Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol; Neges o Ddiolch ac Edrych Tua’r Dyfodol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae eleni wedi bod yn heriol iawn i bob un ohonom, ac fel partneriaeth, mae’n gweithgarwch wedi newid yn sylweddol. Rydym wedi parhau i ymgysylltu â chyflogwyr a’n partneriaid diwydiannol i ddeall yr heriau y maent wedi gwynebu. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn tri adroddiad wrthom sy’n manylu ar sgil-effeithiau Covid 19, ac yn tynnu sylw at y prif agweddau. Rhannwyd barn dros 700 o fusnesau yn ein hadroddiad diweddaraf er mwyn i Lywodraeth Cymru ystyried safbwynt y busnesau hynny. Diolch i’r holl fusnesau a’r partneriaid diwydiannol sydd wedi rhannu eu straeon gyda ni hyd yma. Gobeithiwn ymgysylltu â chi eto yn y dyfodol agos.

Rydym hefyd yn ddiolchgar i’n partneriaid niferus sy’n parhau i gefnogi ein gwaith, a sydd wedi cydweithio a’i gilydd er budd y sawl sy’n gweithio, yn byw ac yn dysgu yn rhanbarth De Orllewin a Chanolbarth Cymru. Edrychwn ymlaen at barhau â’r gwaith hwn yn y flwyddyn newydd.
Wrth i ni edrych tua’r flwyddyn newydd, rydym yn awyddus i ddatblygu sawl prosiect a menter gyffrous ymhellach. Mae cynlluniau yn barod ar waith, a byddwn yn rhannu rhagor o fanylion wrth i’r prosiectau ddatblygu.

Am y tro, beth am edrych ar ein fideo hyrwyddo newydd: www.youtube.com/watch?v=fHiNogt8owM

www.rlp.org.uk/cym/home

More News Articles

  —