Trawsnewidiad Digidol Jisc

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Rydym ni yn Jisc wedi bod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddarparu nifer o wasanaethau sy’n ymateb i flaenoriaethau’r sector ac yn cyd-fynd â fframwaith Digidol 2030.

Llun generig - gliniaduron ar ddesg

Rydym wedi defnyddio cyfuniad o wasanaethau i ddarparu data pwerus i’ch helpu i wneud penderfyniadau strategol, yn eu plith y Digital Elevation Tool, arolygon Mewnwelediadau Profiad Digidol a’r offeryn darganfod Building Digital Capability.

Rydym hefyd wedi bod yn cynnal ein gweithdai dylunio dysgu a Diemyntau Digidol ac yn cyd-greu a chefnogi cymuned o amgylch XR neu Realiti Estynedig.

Datblygwyd y digital elevation tool i fod yn offeryn hunanasesu ar-lein ar gyfer uwch-arweinwyr addysg a sgiliau ôl-16 i’ch galluogi i ddilysu sefyllfa bresennol eich sefydliad yn erbyn pum thema allweddol a mapio’ch taith ddigidol ym mhob maes yn erbyn y model dyrchafu digidol.

Mae’r arolygon Mewnwelediadau Profiad Digidol yn darparu data pwerus ar y ffordd y mae’ch dysgwyr, eich staff addysgu a’ch staff gwasanaethau proffesiynol yn defnyddio technoleg, beth sy’n gwneud gwahaniaeth a lle gellir gwneud gwelliannau.

Gall yr arolygon, a fydd yn agored o hyn tan fis Mawrth 2023, helpu i ddilysu allbynnau’r Digital Elevation Tool. Mae offeryn darganfod Jisc, Jisc’s Building Digital Capability, yn galluogi staff a myfyrwyr i fyfyrio ar eu galluoedd digidol ac mae wedi’i deilwra i rolau neu feysydd ffocws penodol.

Ar ôl ei gwblhau, caiff pob cyfranogwr ei gyfeirio at adnoddau perthnasol i gryfhau eu galluoedd a’u hyder.

Mae’r gweithdai dylunio dysgu wedi’u creu mewn ymateb i adolygiad thematig gan Estyn yn ddiweddar ac maent yn edrych ar nifer o ddamcaniaethau a modelau dysgu i helpu i ddylunio dysgu cyfunol a dysgu o bell mewn ffordd effeithiol. Maent hefyd yn rhoi cyfle i arbrofi â gwahanol offer a thechnegau digidol y gellir eu defnyddio wrth addysgu.

Yn ogystal, caiff adnoddau anghydamserol eu cyhoeddi ar Hwb, fel y gall staff eu defnyddio pryd a lle bynnag sy’n gyfleus iddyn nhw.

Mae datblygiad staff yn allweddol i weithrediad strategol fframwaith Digidol 2030 ac rydym yn cynnal nifer o weithdai i ennyn diddordeb ac ysbrydoli ymarferwyr ledled Cymru. Bu derbyniad da iawn i’r sesiynau Diemyntau Digidol ar gyfer tiwtoriaid Llythrennedd Digidol gyda Sgiliau Hanfodol Cymru. Mae mwy o’r rhain wedi’u trefnu ar gyfer y gwanwyn, a bydd eich rheolwr perthynas yn cysylltu â’r dyddiadau. (Rydym hefyd yn cynnal gweithdai a allai fod o ddiddordeb, am dâl, gan gynnwys ein Digital Skills for Employability ym mis Ionawr a mis Mai 2023.)

Rydym wedi sefydlu rhwydwaith o reolwyr ac ymarferwyr ledled Cymru sydd â diddordeb mewn XR neu Realiti Estynedig (Extended) sy’n cynnwys Realiti Rhithwir a Realiti Estynedig (Augmented) ar gyfer addysgu a dysgu. Cefnogir aelodau i rannu syniadau, gofyn cwestiynau a chydweithio ag eraill ar eu taith rithwir. Byddwn yn cynnal ein digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf ym mis Mawrth 2023 felly cadwch olwg am ragor o fanylion gan eich rheolwr perthynas. I ymuno â’r gymuned yn MS Teams, defnyddiwch y ddolen hon.

Mae staff Jisc yn cyhoeddi nifer o flogiadau trwy gydol y flwyddyn ac, yn ddiweddar, rydym wedi bod yn mynd i’r afael â chyflenwadau ynni, parhad busnes a chynaliadwyedd.

Ymhlith y postiadau defnyddiol mae:
When the bytes go out: preparing digital education for power outages
Learning if the lights go out

Mae’r holl wasanaethau hyn am ddim i ddeiliaid contractau a gomisiynwyd a’u partneriaid eu defnyddio diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru ac edrychwn ymlaen at ymuno â chi ar eich taith o drawsnewid digidol.

Cewch ragor o wybodaeth gan eich rheolwr perthynas gyda Jisc.

Jisc

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —