Tri dyrchafiad i Megan sy’n Brentis Uwch benderfynol

Postiwyd ar gan karen.smith

Megan Hession

Megan Hession

English | Cymraeg

Gan fod Megan Hession mor benderfynol o lwyddo yn y sector gofal iechyd, mae wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch chwe mis cyn pryd ac wedi cael tri dyrchafiad yn y gwaith o fewn dwy flynedd.

A hithau’n ddim ond 24 oed, mae’n rheoli dau dŷ byw gyda chymorth, grŵp mawr o ddefnyddwyr gwasanaethau, a thimau staff ar gyfer Montana Healthcare o Gaerffili, sy’n cefnogi oedolion â gwahanol anghenion cymhleth.

Erbyn hyn, mae wedi’i chydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Uwch y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Ymunodd Megan, o Lanisien, Caerdydd, â’r cwmni yn 2015 fel gweithiwr cymorth, ar ôl ennill gradd mewn Rheoli Busnes a Thystysgrif Lefel 4 mewn Rheoli gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Yn fuan iawn, roedd wedi cwblhau Prentisiaeth lefel 3 mewn Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a symudodd ymlaen i wneud Prentisiaeth Uwch ar lefel 5. Cwblhaodd y brentisiaeth hon gydag ACT Training yn yr haf eleni er iddi gael llawdriniaeth fawr yn ystod y cyfnod.

Erbyn hyn, mae Megan yn mentora pum aelod o staff sydd ar raglenni prentisiaethau ac mae ACT Training wedi bod yn ei ffilmio fel llysgennad eu hymgyrch recriwtio ar gyfer Prentisiaethau Uwch.

Dywedodd Megan: “Rwy wedi gweithio’n galed iawn i gwblhau fy hyfforddiant ond nid er mwyn cael cymhwyster yn unig. Mae popeth rwy wedi’i wneud wedi bod er budd y defnyddwyr gwasanaethau, fy nhîm a Montana Healthcare. Mae fy hyfforddiant yn fy ngalluogi i wneud gwaith llesol.”

Dywedodd Bev Wade, rheolwr ardal Montana Healthcare: “Rydym yn falch iawn o Megan. Mae’n ferch ddeallus, ddawnus a llawn gofal sydd â sgiliau cyfathrebu da a gwerthoedd uchel, gan ei gwneud yn berffaith ar gyfer ein cwmni ni.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Megan ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —