Llwyddiant mewn cystadleuaeth sgiliau i ddysgwr o Gei Conna ym maes adeiladu a gwaith metel

Postiwyd ar gan karen.smith

Maciej Porzuczek

Maciej Porzuczek

Mae dyn ifanc 22 oed o Gei Conna wedi ennill medal aur yn rownd derfynol cystadleuaeth sgiliau genedlaethol ym maes adeiladu a gwaith metel.

Cyfres o ddigwyddiadau yw Cystadlaethau Sgiliau Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o ddathlu sgiliau galwedigaethol a chreu gweithlu Cymreig medrus iawn ar gyfer y dyfodol.

Wrth i athletwyr Olympaidd hyfforddi’n galed ar gyfer y gemau sydd ar y gorwel yn Rio, mae Maciej Porzuczek yn un o 78 o bobl ifanc o Gymru sydd wedi bod yn perffeithio’u sgiliau mewn ymgais i ennill medal. Mewn galwedigaethau amrywiol, o ddylunio graffig i waith patisserie, efallai y bydd yr egin bencampwyr medrus hyn yn mynd yn eu blaenau i herio cystadleuwyr o wledydd eraill, yn yr un modd â chystadleuwyr Olympaidd.

Bu Maciej, o Goleg Cambria, yn cystadlu yn erbyn dau fyfyriwr arall o rannau eraill o Gymru. Roedd yn rhaid i’r rhai yn y rownd derfynol gwblhau cyfres o heriau adeiladu a gwaith metel o fewn cyfnod o wyth awr, a oedd yn cynnwys profi eu sgiliau fel gwneuthurwyr trwy wneud ffrâm bwrdd trestl a chwblhau prawf theori.

Mae Maciej, sy’n brentis gyda GJ Maintenance Engineering, yn astudio ar gyfer tystysgrif a diploma lefel dau mewn peirianneg hefyd yn ogystal â diploma NVQ lefel dau mewn cyflawni gwaith peirianneg.

Meddai Maciej “Rwy’n falch iawn fy mod wedi ennill y gystadleuaeth ac rwy’n gobeithio y gallaf fynd ymhellach i gystadlu yn y rownd nesaf. Bues i’n ymarfer gyda fy nhiwtoriaid yn y coleg, a nhw wnaeth fy annog i gystadlu. Bu’n rhaid i ni wneud ffrâm ar gyfer bwrdd, ac er ei fod yn rhywbeth yr oeddwn wedi’i wneud sawl gwaith o’r blaen yn y gwaith, roedd gwneud hynny mewn wyth awr yn her!

“Byddwn wrth fy modd yn gweithio ar lwyfan olew fel peiriannydd, ac mae profi fy sgiliau yn y gystadleuaeth hon yn ogystal â’m prentisiaeth yn fy helpu i fynd gam yn nes at fy mreuddwyd. Rwyf wedi ymddiddori mewn adeiladu erioed ac rwyf yn cael boddhad mawr yn gweld darlun syml yn dod yn fyw. Rwyf wedi gweithio ar sawl prosiect gwahanol, o adeiladu cynwysyddion a phontydd i adeiladu unedau o silffoedd mewn blociau o swyddfeydd.”

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’n rhan o Raglen Twf a Swyddi Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio hyrwyddo pwysigrwydd sgiliau galwedigaethol, gyda’r nod o roi hwb i alluoedd sgiliau a ffyniant Cymru’n gyffredinol.

Gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfanswm o 33 o Gystadlaethau Sgiliau yn 2016 mewn ystod o sectorau, o waith weldio a gwaith bricio i gerddoriaeth boblogaidd a dylunio gwefannau.

Gallai Maciej fynd ymlaen i gynrychioli Coleg Cambria yn rownd Adeiladu a Gwaith Metel WorldSkills UK, gyda’r nod o gynrychioli Tîm Cymru yn y Sioe Sgiliau eleni yn Birmingham ym mis Tachwedd.

Meddai Julie James AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg:
“Mae lefel y doniau yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru’n gwella’n gyson o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r digwyddiadau hyn yn annog cystadleuaeth iach ac yn ffordd wych o gydnabod y doniau gwych sydd gennym yn ein gwlad.

“Mae dwsinau o golegau, Cynghorau Sector Sgiliau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru yn rhan o fenter Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn barod, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr at drefnu’r gwahanol rowndiau yn cynnwys y rownd derfynol, ond rydym yn awyddus i weld mwy o fusnesau yng Nghymru yn cefnogi eu gweithwyr ifanc dawnus ac yn eu hannog i gystadlu.”

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog: “Mae cyrraedd y rownd derfynol yn gofyn am lawer o waith caled, ond mae ennill yr aur yn dipyn o gamp. Mae’n amlwg bod yr holl gystadleuwyr yn gwbl benderfynol ac yn awyddus tu hwnt i ennill teitl y gorau yng Nghymru.

“Dymunwn bob lwc i Maciej, yr enillwyr a phawb sydd yn y rownd derfynol, nid yn unig yn rownd nesaf y gystadleuaeth, ond hefyd yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

More News Articles

  —