Gobaith am wobr i brentis peiriannydd sifil sy’n anelu at ei nod

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Russell Beale yn anelu at fod yn Beiriannydd Sifil Siartredig.

Russell Beale yn anelu at fod yn Beiriannydd Sifil Siartredig.

Bod yn Beiriannydd Sifil Siartredig yw nod Russell Beale ac mae eisoes wedi ennill gwobr yn y maes.

Mae’r dyn ifanc 21 oed o Bont-y-pŵl, a enillodd wobr Prentis y Flwyddyn 2017 gan y CITB yng Nghymru, yn gweithio i VINCI Construction Grands Project ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar baratoadau ar gyfer ffordd liniaru’r M4 yng Nghasnewydd.

Trwy’r darparwr hyfforddiant CITB, mae Russell wedi cwblhau Prentisiaeth mewn Peirianneg Sifil ar gyfer Technegwyr a Diploma BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig. Ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer HNC a bydd yn symud ymlaen i wneud gradd BEng (Anrhydedd) ym Mhrifysgol De Cymru trwy gael ei ryddhau am ddiwrnod yr wythnos o’r gwaith. Mae’n disgwyl graddio yn 2021.

Yn awr, mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Yn ystod ei brentisiaeth bu’n rheoli prosiect grŵp yn y coleg i gynllunio datblygiad amlbwrpas. Cafodd hwnnw’i gydnabod fel un “eithriadol” ac ar hyn o bryd mae’n mentora prentisiaid eraill.

Mae Neil wedi defnyddio’i wybodaeth i foderneiddio technegau a gweithdrefnau yn ei waith, ac i baratoi llawlyfrau hyfforddi a chyflwyniadau, ac arwain sesiynau hyfforddi ar gyfer cydweithwyr. Mae’n mynd ar gyrsiau ac i seminarau ac mae’n ymchwilio i brosiectau peirianneg sifil er mwyn canfod technegau newydd ac enghreifftiau o arferion da.

Mae’n rhannu ei sgiliau yn y gweithle ac mae wedi creu modelau 3D ac wedi llwytho data ar i-Pads i helpu gweithwyr safle i weld sut y dylai’r prosiect terfynol edrych.

“Trwy gydol fy mhrentisiaeth roeddwn wedi ymrwymo’n llwyr i fod yn beiriannydd sifil cymwysedig,” meddai Russell. “Rwy’n teimlo bod gen i daith hir o fy mlaen ac rwy’n bwriadu mynd mor bell ag y gallaf yn fy ngyrfa.”

Wrth ganmol “ymroddiad eithriadol” Russell, dywedodd Stephen Bullock, swyddog prentisiaethau’r CITB: “Pan ddaeth Russell i’r CITB, ychydig roedd yn ei wybod am beirianneg sifil ond, dros y ddwy flynedd, mae wedi gweithio’n barhaus i gyrraedd y man lle mae heddiw.”

Wrth longyfarch Russell ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —