
‘Ar Daith’ o gymwysterau Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo
Ar Ddydd Gwener 3 Mawrth, cyhoeddwyd ein adroddiad ar ganfyddiadau ein hadolygiad sector ‘Ar Daith’ o gymwysterau Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo.
Nododd ein hadolygiad rai problemau yn strwythur, ystod, cynnwys ac asesiadau’r cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo a gaiff eu cynnig yng Nghymru ar hyn o bryd.
Felly, rydyn ni’n gwneud cynigion ar gyfer cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo newydd, wedi’u Gwneud-i-Gymru, a hoffem glywed eich barn chi mewn ymgynghoriad sy’n cael ei lansio ar yr un diwrnod.
I gael rhagor o wybodaeth am yr adolygiad ‘Ar Daith’ a’r ymgynghoriad, ymunwch â’n gweminar ddydd Mercher 15 Mawrth am 1600.
Bydd y weminar hon yn rhoi gwybodaeth am ganfyddiadau’r adroddiad a rhagor o fanylion am ein cynigion ar gyfer cymwysterau Lletygarwch ac Arlwyo.
Os hoffech chi gael gwybod rhagor a gofyn cwestiynau, cofrestrwch ar gyfer y weminar nawr.
Cymwys ar Gyfer y Dyfodol
Fel rhan o’n gwaith diwygio Cymwys ar gyfer y dyfodol, rydyn ni’n ail-ddychmygu’r ystod lawn o gymwysterau sydd ar gael i ddysgwyr rhwng 14aci 16 oed yng Nghymru.
Ochr yn ochr â chyd-greu’r cynnig TGAU at y dyfodol, rydyn ni wedi bod yn edrych ar beth arall sydd ei angen i sicrhau cynnig cymwysterau cydlynol a chynhwysol a fydd yn cefnogi uchelgeisiau’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r cynigion yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer cymwysterau sy’n darparu cyfle cyfartal, ac yn galluogi pob dysgwr i gyflawni, wneud cynnydd, a mwynhau ei addysg. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i chi Ddweud Eich Dweud ar ein cynigion a bod yn rhan o’r sgwrs genedlaethol ar sut y gall dysgwyr ddod yn Gymwys ar gyfer y dyfodol.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu ofyn cwestiynau am ein cynigion ar gyfer y Cynnig 14-16 Llawn, ymunwch â’n gweminar ddydd Mercher 29 Mawrth am 1600.
More News Articles
« Itec yn rhoi taliad costau byw o £500 i’w gweithwyr — Prentisiaethau’n rhoi hwb i’ch busnes »