Dwy Anrhydedd i Arweinydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth NTfW

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Humie Webbe a’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn seremoni wobrwyo Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig (EMWWAA) yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Mae’r ymgyrchydd cydraddoldeb ac amrywiaeth Humie Webbe wedi treulio’i bywyd yn helpu pobl o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) i ddweud eu dweud – ac fe gafodd ei hymdrechion diflino eu cydnabod wrth iddi ennill dwy wobr o bwys.

Mae Gwobrau Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig (EMWWAA) wedi anrhydeddu Humie, sy’n byw yng Nghaerdydd, am ei gwaith a’i hymroddiad eithriadol i hyrwyddo ac ysbrydoli pobl mewn cymunedau BAME yng Nghymru.

A hithau’n arweinydd strategol cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), mae Humie’n ymwneud â phobl mewn cymunedau BAME a phobl ag anableddau ledled Cymru ac yn eu hannog i elwa ar y cyfleoedd a gynigir gan brentisiaethau.

Cyn ymuno â NTfW, bu Humie’n gydlynydd cenedlaethol amrywiaeth ar gyfer ymgyrch Mind Cymru, Amser i Newid Cymru, ac mae wedi treulio bron 30 mlynedd yn y sector cyhoeddus a’r sector cymunedol yn helpu pobl o grwpiau difreintiedig.

Roedd Humie a’r brifathrawes nodedig o Gaerdydd, y ddiweddar Betty Campbell, ymlith sefydlwyr Mis Hanes Pobl Dduon Cymru ac fe’i henwyd ymhlith y bobl Affricanaidd Caribïaidd ac Affricanaidd Cymreig mwyaf dylanwadol. Yn y flwyddyn 2000, cafodd ei chynnwys yn rhestr y Western Mail o’r 1,000 o bobl fwyaf dylanwadol yng Nghymru.

Mae Humie’n cydweithio a nifer fawr o gyrff cyhoeddus, sefydliadau a grwpiau addysgol a chymunedol gan ddefnyddio’i phrofiad cyfoethog a’i chysylltiadau niferus i ddwyn pobl ynghyd i greu ymwybyddiaeth a chyfleoedd i bobl mewn cymunedau BAME.

Mae’n credu’n gryf mewn ehangu gorwelion pobl a hyrwyddo llwybrau hyfforddiant a gyrfa i bobl mewn cymunedau BAME yng Nghymru. Yn ogystal, fel mentor gyda rhaglen ymgysylltu EYST Cymru (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru), mae’n helpu pobl i feithrin sgiliau gwleidyddol a bod yn fwy effeithiol mewn bywyd cyhoeddus.

Cyflwynwyd ‘Gwobr Gymdeithasol a Dyngarol’ EMWWAA ar y cyd i Humie a chyfarwyddwr EYST, Rocio Cifuentes. Dyma wobr sy’n cydnabod menyw sydd wedi gwella neu gyfoethogi bywydau pobl eraill yn sylweddol neu wedi helpu’r gymdeithas gyfan yn gyffredinol, neu wedi helpu i integreiddio gwahanol ddiwylliannau trwy ymdrechion elusennol a chymunedol.”

Er iddi gael swyddi pwysig ac arwain llawer o gynlluniau sydd wedi helpu i drawsnewid bywydau pobl, mae Humie’n wylaidd iawn am ei chyfraniad.

Humie Webbe a enillodd ddwy wobr EMWWAA

“Dwi ddim yn hyderus iawn i fod yn geffyl blaen. Dwi’n gwneud beth dwi’n ei wneud a dyna ni,” meddai Humie a gafodd ei henwebu am y gwobrau gan gydweithiwr.

“Roedd yn anrhydedd fawr cael fy enwebu ochr yn ochr â menywod sydd wedi gwneud pethau anhygoel. Fe gefais i’r gwobrau am gyfuniad o bethau rwy wedi’u gwneud dros y blynyddoedd. Ond dydych chi ddim yn cyflawni pethau ar eich pen eich hunan; rydych chi’n cydweithio â phobl eraill. Roedd yn dda bod rhai o fy nghydweithwyr ym myd amrywiaeth a chydraddoldeb wedi cael eu henwebu hefyd.”

Pan ddechreuodd weithio gyda NTfW ddwy flynedd yn ôl, aeth Humie ati ar unwaith i drefnu digwyddiadau gan ddefnyddio’i dawn fawr i rwydweithio er mwyn cyflwyno prentisiaethau i bobl a oedd wedi’u tangynrychioli yn y maes cyn hynny.

Ar ôl ennill gwobrau EMWWAA a thrwy ei gwaith fel llysgennad, ei gobaith yw y daw i gysylltiad â hyd yn oed ragor o bobl gan agor y drws i gael sgyrsiau a chreu cyfleoedd i bobl gychwyn ar bartneriaethau strategol.”

Yn ei barn hi, mae’r brwdfrydedd yno ond dydi’r bobl ddim bob amser yn ymwybodol o’r cyfleoedd:
“Pan fydda i’n siarad â phobl am brentisiaethau, mae ganddyn nhw ddiddordeb mawr ond dydi llawer o bobl ddim yn gwybod am eu bodolaeth. Ond all hi ddim bod yn sgwrs unochrog. ”

Yn ogystal â bod yn un o gyd-enillwyr Gwobr Gymdeithasol a Dyngarol EMWWAA, enillodd Humie un o dair Gwobr Llysgennad Rhodri Morgan gan EMWWAA. Cyflwynwyd y rhain er cof am y diweddar Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru.

Iolanda Banu Viegas a Shavannah Taj a gafodd y ddwy wobr arall a dywed Humie ei bod am ddefnyddio’i gwobr hi i hyrwyddo’i gwaith.

“Ni yw’r cyntaf i dderbyn y wobr hon ac mae’n anrhydedd fawr iawn. Fe wnaeth Rhodri Morgan lawer iawn dros y gymuned BAME.”
Dywedodd prif weithredwr Race Council Cymru, Uzo Iwobi OBE, “Mae rôl llysgennad EMWWAA yn un bwysig iawn ac mae’n hanfodol er mwyn sicrhau bod llawer o arwresau gwylaidd o wahanol gefndiroedd ethnig yn cael eu darganfod, eu cydnabod, eu henwebu a’u mawrygu.

Fel Llysgennad, bydd Humie yn goleuo’r ffordd ac yn annog llawer i enwebu menywod sy’n fodelau rôl da ac yn ysgogi newid yng Nghymru.”

Dywedodd yr Athro Meena Upadhyaya, sefydlydd a chadeirydd EMWWAA bod llawer o geisiadau wedi dod gan nifer fawr o ‘unigolion eithriadol’ ledled Cymru.

“Eleni, dewisodd y beirniaid anrhydeddu Humie Webbe, Iolanda Banu Viegas a Shavannah Taj, ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld, fel llysgenhadon, yn dal ati i ganfod a thynnu sylw at fenywod o Gymru sy’n arwresau disylw.

“Bwriad y Gwobrau yw adrodd straeon ysbrydoledig i roi hwb i fenywod ym mhob man ac i ddiolch iddynt, mewn ffordd fach iawn, am y cyfan a wnânt. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Humie a’r Llysgenhadon eraill yn 2019.”

Dywedodd Sarah John, cadeirydd cenedlaethol NTfW, “Rydym wrth ein bodd bod yr EMWWAA wedi cydnabod llwyddiant Humie. Ers iddi ymuno â NTfW, mae Humie wedi llwyddo i sicrhau bod llawer iawn mwy o bobl o’r gymuned BAME yng Nghymru yn gwybod am brentisiaethau ac yn awyddus i’w dilyn.”

Os hoffech wybod mwy am yr EMWWAA, ewch i www.emwwaa.org.uk

More News Articles

  —