Gobaith am wobr i Ensinger sy’n buddsoddi amser ac arian mewn prentisiaid
Ysgol brentisiaethau a hyfforddwr prentisiaid llawn amser – dim ond dau o’r camau mae cwmni plastigau peirianneg Ensinger o Donyrefail wedi’u cymryd i sicrhau y gall gynnal gweithlu o safon uchel.
Yn ogystal, mae wedi buddsoddi £150,000 mewn turniau a pheiriannau malu sy’n gweithio â llaw, peiriannau malu a thurnio CNC ac efelychwyr i ychwanegu at hyfforddiant ymarferol y garfan bresennol o wyth prentis.
Yn awr, mae’r buddsoddiad yn y prentisiaid wedi’i gydnabod wrth i’r cwmni gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru fis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.
Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.
Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.
Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Mae prentisiaid Ensinger yn gweithio tuag at NVQ Lefel 2 Cyflawni Gwaith Peirianneg, NVQ Lefel 3 Diploma Estynedig mewn Peirianneg Fecanyddol neu BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol.
Mae pob un yn cael dillad gwaith a bocs tŵls personol ac yn cael eu monitro’n rheolaidd. Maent hefyd yn cael adolygiad chwarterol ac asesiadau allanol. Mae gan Ensinger wyth prentis sy’n gweithio tuag at gymwysterau peirianneg Lefel 2 a 3 gyda TSW Training ac fe’u cefnogir trwy eu rhyddhau am y dydd i Goleg y Cymoedd, Coleg Pen-y-bont a’r Newport and District Training Association.
Mae Ensinger yn ymestyn allan i ysgolion a cholegau i hyrwyddo’i raglen brentisiaethau gynhwysol, mae’n mynd i ffeiriau swyddi ac yn cynnig lleoliadau a phrofiad gwaith. Mae’r cwmni’n gweithio’n galed i sicrhau nad yw anabledd, ethingrwydd na rhywedd yn rhwystro pobl rhag cychwyn ar y rhaglen.
O’r Almaen y daw perchnogion y cwmni sy’n cael ei redeg gan deulu. Mae ganddo drosiant gros blynyddol o £40m ac mae o’r farn y bydd cymryd rheolaeth o’i hyfforddiant yn llenwi’r bwlch mewn doniau peirianyddol, yn help i gael y staff i aros gyda’r cwmni ac yn hybu cyfnewid gwbodaeth, sy’n hanfodol i waith arloesol yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Gary Davies, Cyfarwyddwr Ensinger; ”Mae prentisiaid yn dod ag egni, brwdfrydedd ac arloesedd i’n cwmni ni. Gyda’r rhaglen hon, gallwn addasu’r hyfforddiant i’r union safon a’r union allu sy’n angenrheidiiol ar gyfer ein gweithlu ni a’r diwydiant.”
Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ensinger a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.
“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”
More News Articles
« Gobaith am Wobr i Cheradine sy’n gwerthfawrogi cyfrifoldeb gyda Grŵp Pobl — Gobaith am wobr i ITV Cymru sy’n cyrraedd targedau prentisiaethau »