Cyfle i gwrdd â’r cyflogwyr sydd ar restr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru
Mae cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi cyrraedd rhestrau byrion gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhelir ar 17 Mehefin.
Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 35 o ymgeiswyr yn cystadlu am wobrau mewn 12 categori mewn seremoni ddigidol.
Y seremoni wobrwyo yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Mae’n rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 101,590 o bobl ledled Cymru wedi elwa ar raglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.
Heddiw, cyflwynwn gyflogwyr llwyddiannus sy’n cystadlu am wobrau mewn pedwar gategori.
Cyflogwr Bach y Flwyddyn (1 i 49 o weithwyr)
Mae Compact Orbital Gears wedi datblygu gweithlu hyblyg â sgiliau amrywiol gan sicrhau ei fod yn enw blaenllaw yn y diwydiant gêrs arbenigol ers dros hanner canrif.
Mae’r cwmni, sy’n cyflogi 43, yn dylunio, yn cynhyrchu ac yn datblygu gêrs pwrpasol ar gyfer cwsmeriaid yn y byd awyrofod, moduron ac ynni glân. Mae’r penderfyniad i ganolbwyntio ar ddatblygu ei gronfa ei hunan o beirianwyr medrus yn talu’r ffordd i Compact Orbital Gears mewn cyfnod o brinder ledled Prydain.
Mae gan y cwmni dri phrentis a phump o weithwyr ifanc eraill yn gweithio tuag at gymwysterau Addysg Bellach a ddarperir gan Myrick Training a Grŵp Colegau NPTC.
Dywed cwmni gofal cartref Wales England Care Ltd fod ei Raglen Brentisiaethau’n hanfodol i’w gynlluniau i dyfu a’i bod eisoes wedi hybu ei berfformiad ac ansawdd ei waith, gan sicrhau bod staff yn aros yn hirach.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, dywed y cwmni o Gasnewydd fod y rhaglen wedi cyfrannu at gynnydd o 57% mewn gwerthiant a sgôr cymderadwyaeth o 98% gan gleientiaid. Gwnaed hyn trwy wella sgiliau, hyder ac effeithlonrwydd ei staff a lleihau costau, gan arwain at gynnydd o 177% mewn incwm net.
Mae cryn dipyn yn llai o fynd a dod ymhlith y staff ers i’r prentisiaethau gael eu cyflwyno ac mae’r oriau gofal a ddarperir bob wythnos wedi cynyddu o 200 i 1,000 ers 2017.
Mae Wales England Care yn ymroi i gynnig gofal o’r safon uchaf. Mae ganddynt weithlu o 42, yn cynnwys 13 o brentisiaid sy’n gweithio tuag at Brentisiaethau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Lefelau 2 i 5. Darperir yr hyfforddiant gan ei chwaer gwmni, Wales England Care Training.
Dywed Thomas Skip and Plant Hire, o Gaernarfon, bod prentisiaethau dwyieithog yn allweddol i dwf y cwmni annibynnol llwyddiannus ym maes sgipiau a rheoli gwastraff.
Gan fod cynifer o bobl yr ardal yn siarad Cymraeg, mae’r cwmni o’r farn ei bod yn bwysig i’r staff ddysgu trwy gyfrwng yr iaith. Mae prentisiaethau, a ddarperir gan Hyfforddiant Cambrian, yn helpu’r cwmni i gadw staff yn hirach, cynnig gwell gwasanaeth i gwsmeriaid a dysgu mwy am y diwydiant gwastraff.
Mae Thomas Skip and Plant Hire, sydd â thri phrentis mewn gweithlu o 10, yn ymroi i warchod yr amgylchedd trwy gadw cymaint o wastraff ag y bo modd rhag mynd i safleoedd tirlenwi.
Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (50 i 249 o weithwyr)
Mae cwmni Andrew Scott Limited o Bort Talbot, a oedd yn dathlu ei ben blwydd yn 150 oed yn 2020, yn dal i fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus.
Dechreuodd nifer o’r uwch-reolwyr presennol eu gyrfa fel prentisiaid gyda’r cwmni – y cwmni adeiladu hynaf yng Nghymru sy’n dal i fynd ac un sy’n benderfynol o wneud y defnydd gorau o’r ‘bunt Gymreig’ trwy recriwtio prentisiaid lleol a’u hyfforddi ar gyfer gyrfaoedd maith.
Yn ogystal â Rhaglen Brentisiaethau uniongyrchol y cwmni o Fargam, mae Andrew Scott Ltd wedi cefnogi dros 50 o bobl trwy Gynllun Rhannu Prentisiaethau Cyfle.
Mae CITB Cymru yn lleoli prentisiaid ar gyrsiau Gosod Brics, Gwaith Saer a Gweithredydd Adeiladu Peirianneg Sifil yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Castell-nedd Port Talbot.
Mae gan Convey Law gynlluniau uchelgeisiol i dyfu hyd at 50% yn 2021 trwy Raglen Brentisiaethau fewnol ddyfeisgar a ddisgrifir gan y rheolwr gyfarwyddwr fel un drawsnewidiol.
Datblygodd y cwmni o Gasnewydd y dull hwn o weithredu ar ôl cael anhawster i recriwtio trawsgludwyr. Gwelodd ei bod yn well hyfforddi prentisiaid yn y dulliau diweddaraf a’u helpu i ddysgu mewn ffordd sy’n adlewyrchu gwerthoedd a dulliau gweithredu’r cwmni.
Trwy bartneriaeth gyllido â Choleg Caerdydd a’r Fro, aeth Convey Law ati i greu The Conveyancing Academy yn 2014 a bu hynny’n help i’r cwmni gyrraedd ei dargedau recriwtio, gyda nifer y trawsgludwyr yn codi o 25 yn 2019 i 55 yn 2020. Dyblwyd nifer y prentisiaid o 15 i 30 mewn blwyddyn.
Yn ôl Cambria Maintenance Services Limited, sydd â chanolfannau yn Ewlo a Chaerdydd, bu buddsoddi yn natblygiad y gweithlu a chynllunio ar gyfer olyniaeth yn hanfodol i lwyddiant y busnes sy’n gwneud gwaith cynnal a chadw ar dros 12,000 o dai ledled Cymru.
Mae gan y cwmni dros 160 o staff, yn cynnwys 16 o brentisiaid sy’n allweddol i lwyddiant y busnes yn y dyfodol. Mae Cambria, sy’n rhan o Grŵp Tai Wales & West, wedi cyflogi 37 o brentisiaid dros y 10 mlynedd diwethaf a’r bwriad yw cyflogi rhagor fel rhan o gynllun treigl pum mlynedd.
Mae Coleg Cambria a Choleg Caerdydd a’r Fro yn cynnig Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweithrediadau Cynnal a Chadw ynghyd â Phrentisiaethau mewn Gosod Systemau ac Offer Electrodechnegol a Gwaith Plymwr a Gwresogi ar gyfer cwmni Cambria.
Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250 i 4,999 o weithwyr)
Llwyddodd Heddlu Dyfed Powys Police, sydd â’i bencadlys yng Nghaerfyrddin, i drawsnewid ei broses recriwtio ar ôl i’w raglenni dysgu seiliedig ar waith dalu ar eu canfed.
Mae wedi cyflogi 200 o brentisiaid dros y pum mlynedd diwethaf. Mae dros 150 ohonynt yn gweithio i’r sefydliad ar hyn o bryd gan ddilyn un o’r deg cwrs a ddarperir gan hyd at naw darparwr dysgu.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei haddasu i fodloni anghenion penodol fel bod yr hyn a ddysgir yn berthnasol i’r gwasanaeth a roddir i’r cyhoedd.
Yn ogystal ag agor y drws i bobl newydd, mae ffeiriau gyrfaoedd mewnol yn annog aelodau’r staff i ddatblygu eu gyrfa a symud ymlaen, gan lenwi bylchau sgiliau â phobl fedrus, wybodus a brwd.
Mae Anelu’n Uchel Blaenau Gwent a Merthyr Tudful wedi creu Rhaglen Brentisiaethau arloesol er mwyn llenwi’r bwlch sgiliau sydd yn y diwydiant gweithgynhyrchu a mynd i’r afael â lefelau diweithdra uchel yn ardaloedd dau o awdurdodau lleol y de.
Mae Rhaglen Rhannu Prentisiaethau o fudd i gwmnïau sydd wedi mabwysiadu ei dulliau gweithredu arloesol lle caiff dysgwyr eu cylchdroi o gwmpas nifer o gyflogwyr gan gwblhau unedau tuag at eu prentisiaeth.
Yn 2015, sylwodd Bwrdd Ardal Fenter Glyn Ebwy bod prinder gweithwyr â sgiliau Lefel 3 ac uwch ym Mlaenau Gwent ac, ar ôl dwy flynedd, ymunodd Merthyr Tudful â nhw.
Erbyn hyn, mae Anelu’n Uchel yn cydweithio â Choleg y Cymoedd, sy’n gysylltiedig â Choleg Gwent, a Choleg Merthyr Tudful i feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr medrus. Gwnânt hyn trwy gynnig prentisiaethau mewn Peirianneg Drydanol, Peirianneg Fecanyddol, TGCh, Gwyddoniaeth Gymhwysol, Peirianneg Ansawdd ynghyd â Gweinyddu Busnesau, Gweinyddu Masnachol, a Chyllid.
Mae Dow Silicones UK Limited, y Barri, yn llwyddo i feithrin llawer o’i weithwyr arbenigol ei hunan gan ddefnyddio prentisiaethau.
Ac yntau’n un o’r cwmnïau mwyaf yn y byd ym maes gwyddoniaeth mater, bu Dow yn cynhyrchu nwyddau rhyngol silicon yn y Barri ers 1952. Mae’r cwmni’n cydweithio’n agos â nifer o ddarparwyr dysgu, yn cynnwys Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC), gan gynnig pum llwybr dysgu ar Lefelau 2 a 3, a thri llwybr arall ar ffurf Prentisiaethau Uwch.
Mae tîm prentisiaid cynnal a chadw Dow yn cynllunio, yn adeiladu ac yn darparu proses ar gyfer offer gweithiol y gall y coleg eu defnyddio wrth ddysgu ar y campws.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae llawer o brentisiaid wedi symud ymlaen i swyddi uchel gyda’r cwmni sydd hefyd yn cynnig Prentisiaethau Gradd mewn partneriaeth â Phrifysgol y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol De Cymru i bobl sy’n awyddus i ganfod cyfleoedd newydd ar gyfer eu gyrfa.
Macro-gyflogwr y Flwyddyn (5,000 a mwy o weithwyr)
Bu hyblygrwydd yn allweddol i lwyddiant Rhaglen Brentisiaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf sydd wedi dal i ffynnu er gwaethaf heriau pandemig byd-eang a Storm Dennis.
Trefnwyd i’r 80 o brentisiaid weithio gartref a dysgu o bell a chynigiwyd estyniadau i gyrsiau a dyddiadau cau. Bu prentisiaid yn cefnogi gwasanaethau hanfodol yn y gymuned – bu rhai’n cydweithio â’r GIG ar ddata am bobl oedd yn gorfod eu gwarchod eu hunain rhag y coronafeirws, ac mae rhai wedi bod yn dosbarthu parseli bwyd.
Mewn ymateb i’r storm fis Chwefror diwethaf, a achosodd ddifrod i ffyrdd, pontydd a chanol trefi yn yr ardal, mae’r cyngor wedi recriwtio pedwar prentis ychwanegol mewn peirianneg sifil.
Gyda’r fath ymrwymiad i hyfforddiant, roedd cyfradd cwblhau prentisiaethau gyda’r cyngor yn 94%, gydag wyth o bob deg prentis yn mynd ymlaen i weithio gyda’r cyngor.
Cymru iachach a mwy cyfartal yw’r nod i Raglen Brentisiaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sydd â 29 o brentisiaid a 18 arall yn disgwyl dechrau ar 17 o Fframweithiau Prentisiaethau.
Mae Academi Prentisiaid y Bwrdd Iechyd yn cydweithio â’r darparwyr hyfforddiant Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Gŵyr Abertawe ac yn cynnig cyfle i ‘brofi cyn prynu’ sy’n golygu y caiff dysgwyr newid eu llwybr dysgu i ddilyn cwrs mwy addas.
Dywedodd y cydlynydd datblygiad staff a phrentisiaid Abbie Finch: “Mae’n nod gennym gynnig rhagor o gyfleoedd am brentisiaethau i rai sydd ag anabledd a phobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal â mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng dynion a menywod ymhlith ein staff o 12,500.”
More News Articles
« Ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ar y rhestr fer am wobrau cenedlaethol — Sêr ym myd dysgu seiliedig ar waith ar restrau byrion Gwobrau Prentisiaethau Cymru »