gynharach eleni, cafwyd gostyngiad o 14% yng nghyllideb prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Croesawodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTFW, yr ymrwymiad i gadw cyllideb bresennol prentisiaethau gan ddweud:
“Mae hyn yn gydnabyddiaeth glir o rôl hanfodol prentisiaethau er mwyn meithrin gweithlu medrus a chynhwysol.
“Pob clod i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, am ddisgrifio’r gyllideb ddrafft fel ‘cynllun ar gyfer twf’ a ‘chyllideb sy’n amddiffyn pobl agored i niwed’. Dyma egwyddorion sydd wrth galon yr hyn y mae prentisiaethau’n ei gyflawni, gan rymuso unigolion a meithrin gwytnwch mewn cymunedau ledled Cymru.
“Mae’n hanfodol cael cyllid ychwanegol i gyflawni’r pedair blaenoriaeth allweddol a amlinellwyd gan y Prif Weinidog ac i lwyr wireddu potensial trawsnewidiol prentisiaethau wrth gyfrannu at dwf ac amddiffyn pobl sy’n agored i niwed.
“Byddai unrhyw gyllid ychwanegol yn cyfrannu at adfer yr hyn a gollwyd yn ddiweddar oherwydd chwyddiant a thoriadau blaenorol i’r gyllideb.
“Trwy fuddsoddi mwy mewn prentisiaethau, gallwn gydweithio i gynyddu twf economaidd trwy weithlu medrus, hyrwyddo cynhwysiant a symudedd cymdeithasol, mynd i’r afael â phrinder sgiliau diwydiant-benodol a helpu cymunedau i ddod dros heriau economaidd.
“Er ein bod yn deall pam y mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i’r gyllideb sydd ar gael i brentisiaethau flaenoriaethu’r Warant i Bobl Ifanc, byddai gwneud hynny â’r gyllideb hon yn achosi rhagor o niwed i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol.
“Mae’r NTFW yn dal wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i wneud yn siŵr bod prentisiaethau’n parhau i sicrhau manteision ystyrlon i unigolion, busnesau a chymunedau.
“Rydym yn edrych ymlaen at ragor o drafod a chydweithio wrth i ni anelu at nodau sydd gennym yn gyffredin. ”
Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu canfyddiadau adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn archwilio effaith eu penderfyniad i dorri cyllideb prentisiaethau.
Mae adroddiad gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes (Cebr), a gomisiynwyd ar y cyd gan yr NTFW a ColegauCymru yn rhagweld y bydd bron 6,000 yn llai o bobl yn dechrau ar brentisiaethau yng Nghymru eleni, gyda cholled dymor byr gysylltiedig o £50.3 miliwn i’r economi, wedi’i fesur mewn Gwerth Ychwanegol Crynswth.
Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith mai’r sector iechyd a gofal cymdeithasol, ynghyd ag unigolion o ardaloedd difreintiedig, fydd yn dioddef waethaf oherwydd y toriadau hyn.
Mae data a ryddhawyd gan Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru, am y cyfnod Chwefror–Ebrill eleni yn dangos gostyngiad o 445 (34%) yn nifer y dysgwyr a ddechreuodd ddilyn Prentisiaeth Sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Bu gostyngiad o 160 (27%) yn nifer y rhai a ddechreuodd ar Brentisiaeth.
More News Articles
« Tri Mis Prysur: Cynrychioli Buddiannau ein Rhwydwaith yn y Senedd — Tueddiadau prentisiaethau y byddwn yn eu gweld yn 2025 »