Enillydd medal o Gymru wedi sicrhau ei swydd ddelfrydol yn y Caribî diolch i WorldSkills UK

Postiwyd ar gan karen.smith

04/03/2016 Pics (C) Huw John, Cardiff. MANDATORY BYLINE -  Huw John, Cardiff Dean Jones, currently works as a workshop manager for Mercedes-Benz in the Cayman Islands, Caribbean, is encouraging apprentices, learners and employees to compete in the UK’s largest national vocational skills competition, WorldSkills UK e-mail: mail@huwjohn.com Web: www.huwjohn.com

04/03/2016 Pics (C) Huw John, Cardiff. MANDATORY BYLINE – Huw John, Cardiff
Dean Jones, currently works as a workshop manager for Mercedes-Benz in the Cayman Islands, Caribbean, is encouraging apprentices, learners and employees to compete in the UK’s largest national vocational skills competition, WorldSkills UK
e-mail: mail@huwjohn.com
Web: www.huwjohn.com

Mae Llywodraeth Cymru yn annog prentisiaid, dysgwyr a gweithwyr Cymru i gystadlu yn WorldSkills y DU 2016, cystadleuaeth sgiliau galwedigaethol fwyaf Prydain.

Cafodd menter i recriwtio cystadleuwyr o bob cwr o Gymru i fynd benben â rhai o bobl ifanc mwyaf dawnus Prydain ei lansio’r mis hwn. Mae’r ymgyrch yn cynnwys detholiad o gystadleuwyr WorldSkills gan gynnwys Dean Jones, prentis o Abertawe sydd wedi ennill medal.

Dywedodd Dean, rheolwr gweithdy ceir dawnus o Waunarlwydd, mai i gystadleuaeth sgiliau galwedigaethol fwya’r wlad y mae’r diolch am sicrhau swydd ei freuddwydion yn y Caribî.

Bu Dean Jones, 27, sydd nawr yn gweithio i Mercedes-Benz yn Ynysoedd y Cayman, yn cystadlu am y tro cyntaf yng nghategori Technoleg Cerbydau Modur WorldSkills y DU yn 2007 ac mae nawr yn annog pobl ifanc o Gymru i ddilyn eu breuddwydion a chofrestru ar gyfer cystadleuaeth eleni.

Ar ôl cwblhau prentisiaeth fodern uwch gyda Mercedes-Benz yn Abertawe pan roedd yn 19 oed, anogodd y rheolwr Dean i gofrestru ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills y DU ac ers hynny mae wedi teithio’r byd, gan ennill medal aur yng nghystadleuaeth EuroSkills yn Rotterdam yn 2008, a Medaliwn Rhagoriaeth yn WorldSkills International yn Calgary, Canada, yn 2009.

Dywedodd Dean: “Rwyf wastad wedi bod eisiau byw yn y Caribî ac mae WorldSkills wedi gwireddu’r freuddwyd honno. Roedd gen i ddiddordeb yn y diwydiant ceir erioed a’r mwyaf ro’n i’n ei ddysgu, y mwyaf ro’n i’n sylweddoli fod gen i dalent am drwsio a dod o hyd i broblemau gyda cherbydau.

“Mae pob cystadleuaeth lwyddiannus wedi fy helpu i fagu cryn dipyn o hyder ac wedi rhoi’r cyfle i mi deithio ers pan ro’n i’n ifanc iawn – rhywbeth sydd wedi creu argraff ar fy nghyflogwyr, gan fy helpu i ddatblygu’n gyflym yn fy ngyrfa.”

Ers cystadlu yn WorldSkills y DU, mae Dean wedi cael swyddi fel arolygydd gweithdy delwriaeth Prestige yn Nigeria – lle helpodd i agor delwriaeth Prestige, gan addysgu’r protocolau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer adnabod problemau a thrwsio cerbydau modern i’r trigolion lleol – ac i McLaren yn Barcelona lle roedd yn gyfrifol am brofi prototeipiau mewn lleoliad a adeiladwyd yn bwrpasol.

Meddai Dean: “Mae WorldSkills y DU wedi rhoi cyfle anhygoel i mi sydd wedi fy ngalluogi i droi fy hobi yn yrfa, ond mae hynny wedi golygu llawer o waith caled hefyd. Er mwyn sicrhau nad ydych yn llithro nôl gyda’r hyfforddiant sydd ei angen mae’n bwysig eich bod yn frwdfrydig iawn am eich gwaith. Mae WorldSkills wedi bod o gymorth mawr i fy ngyrfa ac alla i ddim annog pobl ifanc ddigon i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.

“Wnes i rioed ddisgwyl y byddai’r gystadleuaeth yn mynd â fi mor bell, ond nawr alla i ddim dychmygu sut fyddai fy mywyd wedi bod pe bawn i heb ymgeisio. Roedd cynrychioli’r DU yn rowndiau terfynol WorldSkills ar gyfer fy set sgiliau i. Roedd yn ddigwyddiad mor fawr a fydd yn aros yn y cof am byth. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried cystadlu i fynd amdani, rhowch gynnig arni, gwthiwch eich ffiniau. Mae’n brofiad gwych a wyddoch chi byth ble fydd pen y daith.”

Mae Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, hefyd yn annog pobl ifanc i gofrestru ar gyfer WorldSkills y DU. Mae Dean yn stori lwyddiant berffaith ac yn dangos pa mor bell mae’r cystadlaethau hyn yn gallu mynd â chi. Mae cystadlaethau WorldSkills yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc gystadlu yn erbyn y gorau yn eu diwydiant ar lwyfan y byd.

“Mae’n ysbrydoli pobl ifanc talentog eraill yng Nghymru i fanteisio ar y cyfleoedd mae WorldSkills yn eu cynnig gan ei fod yn rhoi’r cyfle iddyn nhw deithio’r byd, creu cysylltiadau gwych, datblygu sgiliau ac yn rhoi hwb i’w gobeithion o gael swydd.”

WorldSkills yw’r gystadleuaeth sgiliau rhyngwladol fwyaf yn y byd. Cynhelir y gystadleuaeth bob dwy flynedd ac mae tua 1000 o bobl ifanc 18 i 25 oed yn dod at ei gilydd o bedwar ban byd i gystadlu am fedalau mewn hyd at 60 o wahanol sgiliau. Drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau WorldSkills y DU, mae cystadleuwyr a thiwtoriaid yn gallu rhannu arferion gorau ym meysydd prentisiaethau ac addysgu galwedigaethol, gan godi safonau ar lwyfan rhyngwladol.

Ewch i www.worldskillswales.org am ragor o wybodaeth neu i gofrestru ar-lein cyn y dyddiad cau ar 7 Ebrill 2016.

More News Articles

  —