Hysbyseb deledu’n dod ag enwogrwydd i Gethin, y Llysgennad Prentisiaethau

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Mae Gethin Evans, sy’n brentis plymer, wedi dod i amlygrwydd ledled Cymru diolch i hysbyseb ar S4C yn hyrwyddo prentisiaethau.

Gethin with his employer standing by the work van.

Mae Gethin Evans, Llysgennad Prentisiaethau, wrth ei fodd â gwaith plymer

Gan ei fod mor frwd dros brentisiaethau a’r iaith Gymraeg, mae Gethin, 33, o Aberystwyth, wedi’i benodi’n Llysgennad Prentisiaethau am yr ail flwyddyn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n arwain datblygiad addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol yng Nghymru ac mae’r NTfW yn cynrychioli darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

Yn ystod yr haf, mae Gethin, sy’n gweithio i AHE (Aber Heating Engineers), yn gobeithio cwblhau ei Brentisiaeth Lefel 3 mewn Plymio a Gwresogi trwy City & Guilds, wedi’i chyflenwi gan Hyfforddiant Ceredigion.

Trwy fod yn Llysgennad, mae’n manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo prentisiaethau Cymraeg a dwyieithog, yn cynnwys i cyfle i ymddangos yn yr hysbyseb ar S4C. Cafodd yr hysbyseb sylw mawr gan iddi gael ei dangos yn ystod egwyl hanner amser un o gêmau pêl-droed Cymru.

Mae wedi cymryd rhan mewn sesiynau meddiannu Instagram a drefnir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r NTfW lle mae’n sôn am brentisiaethau a’i swydd, yn aml mewn ffordd hwyliog a difyr.

“Rwy’n dweud wrth bawb nad dim ond pobl sydd newydd adael yr ysgol sy’n gwneud prentisiaeth,” meddai Gethin, a fu’n gweithio gyda chwmni argraffu am 12 mlynedd cyn newid gyrfa er mwyn cynnal ei deulu. “Rwy’n enghraifft berffaith o hynny.

“Rwy wrth fy modd â gwaith plymer ac rwy’n teimlo’n gartrefol gydag AHE sy’n eich cefnogi i symud ymlaen ac sy’n gwmni da i weithio iddyn nhw. Rwy’n mwynhau fy mhrentisiaeth achos rwy’n dysgu sgiliau newydd. Mae tri ohonon ni wedi symud ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen gyda’n gilydd ac rydyn ni’n bownsio syniadau rhwng y naill a’r llall.

“Mae’n bwysig iawn bod cyfleoedd i wneud prentisiaethau’n ddwyieithog lle bo modd. Mae prentisiaethau’n wych achos does dim ffordd well o ddysgu’ch crefft nag yn y gweithle.”

Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi symud ymlaen i weithio ar brosiectau mwy o faint ac mae ganddo ei fan waith ei hunan. Mae’n mwynhau bod ar alwad gan fod hynny’n gyfle i wella’i brofiad a’i sgiliau wrth orfod datrys gwahanol broblemau plymio a gwresogi ar ei ben ei hun.

Gethin oedd yn gyfrifol am berswadio’i hen ffrind a chyn-gydweithiwr yn y cwmni argraffu, Sion Jones o Aberystwyth, i wneud prentisiaeth. Mae Sion bellach yn gwneud yn dda fel saer coed ac mae yntau, fel Gethin, yn Llysgennad Prentisiaethau.

Cafodd Gethin ei enwebu’n Llysgennad Prentisiaethau gan Annabel Cooper, asesydd gyda Hyfforddiant Ceredigion Training.

“Mae Gethin yn dod ymlaen yn dda iawn ac mae’n frwd iawn dros y Gymraeg a’i brentisiaeth,” meddai. “Mae wedi dangos y gallwch newid gyrfa’n llwyddiannus beth bynnag yw eich oedran, gyda help prentisiaeth.”

Dywedodd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTfW: “Mae llawer o weithleoedd yn dod yn fwy dwyieithog, ac felly gall gwneud prentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog roi hwb i hyder rhywun i weithio yn y ddwy iaith ac felly ei helpu i gael gwaith.”

“Mae ein Llysgenhadon Prentisiaethau yn esiampl wych i brentisiaid, gan ddangos manteision dysgu a gweithio’n ddwyieithog.”

Dywedodd Elin Williams, o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Dyma’r drydedd flwyddyn o’r bron i ni benodi llysgenhadon ar gyfer y sector prentisiaethau. Credwn ei bod yn ffordd ardderchog o ddangos i bobl y gallwch barhau i ddysgu’n ddwyieithog trwy wneud prentisiaeth.

“Mae nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn golygu na fu erioed yn bwysicach i chi ddatblygu sgiliau dwyieithog er mwyn gwella’ch cyfleoedd ym myd gwaith.”

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau, ewch i Gyrfa Cymru gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau neu ffoniwch 0800 028 4844.

ceredigiontraining.co.uk/hafan

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —