Dyblu’r Nifer o Lysgenhadon sy’n hyrwyddo Prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) wedi gallu dyblu nifer y Llysgenhadon Prentisiaethau diolch i arian gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r Llysgenhadon i gyd yn frwdfrydig iawn am ysbrydoli eraill i ddilyn yn ôl eu traed nhw o gwblhau eu prentisiaeth trwy gyfrwng Cymraeg neu’n ddwyieithog.

Mae’r deg llysgennad prentisiaeth ar gyfer 2020/2021 yn cynrychioli amrywiaeth eang o fframweithiau prentisiaeth o ofal anifeiliaid i beirianneg sifil; ac yn amrywio o Lefel 2 i Lefel 5. Mae’r llysgenhadon hefyd yn cwmpasu ystod oedran rhwng 16 a 32 oed, sy’n tynnu sylw ymhellach bod prentisiaethau’n cefnogi dysgu gydol oes yng Nghymru.

Dyma’r llysgenhadon ar gyfer eleni:

  • Annwen Roberts – Gofal Plant Lefel 5 at Feithrinfa’r Enfys trwy Itec Skills and Employment
  • Celyn Jones – Gofal a Lles Anifeiliaid Lefel 2 at Borth Wild Animal Kingdom trwy Haddon Training
  • Cerys Jones – Peirianneg Sifil Lefel 3 at Gyngor Gwynedd trwy Goleg Cambria
  • Iestyn Morgan – Lletygarwch Lefel 3 at Westy’r Harbourmaster trwy Gwmni Hyfforddiant Cambrian
  • Gethin Evans – Plymio Lefel 2 gyda Lee Worthington trwy Hyfforddiant Ceredigion Training
  • Ifan Phillips – Gosod Trydanol Lefel 2 at D.E. Phillips & Son Ltd trwy Goleg Sir Benfro
  • LLeucu Edwards – Gofal Plant Lefel 5 at Gylch Meithrin Eco Tywi trwy ACT Ltd
  • Llio Jones – Arwain Gweithgareddau Lefel 2 trwy Urdd Gobaith Cymru
  • Poppy Evans – Gweinyddiaeth Busnes Lefel 4 at Gyngor Sir Gâr trwy Llanelli Rural Council
  • Tomos Acreman – Chwaraeon Lefel 2 trwy Urdd Gobaith Cymru

Dywedodd Ryan Evans, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd DSW: “Mae’n wych gallu ehangu ar nifer y llysgenhadon prentisiaethau sy’n siarad Cymraeg a all rannu eu profiadau o fod yn brentis a faint maen nhw’n elwa o ddysgu a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg. Ein nod yw ysbrydoli cymaint o brentisiaid yng Nghymru i ddefnyddio eu Cymraeg yn y Gweithle fel y gallwn fynd rhywfaint tuag at gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Nod y llysgenhadon yw adeiladu ar waith a gwblhawyd gan y llysgenhadon y llynedd, ac effaith gadarnhaol I’m a Celebrity ar ITV ar gyfer hyrwyddo defnydd Cymraeg ar gyfryngau cymdeithasol; felly cadwch lygad ar Drydar ac Instagram dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Dilynwch y cyfrifon neu hashnodau yma: @dyddyfodoldi, @colegcymraeg, @NTFWwbl, @Bilingual_wbl, #MaeGenTiFantais #CymraegYnYGweithle

More News Articles

  —