Cefnogaeth hyfforddwyr yn ysbrydoli dysgwyr yng Nghymru i oresgyn rhwystrau’r cyfnod clo

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Katlin Rees yn gweithio gartref ar ei Hyfforddeiaeth Lefel Un mewn Chwaraeon.

Mae prentisiaid a hyfforddeion ledled Cymru’n llwyddo i barhau â’u rhaglenni dysgu er gwaethaf cyfyngiadau symud Coronafeirws, diolch i newidiadau sydyn a dyfeisgar a wnaed gan eu darparwyr hyfforddiant, yn cynnwys cefnogaeth ar-lein a chymorth ymarferol.

Sefyllfa’r dysgwyr sydd flaenaf ym meddyliau’r darparwyr hyfforddiant ac maent wedi bod yn arbennig o hyblyg yn addasu eu dulliau dysgu fel na fydd eu rhaglenni dysgu’n cael eu dal yn ôl oherwydd y cyfyngiadau symud.

Mae platfformau ar-lein fel Google Hangouts, Smart Rooms, Zoom, Microsoft Teams a Facebook yn galluogi darparwyr hyfforddiant i gadw mewn cysylltiad â phrentisiaid a hyfforddeion a’u cefnogi wrth iddynt gyflawni, adolygu ac asesu unedau eu Prentisiaethau a’u Hyfforddeiaethau.

Wrth ddysgu sgiliau mewn ffordd hyblyg fel hyn, bydd y dysgwyr mewn sefyllfa dda i gwblhau eu rhaglenni dysgu pan godir y cyfyngiadau symud.

Mae gan ddarparwyr hyfforddiant ledled Cymru, y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), gontractau gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglenni dysgu sy’n amrywio o Hyfforddeiaethau i Brentisiaethau Uwch.

Yn ystod y cyfnod clo, nid ydynt yn gallu trefnu cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb â’u dysgwyr sy’n perthyn i dri dosbarth: ar ffyrlo neu eu swydd wedi’i dileu; yn dal i weithio a heb lawer o amser i barhau i ddysgu oherwydd pwysau gwaith yn y rheng flaen; ac yn gweithio fel arfer naill ai gartref neu yn eu gweithle arferol.

Mae darparwyr dysgu yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â dysgwyr sy’n wynebu rhwystrau i dysgu, y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio tuag at Hyfforddeiaethau, ac yn trefnu rhithgyfarfodydd grŵp i sicrhau eu bod yn iawn ac i roi gwaith iddynt i’w wneud gartref.

Ychydig iawn o sylw a gafodd cyfraniad gwerthfawr darparwyr hyfforddiant yn ystod y pandemig, gyda’r sylw’n canolbwyntio ar y GIG, gofalwyr, ysgolion a gweithwyr rheng flaen eraill. Fodd bynnag, bydd gwaith y darparwyr yn amhrisiadwy wrth iddynt helpu i ddarparu’r sgiliau angenrheidiol i roi hwb i’r economi pan godir y cyfyngiadau symud.

Mae’r ffyrdd newydd o weithio wedi bod o fudd, nid yn unig i’r dysgwyr, ond i’r darparwyr hyfforddiant hwythau sydd wedi gwella’u sgiliau a datblygu rhai newydd.

Jeff Protheroe yw cyfarwyddwr gweithrediadau’r NTfW, sef sefydliad y mae dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel yn aelodau ohono ac sydd â chysylltiadau â miloedd o gyflogwyr ledled Cymru.

“Mae’n gyfnod heriol a phryderus ond mae darparwyr dysgu’n brysurach nag erioed ac maen nhw’n haeddu clod am newid eu ffordd o weithio dros nos,” meddai. “Mae’r ffyrdd newydd o weithio yn effeithiol iawn oherwydd mae’r darparwyr yn gwasgu llawer iawn o waith i’w diwrnod trwy beidio â gorfod teithio o le i le.

“Pan godir y cyfyngiadau symud, dylem fod mewn lle gwell o lawer o ran gweithio’n ddigidol a ffyrdd newydd o weithio a bydd hynny’n fanteisiol yn y pen draw. Mae dysgwyr wedi dangos awydd mawr i barhau â’u prentisiaethau a’u hyfforddeiaethau.”

Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru


 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae prentisiaid a hyfforddeion yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru a byddant yn hollol hanfodol wrth i ni ddod dros yr argyfwng hwn.
 
“Ein nod ni yw, nid yn unig adennill ein sefyllfa flaenorol ar ôl y pandemig, ond cyrraedd sefyllfa well trwy greu economi genedlaethol lle caiff cyfoeth a ffyniant eu rhannu’n fwy cyfartal ledled Cymru – mae gan brentisiaid a hyfforddeion ran allweddol i’w chwarae yn hyn.
 
“Er bod hwn yn gyfnod eithriadol o heriol, mae wedi tynnu sylw at ddoniau, ymroddiad a gwytnwch anhygoel y darparwyr hyfforddiant sy’n cefnogi pobl yma yng Nghymru. Rydym yn cydnabod eu cyfraniad ac mae eu hymdrechion yn rhoi hyder i mi yn y dyfodol.”

Dywedodd John Nash, cadeirydd dros dro NTfW, ac un o gyfarwyddwyr TSW Training ym Mhen-y-bont ar Ogwr: “Rydym yn croesawu’r ffaith fod Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn cydnabod y rhan allweddol y bydd prentisiaid a hyfforddeion yn ei chwarae wrth i ni adfer economi Cymru, oherwydd gwyddom y gall effeithiau dirwasgiad amharu’n fawr ar bobl ifanc.

“Wrth i ni ailgychwyn ar ôl y pandemig, bydd mwy o angen sgiliau nag erioed ar Gymru. Mae’r NTfW a’i aelodau’n barod i gydweithio’n agos â’r Gweinidog a’i dîm i gyfrannu at gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad economaidd ac i ddiogelu dyfodol prentisiaid a hyfforddeion yng Nghymru.”

Un o’r darparwyr hyfforddiant sydd wedi addasu’n sydyn i’r cyfnod clo yw Inspire Training o Abertawe. Mae’r cwmni’n cyflogi 21 aelod o staff sy’n darparu rhaglenni Hyfforddeiaethau, Ymgysylltu a Lefel 1, i 150 o ddysgwyr, llawer ohonynt â rhwystrau’n eu hatal rhag dysgu.

Mae’r staff yn gweithio o bell ac yn dal mewn cysylltiad â’r dysgwyr bob dydd, naill ai fel grŵp neu yn unigol, trwy alwadau ffôn neu gyswllt fideo. Datblygwyd pecynnau gwaith cartref ar gyfer pob un o’r dysgwyr er mwyn sicrhau nad yw’r cyfnod clo yn eu dal yn ôl.

Addaswyd unedau’r rhaglenni dysgu fel y gall y tiwtoriaid ddysgu ar lein gan osod tasgau wythnosol. Defnyddir adnoddau ar-lein amrywiol i gefnogi’r dysgwyr o bell.

Darparwyd dyfeisiau Wi-Fi i ddysgwyr a rhoddwyd gliniaduron ar fenthyg iddynt fel y gallant gysylltu â’r rhyngrwyd a gweithio o bell. Yn ogystal, mae Inspire yn cynnig sawl dull o ddysgu fel bod rhywbeth yn addas i bawb, beth bynnag eu diddordebau a’u gallu.

“Mae’r staff yn dal wrthi’n datblygu adnoddau ac yn sicrhau bod yr holl ddysgwyr ar y trywydd iawn, a’u bod yn ddiogel ac yn iach yn y cyfnod anodd hwn,” meddai’r rheolwr gyfarwyddwr Gavin Earley. “Rydym yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â dysgwyr y teimlwn y gallent fod yn agored i niwed.

“Mae’r dysgwyr hefyd yn dal wrthi, yn cwblhau tasgau, yn dysgu ac yn gweithio tuag at unedau eu cymwysterau. Rwy’n credu eu bod yn gwerthfawrogi ymdrechion y staff i sicrhau eu bod yn dal i symud ymlaen.

“Mae eu lles meddyliol yn bwysig i ni. Mae tiwtoriaid a staff yn cymryd galwadau ffôn gyda’r nosau ac ar benwythnosau gan wybod eu bod yn bwysig i’r dysgwyr. Mae’r berthynas sydd gennym â’r dysgwyr yn talu ar ei chanfed.

“Mae’r gymuned ehangach ar ei hennill wrth i ni gadw’r bobl ifanc hyn yn brysur. Rwy’n bendant o’r farn bod ein cyfraniad ni’n help mawr i’r bobl ifanc hyn, eu teuluoedd a’u ffrindiau yn enwedig i ddysgwyr sy’n byw’n annibynnol neu’n dioddef o iselder neu orbryder.”

Mae Katlin Rees, 17 oed, o Dreforys yn un o ddysgwyr y cwmni. Mae’n llwyddo i wneud yr holl waith a gaiff gan Inspire Training er ei bod yn gwirfoddoli ar y wardiau cyffredinol yn Ysbyty Treforys.

A hithau’n gweithio tuag at Hyfforddeiaeth Lefel Un mewn Chwaraeon, mae Katlin yn gobeithio symud ymlaen a mynd i brifysgol, gyda’r nod o fod yn barafeddyg yn y pen draw.

Roedd ganddi ganmoliaeth i Inspire Training am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod clo, gyda’r staff yn cadw mewn cysylltiad i holi sut oeddent a sut oedd y gwaith yn dod ymlaen. Bu’n cymryd rhan mewn cyfarfodydd Zoom a Facetime gyda’r cwmni a’r hyfforddeion eraill.

“Bu’r cyfnod clo yn her gan nad ydw i’n cael gweld fy ffrindiau na rhai o fy nheulu, ond mae wedi bod yn dda cadw mewn cysylltiad ag Inspire a fy ffrindiau ar y cwrs,” meddai.

“Fe wnaeth ffrind argymell Inspire wrth a i pan adewais i’r ysgol ag ychydig iawn o gymwysterau. Doedd addysg yr ysgol ddim yn fy siwtio ond rwy wedi mwynhau’r Hyfforddeiaeth a fyddwn i ddim lle’r ydw i heddiw heb Inspire.”

Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/prentisiaethau neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod rhagor. Gall unigolion sy’n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy’n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth

More News Articles

  —