Emma’r asesydd yn trin pob dysgwr fel unigolyn

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Emma Huggins, former apprentice now training apprentices.

Emma Huggins, a fu’n brentis ac sy’n hyfforddi prentisiaid erbyn hyn.

A hithau wedi bod yn brentis ei hunan, mae Emma Huggins yn gwybod sut mae’r dysgwyr ifanc mae’n gofalu amdanynt yn teimlo. Mae Emma’n asesydd yn adran Gwasanaethau Busnes ACT Training yng Nghaerdydd ac mae’n gofalu am 40 o Brentisiaid Sylfaen ym maes Gweinyddu Busnes, Gwasanaethau Cwsmeriaid a Manwerthu, llawer ohonynt ar eu cyfnod prawf.

Mae Emma’n deall pwysigrwydd trin pob dysgwr fel unigolyn, gwybod sut maent yn meddwl ac a oes unrhyw rwystrau yn eu ffordd wrth ddysgu.

Erbyn hyn, mae wedi’i chydnabod yn un o sêr Cymru ym maes dysgu seiliedig ar waith trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Mae Emma’n credu’n gryf mewn rhwydweithio ac mae wedi meithrin cysylltiadau gwych gyda chyflogwyr lleol, yn enwedig Cyngor Dinas Casnewydd lle mae’n goruchwylio 10 o brentisiaid. Bu hyn yn brofiad cadarnhaol iawn sy’n golygu bod nifer o’r prentisiaid yn gobeithio cael contractau parhaol a bod y cyngor yn ystyried cymryd rhagor o brentisiaid.

Dywedodd Gareth Jones, un o brentisiaid llwyddiannus Emma: “Mae Emma wedi bod yn fentor ardderchog ac mae wedi fy helpu i gredu ynof fi fy hunan eto. Mae’n mynd yr ail filltir wrth ein cefnogi.”
Dywedodd Emma, sy’n byw yn y Rhws: “Rwy’n gwneud fy ngorau glas er budd fy nysgwyr, eu lles a’u dyfodol. Rwy wedi buddsoddi llawer o egni mewn bod yn hyfforddwr – cwblhau fy nghymhwyster Hyfforddi, Asesu a Sicrwydd Ansawdd, dysgu’r safonau a sicrhau fy mod ar gael ddydd a nos i gefnogi fy nysgwyr.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Emma ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —