Dyddiad Cau Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn Agosáu

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) a Hyfforddiant Castell Howell, Edward Morgan, gyda phrentisiaid Celtica.

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i fod yn rhan o’r dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau yng Nghymru – Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Rhaid ymgeisio cyn 12 (ganol dydd), 3 Mai, ac mae’r ffurflenni cais ar gael trwy fynd i llyw.cymru/gwobrau-prentisiaethau-cymru

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau a’r penllanw fydd seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd ar 24 Hydref.

Mae 12 categori yn cynnwys dosbarth newydd “Doniau’r Dyfodol” sy’n rhoi cyfle i gyflogwyr enwebu prentis sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd ac sydd ‘wedi dangos cynnydd personol sylweddol’ ac wedi rhoi ‘hwb pendant i berfformiad y sefydliad’.’

Yn y dosbarth Cyflogadwyedd, mae gwobrau ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn (Hyfforddeiaethau), Ymgysylltu a Lefel 1. Mae gwobrau hefyd ar gyfer Prentis Sylfaen, Prentis a Phrentis Uwch gorau’r flwyddyn.

Caiff cyflogwyr llwyddiannus eu cydnabod â gwobrau ar gyfer cyflogwyr bach (1 i 49 o weithwyr), cyflogwyr canolig (50 i 249 o weithwyr), cyflogwyr mawr (250 i 4,999) a macrogyflogwyr (5,000+). Mae dwy wobr ar gyfer ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith – Asesydd a Thiwtor y Flwyddyn.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Celtica Foods, enillydd dosbarth Cyflogwr Canolig y Flwyddyn y llynedd, yn rhoi cymaint o bwyslais ar ddatblygu gweithlu medrus nes ei fod wedi sefydlu ei academi hyfforddi ei hunan.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae’r cwmni o Sir Gaerfyrddin sy’n cigydda ac yn prosesu cig, wedi hyfforddi 30 o brentisiaid ac mae ganddo chwech ar y llyfrau ar hyn o bryd.

Mae gan Celtica, sy’n rhan o gwmni cyfanwerthwyr arlwyo annibynnol Castell Howell Foods, safle modern gwerth £5m i drin cig yn Cross Hands ac mae’n cyflenwi cig i fwytai, tafarndai, y sectorau arlwyo a lletygarwch, ysbytai ac ysgolion.

Dywedodd Edward Morgan, Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) a Hyfforddiant Castell Howell, “Roedd tîm Celtica yn falch iawn o ddod yn gyntaf yn eu dosbarth yn 2018.

“Rydym yn cydnabod bod cyflwyno darpar weithwyr i’r diwydiant bwyd, yn enwedig y sector cig, yn llawn heriau. Mae’n bwysig cael llwybr gyrfa clir a phendant yn rhan o’r fframwaith prentisiaethau er mwyn denu a chadw doniau newydd. Mae gennym gydweithwyr sydd wedi cwblhau Lefel 2, Lefel 3 a Lefel 4 ac sydd erbyn hyn yn rheolwyr canol ac yn uwch-reolwyr gyda’r cwmni.

“Mae’r wobr yn cydnabod eu gwaith caled; ond allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau ac mae’n rhaid i ni ddefnyddiio gwobr 2018 fel man cychwyn ar gyfer parhau i wella.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Gwyddom fod busnesau’n gwerthfawrogi rhaglenni prentisiaethau a hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn fawr iawn am eu bod yn helpu pobl i ddatblygu’r sgiliau a’r profiad y mae ar bob sector o’r economi yng Nghymru eu hangen.

“Yn ogystal â bod yn gyfle i dynnu sylw at y rhaglenni hyn, mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant pawb – o’n prentisiaid a’n cyflogwyr disglair, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion. Rwy’n edrych ymlaen at glywed llu o straeon am lwyddiant o bob rhan o Gymru.”

More News Articles

  —