Gwaith barbwr yn trawsnewid bywyd Gavin ar ôl cyfnod anodd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Gavin Williams wrth ei waith yn Rubens Male Grooming gyda Joanna Lewis, Swyddog Hyfforddi Busnes@LlandrilloMenai yn ei wylio.

Mae Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Barbwr wedi helpu i roi’r sgiliau angenrheidiol i Gavin Williams i drawsnewid ei fywyd ar ôl iddo fynd trwy gyfnod anodd pan fu ei dad farw.

Bu’n rhaid i Gavin, 20 oed, o Landegfan, “frwydro â’i ddemoniaid” cyn cychwyn ar yrfa fel barbwr – cam sydd wedi newid ei fywyd. Erbyn hyn mae’n rhentu cadair yn salon Rubens Male Grooming, Llanfair-pwll.

Datblygodd ei sgiliau trwy wneud Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Barbwr a ddarparwyd gan Busnes@LlandrilloMenai ac mae’n bwriadu symud ymlaen i wneud Prentisiaeth. Wedyn, gall gynnig gwasanaeth eillio â llafn barbwr traddodiadol a rhannu ei sgiliau â phrentisiaid eraill.

“Dwi wedi rheoli a goresgyn llawer o rwystrau yn fy mywyd,” meddai Gavin. “Mi wnes i daro’r gwaelod ond yna mi frwydrais â’r demoniaid a chychwyn ar yrfa sydd wrth fy modd.”

Erbyn hyn, cafodd taith ddysgu Gavin ei chydnabod – cyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Ar ôl gadael yr ysgol, aeth Gavin i’r Coleg Paratoi Milwrol (MPCT) ym Mangor ond, ar ôl i’w dad farw o ganser, aeth yn gaeth i gyffuriau anghyfreithlon. Cafodd ei wahardd o’i gwrs o ganlyniad i hynny a bu hynny’n drobwynt iddo.

Dechreuodd ddilyn prentisiaeth sylfaen yn Kai’s Barbershop ym Mangor cyn symud i Rubens Male Grooming yn ystod yr haf eleni. Yno, mae’n denu mwy a mwy o gwsmeriaid.

“Mae’r brentisiaeth mewn gwaith barbwr wedi newid fy mywyd er gwell,” meddai Gavin. “Mae wedi gwella fy sgiliau gwaith barbwr a fy sgiliau cyfathrebu, ac wedi fy ngwneud yn fwy cydwybodol a phroffesiynol. Allwn i fyth fod wedi dychmygu bod lle’r ydw i heddiw heb y brentisiaeth.

“Mae’r brentisiaeth gwaith barbwr wedi rhoi’r nod angenrheidiol mewn bywyd i mi.”

Dywedodd Joanna Lewis, Swyddog Hyfforddi yn Busnes@LlandrilloMenai: “Mae Gavin yn un o’r prentisiaid Lefel 2 gorau dwi wedi gweithio gyda nhw. Mae wedi datblygu ei sgiliau’n rhagorol. Mae’n ddyn ifanc hoffus iawn, sy’n ysbrydoliaeth i eraill, ac sydd wedi gweithio’n galed i drawsnewid ei fywyd.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Gavin a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —