Emily’n benderfynol o fod yn nyrs feithrin

Postiwyd ar gan karen.smith

Emily Wintle with Abigail Barber, two, and William Jones, four, at St Aubin Nursery, Cowbridge.

Emily Wintle gydag Abigail Barber, dwy, a William Jones, pedair, ym meithrinfa St Aubin, y Bont-faen.

English | Cymraeg

Mae Emily Wintle yn ferch ifanc benderfynol iawn sydd wedi goresgyn nifer o anawsterau ar y ffordd i ddod yn aelod gwerthfawr o staff meithrinfa St Aubin, y Bont-faen.

Diolch i waith caled Emily a chefnogaeth ACT Training, Pen-y-bont, llwyddodd i gwblhau ei Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Gofal Plant mewn dim ond tri mis, gyda’r hyfforddwr a’i chyflogwr yn deall ei anawsterau.

Erbyn hyn, mae wedi’i chydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1) yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Mae dyslecsia difrifol ar Emily, sy’n byw yn Llanharri, ac mae arni angen llawer o gymorth ychwanegol i ddysgu sgiliau newydd. Bu’n destun datganiad trwy gydol ei hamser yn yr ysgol, lle cafodd ei stigmateiddio am fod ganddi anawsterau dysgu. Roedd yn teimlo’n ynysig ac fe effeithiodd hynny ar ei hunan-fri a’i hyder.

Er iddi weithio’n galed iawn, roedd yn ymdrech fawr i Emily gael y pedair TGAU yr oedd arni eu hangen i ddilyn cwrs coleg ar gyfer gyrfa’i breuddwydion, theatr gerddorol. Ar ôl wynebu sawl ergyd gan nad oedd cyflogwyr yn deall ei hanghenion, llwyddodd Emily i gael lleoliad wrth ei bodd ym maes gofal plant.

Mae’n gweithio llawn amser ac yn dilyn Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal Plant, gan obeithio gwneud Prentisiaeth y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Jayne McGill-Harris o ACT Training: “Anaml iawn y down ni ar draws rhywun mor benderfynol sy’n dal ati er gwaetha pob anhawster. Mae’n ddysgwraig ryfeddol ac yn ferch ifanc wydn a phenderfynol.”

Meddai Emily: “Mae fy ngwaith caled a fy ymroddiad wedi dwyn ffrwyth. Rwy’n fwy penderfynol nag erioed o gyrraedd fy nod o fod yn nyrs feithrin.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Emily ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —