Gobaith am wobr i Kelly sy’n codi safonau hyfforddiant

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Kelly Nantcarrow – raising training standards.

Kelly Nancarrow – codi safonau hyfforddiant.

Mae Kelly Nancarrow yn ymroi i godi safon dysgu ac addysgu gyda Hyfforddiant Torfaen. Gyda dros 15 mlynedd o brofiad o ddysgu seiliedig ar waith, mae wedi symud ymlaen o fod yn asesydd i fod yn swyddog hyfforddiant uwch ac yn warantydd ansawdd mewnol y ganolfan.

Oherwydd ansawdd y gefnogaeth, yr arweiniad a’r addysg y mae hi’n eu rhoi i ddysgwyr lefel uchel, mae llawer iawn ohonynt yn symud ymlaen i lefel nesaf eu hyfforddiant.

Erbyn hyn, mae Kelly wedi’i chydnabod yn un o sêr Cymru ym maes dysgu seiliedig ar waith trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Mae Kelly, sy’n byw yng Nghwmbrân, yn cael ei chydnabod hefyd am ei gwaith yn datblygu staff Hyfforddiant Torfaen trwy weithredu systemau a phrosesau ansawdd, cynlluniau datblygu personol, cynlluniau blynyddol, gweithdai, diwrnodau hyfforddi, ffurflenni adborth a holiaduron.

Yn ogystal, mae Kelly wedi pennu arferion gorau gydag is-gontractwyr a sefydliadau allanol, gan wella’r gwaith, gwella boddhad cwsmeriaid a gwella enw da’r ganolfan hyfforddi.

Mae Sam Mills yn un a elwodd o hyfforddiant lefel uchel Kelly ac meddai: “Mae Kelly’n meithrin cyfeillgarwch proffesiynol sy’n gwneud i bobl deimlo’n gyfforddus ac yn golygu eu bod yn barod i rannu eu pryderon. Mae’n trin pobl â pharch ac urddas ac rwy’n gwerthfawrogi ei chyfraniad at fy natblygiad personol i yn fawr iawn. Mae ei hegni a’i brwdfrydedd yn bethau prin.”

Dywedodd Kelly: “Mae gweithio fel tîm yn bwysig iawn ac rwy’n teimlo fy mod wedi codi safon ein gwaith a bod ein tîm ansawdd mewnol wedi datblygu’n dda.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Kelly ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —