Colegau Cymru’n Cael Blas Ar Sgiliau

Postiwyd ar gan karen.smith

Cafodd staff a myfyrwyr Coleg Sir Gâr gyfle i fynychu digwyddiad arbennig er mwyn rhoi cynnig ar ambell sgil anghyffredin, er mwyn annog rhagor o fyfyrwyr i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sef cyfres o ddigwyddiadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw dathlu sgiliau galwedigaethol a chreu gweithlu Cymreig tra medrus ar gyfer y dyfodol.

Roedd y digwyddiad yn rhoi llwyfan i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn amrywiaeth eang o gyfarpar uwch-dechnoleg gan gynnwys pecyn roboteg addysgol, hyfforddwr hydrolig, pecyn addysgu technoleg werdd a phecyn animeiddio. Nod y pecynnau diweddaraf yw denu diddordeb pobl ifanc mewn hyfforddiant galwedigaethol, a byddant yn mynd ar daith i ddigwyddiadau sgiliau a diwrnodau agored ysgolion a cholegau ledled y wlad.

Un o’r rhai a fynychodd y digwyddiad oedd Eirian Richards, 17 oed o Goleg Sir Gâr. Dywedodd iddo fwynhau’r profiad yn fawr, yn enwedig archwilio’r Dechnoleg Werdd a rhaglenni robotiaid ar gyfer yr her roboteg.

Meddai Eirian: “Er ’mod i’n astudio Peirianneg Drydanol roedd hi’n ddiddorol dysgu am sgiliau mewn meysydd eraill. Heb os, byddwn i’n annog unrhyw un sydd heb benderfynu ar yrfa eto i roi cynnig ar y gweithgareddau hyn – mae’n ffordd ddifyr o ddysgu.”

Wedi’i drefnu gan dîm Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, mae’r myfyrwyr yn gallu rhoi cynnig ar bob math o weithgareddau sy’n rhoi profiadau gydol y dydd a holi Barry Liles, Llysgenhadwr Sgiliau Cymru, am y cyfarpar a manteision uwchsgilio ieuenctid y genedl.

Meddai Barry: “Mae cryn dipyn o dystiolaeth i ddangos bod cyflwyno cyfleoedd dysgu trwy brofiadau, trwy gyfrwng gweithgareddau ‘Rhoi Cynnig Arni’ o fudd i bobl ifanc – gweithgareddau a fydd, gobeithio, yn eu hannog nhw i fynd ymlaen a chynrychioli’n gwlad mewn cystadleuaeth Prydain gyfan.

“Soniwch am hyfforddiant galwedigaethol, ac mae pobl yn dueddol o feddwl mai rhywbeth ar gyfer meysydd fel trin gwallt a mecaneg ydyw’n unig, ond gobeithio y bydd digwyddiadau fel sesiynau ‘Rhoi Cynnig Arni’ heddiw yn ffordd o ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn dangos y fath ddewis ac amrywiaeth o gyfleoedd datblygu sgiliau sydd ar gael yng Nghymru.

“Mae anghenion sgiliau yn y gweithle yn newid byth a hefyd. Petaech chi wedi dweud wrtha i 10 mlynedd yn ôl y byddem ni’n defnyddio cit roboteg i hyfforddi myfyrwyr, fe fyddwn i’n amheus iawn, ond mae setiau sgiliau cyflogwyr yn newid o hyd, ac felly mae’n rhaid i ni wneud popeth posib i baratoi ein pobl ifanc ar gyfer gweithleoedd y dyfodol.”

Ewch i www.worldskillswales.org am fwy o wybodaeth.

More News Articles

  —