Llysgenhadon yn rhoi hwb i brentisiaethau ddwyieithog ledled Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Apprentice Ifan testing light fitting

Ifan Wyn Phillips

Mae un ar ddeg o Lysgenhadon Prentisiaethau o feysydd amrywiol yn rhoi’r gair ar led am y cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog sydd ar gael ledled Cymru.

Hon yw’r drydedd flwyddyn o’r bron i Lysgenhadon Prentisiaethau gael eu penodi ar y cyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) sy’n cefnogi datblygiad rhaglenni prentisiaethau dwyieithog.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru sy’n cyflenwi prentisiaethau ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae’r Coleg a’r NTfW wedi trefnu i’r llysgenhadon feddiannu cyfrif Instagram bob hyn a hyn i sôn am eu swyddi a manteision gwneud eu prentisiaethau yn ddwyieithog neu yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Y llysgenhadon yw Ifan Wyn Phillips, 21, o Grymych, trydanwr; Gethin Evans, 33, o Aberystwyth, plymer; Sion Jones, 37, o Benparcau, Aberystwyth a Ben Pittaway, 22, o Bort Talbot, seiri coed; Catrin Morgan, 18, o Bontarddulais, cymhorthydd gofal plant; Cedron Sion, 26, o Borthmadog, cyfieithydd; Elen Lewis, 19, o Arberth, gweithiwr gofal; Ella Davies, 19, o Ystrad Rhondda, swyddog gweithgareddau chwaraeon; Jack Quinney, 22, o Borthaethwy, cogydd; Kameron Harrhy, 27, o’r Coed Duon, arbenigwr mewn datblygu cwricwlwm cyfrwng Cymraeg; a Sioned Williams, 41, o Drawsfynydd, dirprwy reolwr meithrinfa Gymraeg.

Apprentice Gethan removing tools from van

Gethin Evans

Dywedodd hyrwyddwr dwyieithrwydd NTfW, Ryan Evans: “Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn cynnig esiampl dda i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.

“Dros y tair blynedd diwethaf, maen nhw wedi codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael ledled Cymru i wneud prentisiaethau’n ddwyieithog trwy roi cyfweliadau ar y radio a’r teledu ac ymddangos yn y cyfryngau cymdeithasol, mewn print ac ar lein.

“Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder y prentis i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae cynllun y llysgenhadon yn rhan hanfodol o’n gwaith marchnata a chynllunio ar gyfer y sector prentisiaethau yng Nghymru. Mae gweld pobl go iawn yn sôn am eu profiad o brentisiaeth yn ffordd werthfawr o farchnata ac mae’r hyn maen nhw’n ei ddweud yn hwb i ddarpar brentisiaid.

Rydyn ni’n ceisio cael pobl amrywiol er mwyn dangos faint o amrywiaeth sydd yn y sector prentisiaethau yng Nghymru a sut y gall dilyn llwybr prentisiaeth arwain at yrfa sy’n rhoi boddhad i bobl o bob maes.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Wefan: https://llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth
Ffôn: 0800 028 4844

More News Articles

  —