Gobaith am wobr i Ciara sy’n arwain y ffordd ym myd peirianneg sifil

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Ciara Lynch – “mae prentisiaethau’n wych”.

Mae Ciara Lynch, sy’n Brentis Uwch, yn gwneud ei marc ym maes adeiladu a pheirianneg sifil, diolch i’w gwaith ardderchog fel technegydd cynorthwyol gyda Chyngor Abertawe.

Eisoes, enillodd Ciara, 22, o Dreforys, Abertawe, HNC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig a Phrentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Goruchwylio Safleoedd Adeiladu yng Ngholeg Pen-y-bont. Erbyn hyn, mae wedi dechrau ar Radd mewn Peirianneg Sifil.

A hithau wedi cael Ysgoloriaeth Quest gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE), ei nod yw sicrhau achrediad proffesiynol ar lefel technegydd ac, yn y pen draw, bod yn Beiriannydd Sifil Siartredig.

Mae Ciara, sy’n llysgennad gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), yn awyddus i hyrwyddo manteision prentisiaethau, gan dynnu sylw at gyfleoedd i fenywod mewn diwydiant sy’n hybu amrywiaeth.

Yn awr, mae Ciara wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.
Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Wrth gydweithio â gwahanol dimau yn y cyngor, mae Ciara wedi dysgu llawer o sgiliau a gwybodaeth ac wedi cael profiad gwerthfawr.

Bu Ciara yn gweithio ar gais llwyddiannus y cyngor am gyllid o £2.1 miliwn o Raglen Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, er mwyn gwella seilwaith Abertawe i annog pobl i gerdded a seiclo.

Bu mewn cysylltiad ag ysgolion, grwpiau seiclo a cherdded, cymunedau a chontractwyr i hyrwyddo prosiectau pwrpasol i ateb anghenion y gymuned. Enillodd y prosiect Wobr am Werth gydag Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW) a chyrhaeddodd Ciara’r rhestr fer ar gyfer eu Gwobr Prentis y Flwyddyn.

Meddai Ciara: “Ar bob cam o fy mhrentisiaeth, rwy wedi manteisio ar y cyfleoedd y mae fy nghyflogwr wedi’u cynnig i mi i ddatblygu ac ehangu fy ngwybodaeth.

“Rwy’n credu bod prentisiaethau’n wych achos rydych chi’n cael cyfle i gyfuno profiad a sgiliau’r gweithle gyda’r wybodaeth rydych yn ei dysgu yn y coleg a’r brifysgol.”

Dywedodd David Hughes, prif beiriannydd Dinas a Sir Abertawe bod Ciara yn batrwm i eraill a’i bod yn dangos pa mor fuddiol i gyflogwyr yng Nghymru yw cyflogi prentisiaid ifanc, brwd a dawnus.

“Mae Ciara wedi cael dylanwad mawr ac rwy’n siŵr y bydd yn ysgogi nifer o gyflogwyr eraill i gyflogi prentisiaid,” meddai.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —