Sêr ym myd dysgu seiliedig ar waith ar restrau byrion Gwobrau Prentisiaethau Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi cyrraedd rhestrau byrion gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhelir ar 17 Mehefin.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, bydd 35 o ymgeiswyr yn cystadlu am wobrau mewn 12 categori mewn seremoni ddigidol.

Y seremoni wobrwyo yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Mae’n rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae 101,590 o bobl ledled Cymru wedi elwa ar raglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru ers mis Mai 2016.

Mae Thomas Skip and Plant Hire ar y rhestr fer am wobr Cyflogwr Bach y Flwyddyn. Dyma’r cyfarwyddwyr, Iestyn a Natasha Thomas, gyda Louise Jones a Malcolm Williams, prentisiaid.

Mae Cambria Maintenance Services ar y rhest fer am wobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn. Dyma’r cyfarwyddwr, Peter Jackson gyda phrentisiaid, Alex Carter, Jake Kivell a Jack Glynn yn swyddfa ranbarthol y cwmni yn Ewlo.

Y Cwnstabl Angela Williams, swyddog datblygiad proffesiynol gyda Gwasanaethau Dysgu a Datblygu Heddlu Dyfed-Powys sydd yn y rownd derfynol ar gyfer gwobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.

Caiff busnesau llwyddiannus eu cydnabod â gwobrau mewn pedwar categori. Yn y rownd derfynol mae: Cyflogwr Bach y Flwyddyn (1 i 49 o weithwyr): Compact Orbital Gears, Rhaeadr Gwy; Wales England Care Limited, Casnewydd a Thomas Skip and Plant Hire, Caernarfon. Cyflogwr Canolig y Flwyddyn (50 i 249 o weithwyr): Andrew Scott Limited, Port Talbot; Convey Law, Casnewydd a Cambria Maintenance Services Limited, Ewlo a Chaerdydd. Cyflogwr Mawr y Flwyddyn (250 i 4,999 o weithwyr): Heddlu Dyfed-Powys, Caerfyrddin; Anelu’n Uchel Blaenau Gwent a Merthyr Tudful a Dow Silicones UK Limited, y Barri. Macro-gyflogwr y Flwyddyn (5,000 a mwy o weithwyr): Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cwmclydach a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Baglan.

Stephanie Fry o Wales England Care, Casnewydd sydd yn y rownd derfynol am wobr Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith.

Mae ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn cystadlu am ddwy wobr. Yn y rownd derfynol mae: Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Matt Redd, o Gaerdydd sy’n gweithio i Sgil Cymru; Rebecca Strange o’r Ddraenen, Caerdydd sy’n gweithio i Grŵp Educ8 a Lydia Harris o Ben-y-bont ar Ogwr sy’n gweithio i JGR Training. Tiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith: Stephanie Fry o Wales England Care, Casnewydd; Hannah Kane-Roberts o Sblot, Caerdydd sy’n gweithio i Itec a Karen Richards o’r Coed-duon sy’n gweithio i ACT, Caerdydd.

Stevie Williams o Goetre, Port Talbot sydd yn y rownd derfynol am wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn.

Rhyanne Rowlands o Aberdâr ar restr fer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn.

Mae pedwar categori yn y gwobrau i brentisiaid. Yn y rownd derfynol mae: Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Bethany Mason, 21, Llantrisant; Stevie Williams, 36, Goetre, Port Talbot a Joel Mallison, 30, o’r Fenni. Prentis y Flwyddyn: William Davies, 20, Aberdâr; Owain Carbis, 19, Y Ddraenen, Caerdydd ac Owen Lloyd, 23, Coed y Cwm, Pontypridd. Prentis Uwch y Flwyddyn: Natalie Morgan, 33, Penarth; Rhyanne Rowlands, 38, Aberdâr; Ciara Lynch, 22, Treforys, Abertawe.

Cyflwynwyd categori “Doniau’r Dyfodol” yn 2019, gan ofyn i gyflogwyr enwebu prentisiaid presennol sy’n gwneud argraff arbennig. Yn y rownd derfynol mae: Sophie Williams, 21, o Hirwaun, sy’n gweithio i Adran Faethu RhCT; Connor Paskell, 21, o Lantrisant, sy’n gweithio i British Airways Avionic Engineering, Llantrisant a Ryan Harris, 21, o’r Ddraenen-wen, Pontypridd sy’n gweithio i Renishaw plc, Meisgyn.

Ross Vincent o Ddoc Penfro sydd yn y rownd derfynol am wobr Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu).

Mae dwy wobr i ddysgwyr yn y categori cyflogadwyedd. Yn y rownd derfynol: Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu): Jessica Apps, 19, o Forgeside, Blaenafon; Ross Vincent, 18, o Ddoc Penfro and Lewis O’Neill, 17, Garden City, Glannau Dyfrdwy. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1): Thibaud Gailliard, 21, o Lynebwy; Jamie Hopkins, 20, o Beachley, Cas-gwent a Chloe Harvey, 19, o Gil-maen, ger Penfro.

More News Articles

  —