Gwyddonydd data sydd ar restr fer gwobr Doniau’r Dyfodol yn mapio’i yrfa

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Joe Peskett, ar restr fer Gwobr Doniau’r Dyfodol, sy’n hoffi datblygu datrysiadau.

Oherwydd ei lwyddiant ar Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Dadansoddi Data yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), mae Joe Peskett wedi cael teithio i Ewrop ac America, ac mae taith i Affrica ar y gweill y flwyddyn nesaf.

Ac yntau’n gweithio ar y Campws Gwyddor Data sy’n rhan o Bencadlys yr ONS yng Nghasnewydd, lle mae 2,500 o weithwyr, fe wnaeth Joe yn rhagorol ar ei brentisiaeth dwy flynedd a llwyddoddi gael swydd lawn amser yn Wyddonydd Data.

Yn awr, mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Doniau’r Dyfodol yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Bwriad y wobr newydd hon yw cydnabod prentis sydd ‘wedi dangos cynnydd personol sylweddol’ ac wedi rhoi ‘hwb pendant a chadarnhaol i berfformiad sefydliad eu cyflogwr.’

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Roedd gwaith tîm Joe ar ‘Mapio’r Goedwig Drefol’ yn ei flwyddyn gyntaf yn cynnwys datblygu data, ar sail lluniau Google Street View, i ddadansoddi delweddau o goed ac ati ar strydoedd dinasoedd. O ganlyniad i hyn, datblygodd brototeip o ddyfais ddelweddu.

Traddododd ddarlithoedd am ei waith arloesol wrth 800 o gynadleddwyr ym Mrwsel cyn symud ymlaen i weithio gyda thîm Platfform Byd-eang y Cenhedloedd Unedig ac yna weithio yn Philadelphia ar y ffordd i ddefnyddio dyfeisiau ar y platfform newydd.

Y flwyddyn nesaf, bydd Joe, sy’n 25 oed, yn mynd i Rwanda i hyfforddi gwyddonwyr data i wneud gwaith a ddatblygwyd trwy Blatfform Byd-eang y Cenhedloedd Unedig i ddadansoddi delweddau lloeren.

Dywedodd Alison Adams, Arweinydd Talent Datblygol yn yr ONS: “Mae Joe yn batrwm i brentisiaid eraill yr ONS ei ddilyn. Yn aml, mae’n eu helpu i symud ymlaen ac mae bob amser yn barod i rannu gwybodaeth.”

Meddai Joe, sy’n dod o Gaerdydd: “Y darparwr hyfforddiant ALS oedd yn cefnogi fy mhrentisiaeth. Cefais gyngor yn y gweithle gan fy nghynghorydd hyfforddiant Anu o ALS, ynghyd â hyfforddiant technegol yng nghanolfan ALS.

“Rwy wrth fy modd yn y gwaith achos mae heriau newydd yn codi’n gyson. Rwy’n mwynhau’r cyffro pan fyddwch yn datrys materion ar ôl ymdrechu’n galed. Mae llawer o gydweithio yn y swydd – trafod problemau gyda chydweithwyr a rhannu syniadau.”

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Joe a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —