Siarad yn Broffesiynol ac Addysgwyr Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Image advertising the event

Mae digwyddiad blynyddol mawreddog Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), Siarad yn Broffesiynol, yn ôl ar gyfer 2023, gyda’r arbenigwr byd-enwog ar ddiwygio addysg, Michael Fullan.

Yn ei araith, bydd Michael yn trafod canfyddiadau ei ymchwil arloesol a wnaed mewn partneriaeth agos gydag arweinwyr addysg o bob cwr o’r byd.

Bydd cyfle hefyd i chi holi cwestiynnau i Michael mewn sesiwn cwestiwn ac ateb byw, wedi ei lywio gan yr ymchwilydd a’r awdur o fri, yr Athro Alma Harris.
I gael mwy o wybodaeth gan gynnwys manylion ar sut i gofrestru ewch i wefan CGA.
 

Logo Cyngor y Gweithlu Addysg

Mae Addysgwyr Cymru, a gyllidir gan Llywodraeth Cymru ac a ddatblygwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA), yn cynnwys nifer o wasanaethau sy’n dod á chyfleoedd gyrfa, hyfforddiant a swyddi yn sector addysg Cymru ynghyd mewn un lleoliad hawdd.

Gallwch elwa o’r nifer o wasanaethau ar gael, gan gynnwys postio swyddi a chyfleoedd hyfforddiant am ddim, gan arbed miloedd o bunnoedd y flwyddyn.

Mae mwy o wybodaeth ar wefan Addysgwyr Cymru, neu, gallwch ein gwahodd ni i gyfarfod, er mwyn i ni rannu buddion cofrestru gydag Addysgwyr Cymru i chi a’ch cydweithwyr.

https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —