Dysgwyr yng Nghymru’n goresgyn rhwystrau’r cyfnod clo gyda help darparwyr hyfforddiant

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae Hayley Lewis a’i chydweithwyr yn TSW Training yn hyfforddi prentisiaid o bell yn ystod y cyfnod clo oherwydd y pandemig.

Mae prentisiaid a hyfforddeion ledled Cymru’n llwyddo i barhau â’u rhaglenni dysgu er gwaethaf cyfyngiadau symud Coronafeirws, diolch i newidiadau sydyn a dyfeisgar a wnaed gan eu darparwyr hyfforddiant, yn cynnwys cefnogaeth ar-lein a chymorth ymarferol.

Sefyllfa’r dysgwyr sydd flaenaf ym meddyliau’r darparwyr hyfforddiant ac maent wedi bod yn arbennig o hyblyg yn addasu eu dulliau dysgu fel na fydd eu rhaglenni dysgu’n cael eu dal yn ôl oherwydd y cyfnod clo.

Mae platfformau ar-lein fel Google Hangouts, Smart Rooms, Zoom, Microsoft Teams a Facebook yn galluogi darparwyr hyfforddiant i gadw mewn cysylltiad â phrentisiaid a hyfforddeion a’u cefnogi wrth iddynt gyflawni, adolygu ac asesu unedau eu Prentisiaethau a’u Hyfforddeiaethau.

Wrth ddysgu sgiliau mewn ffordd hyblyg fel hyn, bydd y dysgwyr mewn sefyllfa dda i gwblhau eu rhaglenni dysgu pan godir y cyfyngiadau symud.

Mae gan ddarparwyr hyfforddiant ledled Cymru, y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), gontractau gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglenni dysgu sy’n amrywio o Hyfforddeiaethau i Brentisiaethau Uwch.

Yn ystod y cyfnod clo, nid ydynt yn gallu trefnu cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb â’u dysgwyr sy’n perthyn i dri dosbarth: ar ffyrlo neu eu swydd wedi’i dileu; yn dal i weithio a heb lawer o amser i barhau i ddysgu oherwydd pwysau gwaith yn y rheng flaen; ac yn gweithio fel arfer naill ai gartref neu yn eu gweithle arferol.

Mae darparwyr dysgu yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â dysgwyr sy’n wynebu rhwystrau i dysgu, y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio tuag at Hyfforddeiaethau, ac yn trefnu rhithgyfarfodydd grŵp i sicrhau eu bod yn iawn ac i roi gwaith iddynt i’w wneud gartref.

Ychydig iawn o sylw a gafodd cyfraniad gwerthfawr darparwyr hyfforddiant yn ystod y pandemig, gyda’r sylw’n canolbwyntio ar y GIG, gofalwyr, ysgolion a gweithwyr rheng flaen eraill. Fodd bynnag, bydd gwaith y darparwyr yn amhrisiadwy wrth iddynt helpu i ddarparu’r sgiliau angenrheidiol i roi hwb i’r economi pan godir y cyfyngiadau symud.

Jeff Protheroe yw cyfarwyddwr gweithrediadau’r NTfW, sef sefydliad y mae dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel yn aelodau ohono ac sydd â chysylltiadau â miloedd o gyflogwyr ledled Cymru.

“Mae’n gyfnod heriol a phryderus ond mae darparwyr dysgu’n brysurach nag erioed ac maen nhw’n haeddu clod am newid eu ffordd o weithio dros nos,” meddai. “Mae’r ffyrdd newydd o weithio yn effeithiol iawn oherwydd mae’r darparwyr yn gwasgu llawer iawn o waith i’w diwrnod trwy beidio â gorfod teithio o le i le.

“Pan godir y cyfyngiadau symud, dylem fod mewn lle gwell o lawer o ran gweithio’n ddigidol a ffyrdd newydd o weithio a bydd hynny’n fanteisiol yn y pen draw. Mae dysgwyr wedi dangos awydd mawr i barhau â’u prentisiaethau a’u hyfforddeiaethau.”

Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru


 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae prentisiaid a hyfforddeion yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru a byddant yn hollol hanfodol wrth i ni ddod dros yr argyfwng hwn.
 
“Ein nod ni yw, nid yn unig adennill ein sefyllfa flaenorol ar ôl y pandemig, ond cyrraedd sefyllfa well trwy greu economi genedlaethol lle caiff cyfoeth a ffyniant eu rhannu’n fwy cyfartal ledled Cymru – mae gan brentisiaid a hyfforddeion ran allweddol i’w chwarae yn hyn.
 
“Er bod hwn yn gyfnod eithriadol o heriol, mae wedi tynnu sylw at ddoniau, ymroddiad a gwytnwch anhygoel y darparwyr hyfforddiant sy’n cefnogi pobl yma yng Nghymru. Rydym yn cydnabod eu cyfraniad ac mae eu hymdrechion yn rhoi hyder i mi yn y dyfodol.”

Dywedodd John Nash, cadeirydd dros dro NTfW, ac un o gyfarwyddwyr TSW Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr: “Rydym yn croesawu’r ffaith fod Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn cydnabod y rhan allweddol y bydd prentisiaid a hyfforddeion yn ei chwarae wrth i ni adfer economi Cymru, oherwydd gwyddom y gall effeithiau dirwasgiad amharu’n fawr ar bobl ifanc.

“Wrth i ni ailgychwyn ar ôl y pandemig, bydd mwy o angen sgiliau nag erioed ar Gymru. Mae’r NTfW a’i aelodau’n barod i gydweithio’n agos â’r Gweinidog a’i dîm i gyfrannu at gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad economaidd ac i ddiogelu dyfodol prentisiaid a hyfforddeion yng Nghymru.”

Mae’r ffyrdd newydd o weithio wedi bod o fudd, nid yn unig i’r dysgwyr, ond i’r darparwyr hyfforddiant hwythau sydd wedi gwella’u sgiliau a datblygu rhai newydd.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r darparwyr sy’n rhan o’r rhwydwaith wedi buddsoddi’n drwm mewn technoleg ddigidol ac e-bortffolios a, phan ddaeth yr argyfwng, aethant ati’n sydyn iawn i wneud mwy o waith o bell,” esboniodd Mr Nash.

“Mae’r gweithgareddau dysgu’n parhau ac rydym yn gweithio’n galed i gefnogi’r dysgwyr mewn cyfnod anodd. Mae’n debygol y bydd yr arferion gweithio newydd cyfathrebu o bell yn aros gyda ni. Bydd cyfarfodydd ac asesiadau wyneb yn wyneb yn dal i gael eu cynnal, ond mae llawer o’r arferion gweithio newydd yma i aros.

Mae TSW Training, sydd â 40 o staff a 650 o brentisiaid, yn cynnig prentisiaethau mewn iechyd a gofal cymdeithasol, peirianneg, gofal plant, rheoli, gwasanaethu cwsmeriaid a gweinyddu busnes.

Mae swyddogion hyfforddi’r cwmni’n defnyddio technoleg ddigidol yn cynnwys Microsoft Teams, e-bortffolio Smart Assessor a nifer o adnoddau dysgu ar-lein eraill i gefnogi prentisiaid. Cofnodir trafodaethau proffesiynol trwy Microsoft Teams a chyflwynir yr elfennau gwybodaeth mewn gweminarau ar-lein yn hytrach na mewn gweithdai yn ystod y cyfnod clo.

John Nash, TSW Training

“Mae’r staff wedi addasu’n dda iawn i ddysgu ar-lein ac maent yn hyblyg iawn wrth ymwneud â dysgwyr a chyflogwyr,” meddai Mr Nash. “Mae’r rhan fwyaf o’r prentisiaid ym meysydd rheoli, a gwasanaethu cwsmeriaid yn gweithio gartref ac mae eu rheolwyr yn gweld hyn fel cyfle iddynt ddysgu’r elfennau gwybodaeth yn eu prentisiaethau ymlaen llaw.

“Bydd hefyd yn lleihau’r effaith ar y busnes gan na fydd angen eu rhyddhau o’r gweithle am gymaint o amser.”

Mae un o brentisiaid y cwmni, Jill Davies, 60 oed, o Aberpennar, yn weithiwr ymgysylltu cymunedol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.” Yn ystod y cyfnod clo, mae wedi’i symud i weithio gartref i gefnogi pobl hŷn a bregus yn y gymuned, yn cynnwys siopa drostynt a nôl eu presgripisiynau.

Gyda Lindsay Sandall o TSW Training yn ei chefnogi o bell, mae Jill yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cyngor a Chyfarwyddyd ac mae’n dod ymlaen yn dda. Maent yn cysylltu’n rheolaidd dros y ffôn a thrwy’r ebost a chaiff gwaith ei lanlwytho i feddalwedd e-bortffolio Smart Assessor i gael ei asesu.

“Mae Lindsay’n wych oherwydd mae bob amser ar ben draw’r ffôn ac mae’n un dda am esbonio pethau os ydw i’n ansicr am rywbeth,” meddai Jill. “Cefais gyfle i wneud y Brentisiaeth Uwch trwy’r gwaith ac, er fy mod yn 60 oed, rwy’n meddwl y bydd y cyngor a minnau’n elwa ar yr hyn rwy’n ei ddysgu.”

Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/prentisiaethau neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod rhagor. Gall unigolion sy’n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy’n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth

More News Articles

  —