Tim Cymru ar y brig eto yng Ngemau Olympaidd Sgiliaur’r Du

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Enillodd 59 o gystadleuwyr o Gymru fedalau am eu llwyddiannau yn Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills UK

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae Tîm Cymru wedi hawlio’r teitl fel y rhanbarth sy’n perfformio orau yn Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills UK, gan ennill mwy o fedalau nag unrhyw ranbarth arall yn y DU.

WorldSkills finalists holding the Welsh flag

Prentisiaid yn rowndiau terfynol WorldSkills UK

Cofrestrodd dros bum mil o bobl ifanc i gymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills UK eleni, gyda dim ond 537 wedi’u dewis i gystadlu yn rowndiau terfynol y DU. O’r 130 o gystadleuwyr cryf o Gymru, dyfarnwyd 15 medal aur, 22 medal arian, 15 medal efydd a 7 medal rhagoriaeth.

Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK – Tablau Cynghrair Rhanbarthol

Llwyddodd Tîm Cymru hefyd i gyrraedd brig y tabl cynghrair rhanbarthol yn y cystadlaethau Sgiliau Sylfaenol, gyda chystadleuwyr o Gymru yn ennill cyfanswm o 16 o fedalau – gan gael y gorau ar gystadleuwyr o ranbarthau eraill yn y DU, gan gynnwys Llundain, Dwyrain Canoldir Lloegr a Gogledd Orllewin Lloegr.

Cyhoeddwyd y canlyniadau swyddogol yn ystod seremoni fedalau fyw ar rifyn arbennig o sioe Packed Lunch Steph McGovern ddydd Gwener diwethaf a gynhaliwyd ar ôl cyfres o gystadlaethau cenedlaethol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae WorldSkills UK yn cefnogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn cystadlaethau, asesiadau a meincnodi, gyda chystadleuwyr o bedair gwlad y DU yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i ennill cydnabyddiaeth genedlaethol yn y categori o’u dewis.

Mae Rosie Boddy (20), o Wrecsam, ar brentisiaeth gydag Airbus ar hyn o bryd. Enillodd fedal aur yn y categori Cynnal a Chadw Awyrennau eleni, ac mae’n falch iawn o fod yn hyrwyddo menywod mewn meysydd STEM. Dywedodd:

Apprentice Rosie Boddy standing in front of an aeroplane during the finals

Prentis Boddy o Wrecsam.

“Rwy’n falch iawn o fod wedi ennill medal yn rowndiau terfynol WorldSkills UK. Mae cael y cyfle i wella fy sgiliau presennol a mabwysiadu rhai newydd i fy helpu i ddatblygu fy ngyrfa wedi bod yn anhygoel.

“Mae cystadlaethau sgiliau wedi rhoi cyfle i mi gael blas ar rannau o’m diwydiant nad ydw i o reidrwydd yn dod ar eu traws o ddydd i ddydd. Rydw i wedi dod o hyd i agweddau newydd yn y diwydiant rwy’n ei garu. Byddaf yn siŵr o ddefnyddio fy mhrofiad WorldSkills wrth i mi barhau â’m prentisiaeth a thrwy gydol fy mywyd gwaith.”

Mae’r cystadlaethau’n herio cystadleuwyr mewn pedwar sector gwahanol i gael eu henwi’n orau yn eu sgil, gan gynnwys Adeiladu a Seilwaith, Peirianneg a Thechnoleg, Iechyd, Lletygarwch a Ffordd o Fyw, a Digidol, Busnes a Chreadigol.

Cynhaliodd Coleg Caerdydd a’r Fro nifer o rowndiau terfynol a’r Coleg oedd hefyd yn cynnal yr holl gystadlaethau Sgiliau Sylfaenol eleni – grŵp o gystadlaethau sydd wedi’u llunio ar gyfer myfyrwyr sydd â datganiad Anghenion Addysgol Arbennig a/neu anableddau.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Rwy’n falch o allu dathlu blwyddyn arbennig arall i Dîm Cymru yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK. Bob blwyddyn, mae Cymru’n codi’r bar yn uwch, mae’r safonau’n codi, ac mae’r cystadleuwyr yn falch iawn o gynrychioli ein gwlad.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol a rhoi cyfleoedd i’n pobl ifanc ddatblygu sgiliau o’r radd flaenaf. Mae WorldSkills a’r prosiect Ysbrydoli Sgiliau yng Nghymru yn rhan bwysig o hyn. Dymunaf bob lwc i gystadleuwyr eleni wrth iddynt ddefnyddio’r sgiliau hyn i greu gyrfaoedd llwyddiannus i’r dyfodol yng Nghymru.”

Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr WorldSkills UK: “Am berfformiad. Nid ar chwarae bach mae cael eich coroni fel y gorau yn y DU, yn enwedig gyda’r holl darfu a’r anawsterau y bu’n rhaid i’r cystadleuwyr eu goresgyn dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae pawb sydd wedi cynnig eu hunain ar gyfer cystadlaethau WorldSkills UK eleni yn ysbrydoliaeth fawr, a dylen nhw fod yn falch o’u hymdrechion. Sgiliau yw anadl einioes pob economi, gan greu swyddi o ansawdd uchel, gyrfaoedd gwerth chweil, mewnfuddsoddiadau a thwf.”

Mae WorldSkills UK yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei redeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig-ar-waith a sefydliadau sy’n cael eu harwain gan gyflogwyr, yn ceisio ysbrydoli ac uwchsgilio cenedlaethau’r dyfodol drwy ddatblygu sgiliau galwedigaethol pobl ifanc wrth ddathlu eu llwyddiannau.

Mae’r cystadlaethau’n dechrau ar lefel ranbarthol gyda Chystadleuaeth Sgiliau Cymru dan arweiniad y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, ac maent yn symud ymlaen i gystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.

I gael rhagor o wybodaeth am WorldSkills UK a sut i ddechrau eich taith fel cystadleuydd, tiwtor neu gyflogwr yng Nghymru, ewch i Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —