Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion 2021

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Anfonwch eich enwebiadau ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Cafodd y diwrnod cau ei ymestyn i 22 Mawrth 2021.

Ydych chi’n adnabod dysgwr neu deulu sy’n ysbrydoli? Efallai eich bod yn y gweithle ac yn datblygu cyfleoedd i hyfforddi a sicrhau cynnydd. A ydych chi’n cael effaith o fewn cymunedau lleol ac yn agor mynediad i ddysgu a sgiliau? Rydym eisiau clywed gennych.

Mae’r Gwobrau yn codi’r llen ar yr Wythnos Addysg Oedolion, sydd bellach yn ei 30ain mlynedd yng Nghymru ac yn ddigwyddiad pwysig i hyrwyddo a dathlu dysgu gydol oes.

Mae mwy o angen dysgu gydol oes nag erioed wrth i ni ddechrau sicrhau adferiad o’r pandemig. Mae pawb ohonom angen straeon newydd da ac er yr heriau, gofynnwn i chi wneud popeth a fedrwch i feddwl am enwebu a rhannu straeon eich dysgwyr rhyfeddol.

Rydym eisiau dathlu a rhannu eich straeon
Mae Dysgu a Gwaith yn edrych am bobl, prosiectau a sefydliadau y mae eu llwyddiant yn dysgu yn dangos angerdd, ymrwymiad ac egni eithriadol i newid eu straeon ac ysbrydoli eraill yn y categorïau dilynol:
Gwobrau i Unigolion a Theuluoedd

  • Mewn i Waith
  • Oedolyn Ifanc
  • Newid Bywyd a Chynnydd
  • Iechyd a Llesiant
  • Heneiddio’n Dda
  • Dechrau Arni – Dechreuwyr Cymraeg
  • Gorffennol Gwahanol: Rhannu Dyfodol
  • Dysgu fel Teulu
  • Sgiliau Hanfodol ar gyfer Bywyd (NEWYDD)

Gwobrau i Brosiectau a Sefydliadau

  • Prosiect Effaith ar y Gymuned
  • Sgiliau Gwaith

Sut i gyflwyno eich enwebiad
Os ydych yn cyflwyno enwebiad – darllenwch drwy ein canllawiau a’r ddogfen categorïau i sicrhau eich bod yn ateb y meini prawf yn llawn cyn i chi lenwi eich enwebiad.

Lawrlwythwch y dogfennau islaw:

Anfonwch eich enwebiad drwy e-bost:
E-bostiwch eich ffurflen wedi’i llenwi fel dogfen Word at inspire@learningandwork.org.uk

Mae pawb ohonom angen straeon newydd da ac er yr heriau, gofynnwn i chi feddwl o ddifri am wneud enwebiadau a rhannu straeon eich dysgwyr rhyfeddol.

Lawrlwythwch gopi o daflen Gwobrau Ysbrydoli! a rhannwch yr enwebiadau gyda’ch rhwydweithiau eraill i’w hannog i gydnabod a rhoi sylw i straeon ysbrydoledig pobl prosiectau a sefydliadau yng Nghymru.

Hyrwyddo’r gwobrau:
Helpwch ni i godi ymwybyddiaeth o wobrau Ysbrydoli! ar y cyfryngau cymdeithasol. Defnyddiwch hashtag y gwobrau: #InspireCymru21 a sôn amdanom gan ddefnyddio @LearnWorkCymru ar Twitter. Rydym hefyd ar y llwyfannau cymdeithasol dilynol: Facebook ac Instagram.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am broses enwebiadau Ysbrydoli! cysylltwch â: inspire@learningandwork.org.uk

Dyddiadau ymgyrch ar gyfer eich dyddiadur:
Cynhelir yr Wythnos Addysg Oedolion rhwng 20 – 26 Medi gyda hyrwyddo yn ystod mis Medi.

Os hoffech wybod mwy am yr ymgyrch,
edrychwch ar uchafbwyntiau ymgyrch y llynedd
.

Mae mwy o angen dysgu gydol oes nag erioed o’r blaen wrth i ni gael adferiad o’r pandemig a byddwn angen i fwy o bobl ledled Cymru gael eu hysbrydoli i gymryd rhan yn eu cymunedau, datblygu sgiliau ar gyfer ffyrdd newydd o weithio a diogelu eu hiechyd a’u llesiant.

Os hoffech fwy o wybodaeth am yr Wythnos Addysg Oedolion, anfonwch e-bost at alwevents@learningandwork.org.uk.

More News Articles

  —