Gobaith am Wobr i Cheradine sy’n gwerthfawrogi cyfrifoldeb gyda Grŵp Pobl

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Cheradine Jones sydd ar restr fer Doniau’r Dyfodol.

Mae un swydd yn ddigon anodd i’r rhan fwyaf o bobl ond mae Cheradine Jones yn llwyddo i jyglo tair swydd gyda Grŵp Pobl, mudiad nid-er-elw sy’n landlord cymdeithasol cofrestredig ac sy’n cynnig gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru a gorllewin Lloegr.

Mae Cheradine yn jyglo’i swyddi fel Cynorthwyydd Llywodraethiant a Swyddog Cynorthwyol Diogelu Data y Grŵp gyda gwaith prosiect yn yr Adran Gyfleusterau. Mae Cheradine, sy’n byw yn Rhydaman, yn 36 oed ac yn fam i ddau, wrth ei bodd â her y gwaith, a hithau hefyd yn gwneud Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli Cyfleusterau.

Erbyn hyn, cafodd ei hymroddiad i ddysgu a’i chyfraniad at y busnes eu cydnabod gan ei bod wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Doniau’r Dyfodol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Bwriad y wobr newydd hon yw cydnabod prentis sydd ‘wedi dangos cynnydd personol sylweddol’ ac wedi rhoi ‘hwb pendant a chadarnhaol i berfformiad sefydliad eu cyflogwr.’

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae Cheradine yn cael ei hyfforddi’n fewnol a gyda Choleg Gŵyr Abertawe ar gyfer y brentisiaeth uwch a fydd yn rhoi iddi Ddiploma Lefel 4 mewn Arferion Rheoli Cyfleusterau sy’n helpu’r busnes i sicrhau ystad ddiogel, lân, sy’n cydymffurfio â’r gyfraith ac yn addas at y diben,

Mae’n cael llwyddiant wrth gefnogi nifer o brosiectau yn cynnwys ailddatblygu Pencadlys Grŵp Pobl, Exchange House, Abertawe, gweithredu arferion gweithio ystwyth ac arbed costau i’r busnes.

Yn ogystal, daeth yn arweinydd prosiect yn y tîm llywodraethu, mae wedi datblygu gwybodaeth ddigidol ac wedi gwirfoddoli i gynrychioli’r cwmni ar Dasglu Diogelu Data yng Nghymru.

Dywedodd Rheolwr Llywodraethiant Grŵp Pobl, Gillian Owen: “Mae Cheradine yn gymeriad pendant sydd â deallusrwydd emosiynol da ac sy’n wych am gyfathrebu. Mae ei phersonoliaeth yn disgleirio, mae’n egnïol, yn ei hysgogi ei hunan ac eraill ac yn hybu perfformiad y sefydliad.”

Dywedodd Cheradine: “Rwy’n teimlo’m freintiedig ac yn gyffrous o gael fy enwebu ar gyfer Gwobr Doniau’r Dyfodol. Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn eithriadol o hyblyg. Byddai’r hyfforddwr Rheoli Cyfleusterau, Alan Robbins, yn dod i mewn yn gynnar yn y bore i gyflwyno modiwl gan fod hynny’n gyfleus i fy nhrefniadau gofal plant.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Cheradine a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —