Tri Mis Prysur: Cynrychioli Buddiannau ein Rhwydwaith yn y Senedd

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

head shot of Lisa Mytton

Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol NTFW

A ninnau’n agosáu at ddiwedd y flwyddyn, rwyf am rannu uchafbwyntiau’r tri mis diwethaf — cyfnod pryd y cafwyd cryn dipyn o eiriolaeth a chydweithio er mwyn hybu blaenoriaethau ein rhwydwaith. O gyflwyno tystiolaeth yn y Senedd i lywio trafodaethau ar brentisiaethau, addysg, a chynhwysiant, mae wedi bod yn gyfnod cynhyrchiol.

Newyddion Allweddol o’r Senedd

Addysg a’r Gymraeg
Cefais gyfle i gyflwyno tystiolaeth lafar ar gyfer Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Yn ystod y trafodaethau hyn, soniais am bwysigrwydd sicrhau bod y Bil yn adlewyrchu anghenion amrywiol prentisiaid, cyflogwyr, a darparwyr hyfforddiant. Mae hwn yn gam hollbwysig er mwyn cryfhau’r Gymraeg ar draws y sectorau mewn ffordd ystyrlon a chynhwysol.

Cydraddoldeb a Chyflogaeth
Mewn ail sesiwn, fe wnes i annerch y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gan sôn am eu hymchwiliad i anabledd a chyflogaeth. Tynnais sylw at gydymdrechion darparwyr prentisiaethau yng Nghymru i gefnogi dysgwyr anabl. Mae’r ymdrechion hyn yn cynnwys cynlluniau wedi’u teilwra, canllawiau ar hawliau anabledd a chyflogwyr cynhwysol, a rhaglenni fel Twf Swyddi Cymru+, y rhain oll wedi’u cynllunio i helpu dysgwyr anabl i sicrhau cyfleoedd ystyrlon.

Eiriol dros Raglen Brentisiaethau Cymru
Ar ôl i ColegauCymru a ninnau anfon llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog ynghylch Rhaglen Brentisiaethau Cymru, cawsom ymateb cadarnhaol gan Jack Sargeant AS. Edrychwn ymlaen at gwrdd ag ef yn y Flwyddyn Newydd i drafod y camau nesaf.

Ymateb i Ymgyngoriadau o Bwys

Cynllun Strategol Medr
Roeddem yn cefnogi pwyslais y cynllun ar addysg cyfrwng Cymraeg ac ar gysylltu addysg ag arloesi a thwf economaidd. Fe wnaethom ni annog strategaethau mwy penodol a fyddai’n targedu oedolion sy’n dysgu a chyfleoedd ailsgilio, yn cynnwys cysylltiadau â rhaglenni fel Twf Swyddi Cymru+, yn ogystal â’r angen parhaus am gydraddoldeb, cydweithredu, cyfleoedd i dyfu a chynnydd mewn cyllid cynaliadwy.

Adolygiad y CBI o’r System Brentisiaethau
Mewn ymateb i adolygiad y CBI o System Brentisiaethau Cymru, fe wnaethom ni argymell gwneud gwell defnydd o’r ardoll. Yn aml, mae’r agwedd bresennol o “use it or lose it” yn arwain at danwario arian a allai wneud mwy i gefnogi datblygiad y gweithlu. Trwy addasu’r polisïau hyn, gellid sicrhau bod y defnydd gorau’n cael ei wneud o gyllid prentisiaethau er budd dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr.

Ymgysylltu a Mewnwelediad

Trafodaethau’r Grŵp Trawsbleidiol
Yn ystod cyfarfod diwethaf y Grŵp Trawsbleidiol yn y Senedd, buom yn edrych ar Weledigaeth Medr ar gyfer Prentisiaethau yng Nghymru. Ymhlith y pwyntiau allweddol roedd gallu unigryw Cymru i gynnwys yr holl randdeiliaid wrth wneud penderfyniadau, a phwysigrwydd ymgysylltu â chyflogwyr er mwyn esbonio’r glir wrth bobl ifanc, athrawon a rhieni beth mae prentisiaethau yn ei olygu.

Cydweithredu â FAB
Cafodd Sarah John (ALS), Faith O’Brien (Hyfforddiant Cambrian) a minnau gyfarfod gyda Rob Nitsch, Prif Swyddog Gweithredol Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu (FAB). Buom yn trafod cynnwys AI mewn asesiadau a sicrhau bod modd trosglwyddo cymwysterau o fewn y Deyrnas Unedig, ymhlith pethau eraill.

Adolygu Fframweithiau gyda Medr
Cawsom gyfarfod hefyd gyda chynrychiolwyr Medr a’n 10 deiliad contract a gomisiynwyd er mwyn adolygu’r fframweithiau prentisiaethau presennol. Trafodwyd amserlenni’r adolygiad a ffurfio grŵp llywio i oruchwylio’r ymdrechion hyn.

Amddiffyn Cyllidebau Prentisiaethau
Rhoddwyd cryn bwyslais ar eiriol dros gyllid prentisiaethau dros y tri mis diwethaf, yn enwedig mewn ymateb i’r toriad blaenorol o 14%. Mae adroddiad diweddar Cebr – Effaith Toriadau Cyllid Prentisiaethau yng Nghymru, a gomisiynwyd gan NTFW a ColegauCymru, yn amlygu effaith y toriadau hyn, yn enwedig ar sectorau hollbwysig fel Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac Adeiladu.

Trwy bodlediadau gyda Panda Education a Will This Be in the Test? gan Agored, ynghyd â chyfweliadau gyda BBC Radio Wales a Global Radio, rwyf wedi tanlinellu’r angen dybryd am fuddsoddi mewn prentisiaethau, a phroffesiynoli’r gweithlu.

Cyfarchion y Tymor

Wrth i ni baratoi at heriau a chyfleoedd y Flwyddyn Newydd, hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth a’ch cydweithrediad parhaus. Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda i chi!

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —