
Prentisiaethau’n rhoi hwb i’ch busnes
Mae Gemma Kingston, perchennog a sylfaenydd Salon Angels, Caerffili, yn gwerthfawrogi’r rhaglen Brentisiaethau a’r ffordd y mae prentis yn helpu ei busnes harddwch ac estheteg i dyfu.
Wrth ddod i wybod mwy am brentisiaethau, sylweddolodd Gemma fod cael prentis yn fanteisiol i’w busnes ac i’r dysgwr.
“Er mwyn i’r busnes dyfu, roeddwn i’n gwybod bod angen help arna i ac roedd cyflogi prentis yn rhoi’r cyfle hwnnw i mi,” meddai Gemma.
Ar hyn o bryd mae gan Gemma un prentis, Jessica Jenkins, yn gweithio gyda hi yn y salon. Mae Jess wedi cwblhau cymhwyster therapi harddwch lefel 2 ac mae’n symud ymlaen i lefel 3, a ddarperir gan Educ8 Training, Ystrad Mynach.
Mae Jess yn ffitio’n dda ym musnes Salon Angels lle bu ers dwy flynedd erbyn hyn. Mae’n dysgu’n gyflym ac yn deall anghenion a gwerthoedd y busnes.
Gall fod yn anodd i gleientiaid symud at staff newydd gan eu bod nhw’n teimlo’n gyfforddus gyda staff cyfarwydd, ond mae Jess wedi’i derbyn yn un o’r Tîm.
Dywedodd Jess, “Dechreuais i wneud y brentisiaeth gan fy mod i’n cael trafferth dysgu yn yr ysgol. Roedd dysgu ymarferol yn fy siwtio i’n well. Yn wahanol i ysgol neu goleg, wrth wneud prentisiaeth rydych chi’n dysgu llawer o sgiliau newydd ac yn ennill arian ar yr un pryd.”
Mae Jess yn weithiwr brwd. Does arni ddim ofn rhoi cynnig ar rywbeth newydd ac mae hynny’n rhoi amser i Gemma ganolbwyntio ar rannau eraill o’r busnes.
Dydi cyflogi rhywun sydd eisoes wedi ennill cymhwyster ddim bob amser yn opsiwn haws oherwydd efallai na fyddan nhw’n ymateb i anghenion y busnes.
Trwy ddilyn eu hyfforddiant eu hunain, mae Jess wedi datblygu sgiliau mewn amrywiaeth eang o wasanaethau arbenigol y mae’r salon yn eu cynnig.
“Mae prentisiaethau’n wych,” meddai Gemma. “Mae modd mowldio’r prentis i’ch steil chi a’ch ffordd chi o weithio a gall y cyflogwr roi’r hwb angenrheidiol i’w symud ymlaen yn eu gyrfa.”
Erbyn hyn, mae Gemma’n ystyried recriwtio ail brentis. Dywedodd fod Prentisiaethau’n ei galluogi i ddatblygu ei busnes a chael cymorth mewn ffordd fwy fforddiadwy.
Dywedodd Rhian Anstee, Anogwr Hyfforddwyr gydag Educ8: “Gall Salon Angels weld manteision pendant i’r rhaglen Brentisiaethau a’r ffordd y mae wedi eu helpu i ehangu eu busnes.
“Mae Gemma, perchennog y salon, wedi gallu sicrhau bod Jess, y prentis, yn cael llawer o wybodaeth a hyfforddiant er mwyn datblygu sgiliau rhagorol yn y busnes, ac mae hynny wedi annog twf. Mae’n wych clywed y byddai’n hoffi cymryd prentis arall ymhen amser ac rwy’n edrych ymlaen at ei chefnogi â hynny.”
Mae prentisiaethau’n rhoi’r gweithwyr medrus y mae ar gyflogwyr eu hangen ar gyfer y dyfodol. Mae prentisiaid yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr profiadol i feithrin sgiliau yn y gwaith, ac yn cael hyfforddiant allanol gan goleg neu ddarparwr hyfforddiant cymeradwy. Mae’r cyflogwr yn talu eu cyflog ac mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cymorth â rhai o’r costau hyfforddi.
Fel rhan o’i hymgyrch ‘Dewis Doeth’, dywed Llywodraeth Cymru fod prentisiaethau’n helpu unigolion i sbarduno eu gyrfa trwy ddarparu’r profiad cywir a sgiliau penodol i’r swydd, gan helpu busnesau i recriwtio mewn ffordd gost-effeithiol.
Helpwch eich busnes i dyfu gyda phrentis. Os hoffech wybod rhagor am recriwtio prentis, siaradwch â’n tîm.
More News Articles
« ‘Ar Daith’ o gymwysterau Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo — Cydweithio er mwyn newid »