Cynhadledd NTfW yn Canolbwyntio ar y Genhedlaeth nesaf o Sgiliau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

SSarah John, cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

Paratoi cyflogwyr ac unigolion at y ffaith y bydd gan weithlu Cymru wahanol sgiliau ac anghenion yn y dyfodol fydd y mater dan sylw mewn cynhadledd yng Nghaerdydd fis nesaf.

Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) wedi dewis ‘Sgiliau y Dyfodol ar gyfer Cenhedlaeth y Dyfodol’ i fod yn thema’i gynhadledd flynyddol a gynhelir yn Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd ar 27 Mehefin 2019.

Mae’r NTfW yn cynrychioli dros gant o sefydliadau sy’n ymwneud â chyflenwi dysgu yn y gweithle, o ddarparwyr hyfforddiant bach arbenigol i sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol, ynghyd ag awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach ac elusennau.

Bydd cyfle i arweinwyr a rheolwyr dysgu seiliedig ar waith o bob rhan o Gymru glywed anerchiadau gan siaradwyr blaenllaw, yn cynnwys Cadeirydd Cenedlaethol NTfW, Sarah John; yr Athro David James, Cyfarwyddwr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd; a’r Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes yn Llywodraeth Cymru, Huw Morris.
Dywedodd cadeirydd NTfW, Sarah John, “Daw’r gynhadledd mewn cyfnod o newid sylweddol i gyflogwyr ac, wrth gwrs, i economi ehangach Cymru.

“Yn ogystal â’r newidiadau yn y macro-amgylchedd, mae newidiadau’n digwydd ar lefel sectorau hefyd, nid yn lleiaf yn y ffordd y mae natur y ddarpariaeth yn newid a’r angen i broffesiynoli’r gweithlu’n cynyddu ac, wrth gwrs, gwelir newidiadau yn y systemau a’r strwythurau sy’n sylfaen i waith y sector.

“Gan gadw’r newidiadau hyn mewn cof, bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud i wella prentisiaethau a’r ddarpariaeth sgiliau yng Nghymru, yn awr ac i’r dyfodol, fel bod y sector yn diwallu anghenion y cenedlaethau sydd i ddod.”

Yn ogystal, bydd nifer o arbenigwyr yn arwain gweithdai yn y gynhadledd undydd ar bynciau sy’n arbennig o berthnasol i’r sector dysgu seiliedig ar waith.

Bydd Heather Davidson o Uned Brentisiaethau Llywodraeth Cymru yn arwain gweithdy ar ‘Ddatblygiadau yn y Rhaglen Brentisiaethau’. ‘Arferion gorau wrth gefnogi dysgwyr anabl’ fydd pwnc Rhian Davies, prif weithredwr Anabledd Dysgu Cymru.

Gweithdy ar ‘Y newid yn rôl ymarferwyr DSW – o aseswyr i addysgwyr’ fydd gan Cassy Taylor, cyfarwyddwr cyswllt Cymwysterau Galwedigaethol Cymwysterau Cymru, a’u rheolwr cymwysterau, Donna Hughes.

Bydd Sian Lloyd-Roberts, Jane Lewis a David Price, sy’n rheolwyr Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, yn trafod ‘Diwallu Anghenion Cyflogwyr – o safbwynt y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol’.

Caiff y gweithdy sy’n edrych ar ‘Arferion gorau yn cefnogi llesiant dysgwyr’ ei arwain gan Claire Foster o Mind Cymru a bydd Alyson Nicholson, cyfarwyddwr Jisc Cymru, yn trafod ‘Digideiddio ac e-ddysgu’.

Bydd Dr Esther Barratt (Arbenigwr Pwnc gyda Jisc), Berni Tyler (pennaeth y Consortiwm B-wbl yng Ngholeg Sir Benfro) a Bethan Stacey a Rhian Maggs o Gyngor y Gweithlu Addysg yn canolbwyntio ar ‘Cynyddu effaith eich dysgu proffesiynol’.

‘Symud tuag at gyngor ac arweiniad holl-sianelog ar yrfaoedd’ fydd pwnc gweithdy Derek Hobbs, cyfarwyddwr dros dro datblygu busnes gyda Gyrfa Cymru. Bydd Rheolwr Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Dr Lowri Morgans, a’r Cofrestrydd, Dr Dafydd Trystan, yn adolygu’r ‘Cyfleoedd a’r heriau ar gyfer datblygu sgiliau dysgwyr dwyieithog’.

Bydd Dr Llyr ap Gareth, Uwch-Gynghorydd Polisi FSB Wales, yn arwain gweithdy’n canolbwyntio ar y sgiliau y mae ar BBaChau eu hangen a sut y gellir eu cyflenwi yng Nghymru.

Gellir prynu tocynnau ar gyfer y gynhadledd trwy fynd i https://www.ntfw.org/wel/cynhadledd-ntfw/ffurflen-i-gadw-lle-a-rhaglen/

More News Articles

  —