Gyrfa Natalie yn rhoi naid ymlaen diolch i Brentisiaeth Uwch

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Natalie Morgan.

Ar ôl bod yn gweithio yn sector y celfyddydau perffornio yn Llundain am sawl blwyddyn, daeth Natalie Morgan yn ôl i Gymru i ddilyn gyrfa ym maes chwaraeon, ac fe gafodd swydd gyda Gymnasteg Cymru.

Aeth Natalie, 33, o Benarth, ymlaen i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gyda Portal Training o Gaerdydd ac yn awr mae wedi symud ymlaen i Lefel 5.

Diolch i’r sgiliau a ddysgodd yn ystod ei phrentisiaeth, arweiniodd Natalie brosiect llwyddiannus i ymgysylltu â merched ifanc a menywod o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd ac arweiniodd hynny at ffurfio clwb gymnasteg ar eu cyfer.

Lansiwyd y clwb gydag 11 o ferched, ond tyfodd i dros 130, gyda chynnydd o 98% yn nifer yr aelodau mewn dim ond 18 mis. Llwyddodd Gymnasteg Cymru i gyrraedd y nod o adeiladu clwb sy’n cael ei redeg gan y gymuned ei hunan, gan fod pob un o’r 10 o oedolion oedd yn gwirfoddoli wedi dod yn hyfforddwyr cymwysedig erbyn hyn, ac mae 16 o arweinyddion chwaraeon ifanc yn eu helpu.

Llwyddodd y prosiect i feithrin cysylltiadau y tu allan i’r clwb hefyd. Mae Gymnasteg Cymru wedi meithrin partneriaethau cryf gyda sefydliadau fel Diverse Cymru, Ysgol Gynradd Mount Stuart and Chyngor Caerdydd.

Yn awr, mae Natalie ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori.
Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae Natalie yn gweithio ar ddau brosiect arall o ganlyniad i’w phrentisiaeth: un gyda Blynyddoedd Cynnar Cymru a’r llall ar gyfer UEFA, ar y cyd â Disney, i hyrwyddo llythrennedd corfforol trwy adrodd straeon.

Dywedodd Natalie sydd wedi lansio ei busnes bach ei hunan, The Sweet and Sound Co.: “Trwy’r brentisiaeth a gyda chefnogaeth fy mentor, rwy wedi datblygu sgiliau ym maes rheoli prosiectau a llu o sgiliau rheoli eraill.

“Bu’n help i mi arwain prosiect llwyddiannus a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned yng Nghaerdydd a rhoddodd yr hyder i fi daclo prosiectau eraill mwy heriol. Mae fy mywyd proffesiynol a’m bywyd personol wedi elwa oherwydd y brentisiaeth.”

Dywedodd Carys Kizito, rheolwr cydymffurfio gyda Gymnasteg Cymru: “Gwnaeth Natalie gyfraniad enfawr i’n prosiect ar gyfer pobl dduon a rhai o leiafrifoedd ethnig. Aeth yr ail filltir i gefnogi llwyddiant y prosiect er bod ganddi ddwy swydd arall a’i bod yn gweithio ar ei ILM.

“Mae wedi defnyddio ei hangerdd a’i hymroddiad i ddysgu er mwyn rhoi cyfleoedd da i bobl eraill.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —