Entrepreneuriaid arobryn: yma welsoch chi nhw gyntaf!

Postiwyd ar gan karen.smith

finalists and winners with Lowri Morgan and Jeff Cuthbert

Gwobrau VQ 2011: enillwyr a chystadleuwyr y rownd derfynol gyda’r Dirprwy Weinidog Sgiliau, Jeff Cuthbert, a chyflwynydd Diwrnod VQ, Lowri Morgan

Cogydd sydd ar ei ffordd i fod y cogydd ifancaf â seren Michelin a ffotograffydd sydd wedi ennill lleoliad â’r holl dreuliau wedi’u talu gyda ffotograffydd ffasiwn ac enwogion byd-enwog yw cyd-enillwyr coron Dysgwr y Flwyddyn VQ.

Cynhaliwyd seremoni Gwobr Dysgwr y Flwyddyn VQ yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd, ar Ddiwrnod Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) – 22 Mehefin 2011. Arweinydd y seremoni oedd y siaradwr sy’n ysbrydoli ac sydd wedi ennill wltra-marathonau, Lowri Morgan.

Mae gan ddau enillydd Gwobr VQ, Luke Thomas a Melissa Jenkins, frwdfrydedd dros eu crefft a llygad busnes craff. Maent yn dalentog, yn ymroddedig ac yn entrepreneuraidd, ac yn siŵr o fynd yn bell.

Uchelgais Luke Thomas, cyn fyfyriwr yng Ngholeg Iâl, Wrecsam, ac Ysgol Uwchradd Cei Connah, yw bod y cogydd ifancaf yn y byd â seren Michelin.

Cafodd ei goroni’n Springboard Future Chef of the Year 2009 ac ers hynny mae wedi cael lleoliadau yn rhai o’r bwytai uchaf eu parch yn y byd, gan gynnwys bwytai â dwy a thair seren Michelin yn Nenmarc, UDA a’r Deyrnas Unedig. Mae wedi gweithio ochr yn ochr â rhai o’r bobl enwocaf ym maes bwyd gan gynnwys Heston Blumenthal, Gary Rhodes a Gordon Ramsay ac wedi coginio i neb llai na’r Tywysog Charles.

Mae Luke hyd yn oed wedi sicrhau ei nawdd personol ei hun i deithio o gwmpas y byd yn dysgu sgiliau coginio newydd. Ei gyrchfan nesaf yw Dwbai, lle mae’n bwriadu mireinio ei sgiliau gyda bwyd môr. Mae’n bwriadu agor ei fwyty ei hun, a fydd o’r ansawdd gorau, yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Yr hyn sy’n syfrdanol yw ei fod wedi cyflawni hyn i gyd ac yntau ond yn 17 oed.

Meddai Luke Thomas: “Dwi wrth fy modd i ennill y wobr hon. Mae’n dangos beth allwch chi ei wneud ar ôl cael cymwysterau galwedigaethol priodol a gyda gwaith caled ar hyd y ffordd.”

Mae’n flwyddyn gofiadwy i Melissa Jenkins, 21 oed, o Gwm Ogwr. Ychydig ddyddiau’n ôl clywodd ei bod wedi graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn ffotograffiaeth. Yn gynharach eleni enillodd Wobr Sefydliad Nikon am Fyfyriwr y Flwyddyn yn y Deyrnas Unedig, un o’r gwobrau amlycaf y gall unrhyw fyfyriwr ar flwyddyn olaf ei gwrs gradd ei hennill. Ei gwobr yw tri mis o waith cyflogedig a threuliau byw er mwyn gweithio yn Llundain fel cynorthwyydd i’r ffotograffydd ffasiwn ac enwogion adnabyddus, John Wright, ynghyd ag offer gorau cwmni Nikon.

Mae ffotograffau Melissa wedi cael eu cyhoeddi mewn cylchgronau cenedlaethol gan gynnwys What Digital Camera? yn ogystal ag adran nodwedd 10 tudalen yn y cylchgrawn ffordd-o-fyw rhyngwladol Sublime.

Bellach mae hi’n sefydlu ei busnes ffotograffiaeth ffasiwn rhyddgyfrannol ei hun ac yn tynnu lluniau o gasgliadau newydd dylunwyr ffasiwn adnabyddus ar gyfer Wythnos Ffasiwn Llundain.

Meddai Melissa Jenkins: “Rwy’n dal i fod yn hollol syn ond rwyf wrth fy modd i ennill gwobr mor fawr. Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan y dalent a welwyd yn y seremoni ac rwy’n teimlo ei bod yn anrhydedd i fod yn rhan ohoni ac yn fwy byth i gael fy newis yn enillydd!”

Llongyfarchodd Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Luke a Melissa ar ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn VQ. Dywedodd “Fel y Dirprwy Weinidog Sgiliau dwi wrth fy modd bod gennyn ni yng Nghymru ddoniau brodorol cryf sy’n gallu cystadlu yn erbyn y byd gyda thalent a dawn entrepreneuraidd.

“Mae cymwysterau galwedigaethol yn gallu darparu sylfaen gadarn i yrfa lewyrchus ar draws yr holl sectorau economaidd amrywiol. Maen nhw’n darparu nid yn unig y wybodaeth sylfaenol y mae ei hangen i’r sector cyflogaeth perthnasol, ond hefyd yn datblygu sgiliau ymarferol a sgiliau busnes ac yn helpu i feithrin cysylltiadau busnes.

“Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd rownd derfynol VQ ac i’r buddugwyr. Mae Cymru’n ymfalchïo yn eich llwyddiant.”

Cliciwch yma i ddarllen mwy o straeon llwyddiant o Gymru- Doniau ar Waith

Diwrnod VQ – Doniau ar Waith

More News Articles

  —